xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 3354 (Cy.296)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Diwygio) (Cymru) 2007

Gwnaed

23 Tachwedd 2007

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

27 Tachwedd 2007

Yn dod i rym

27 Rhagfyr 2007

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 45(1)(d), (9), (10), 143(2) a 146(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Diwygio) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 27 Rhagfyr 2007.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn effeithiol mewn perthynas â'r flwyddyn 2008-2009 a blynyddoedd ariannol dilynol.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Eiddo y mae rhwymedigaeth i dalu arno ardrethi eiddo heb ei feddiannu

2.  Diwygir rheoliad 2 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) 1989(3) fel a ganlyn—

(a)ym mharagraff (2)(f) mewnosoder “and the whole hereditament has, subject to paragraph (3), been unoccupied for a continuous period not exceeding six months” ar ôl “industrial hereditament”;

(b)ym mharagraff (2)(g) yn lle “£1500” rhodder “£2200”;

(c)ym mharagraff (3) mewnosoder “and (f)” ar ôl “paragraph (2)(a)”; ac

(ch)ym mharagraff (4) mewnosoder “and (f)” ar ôl “paragraph (2)(a)”.

Brian Gibbons

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

23 Tachwedd 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

O dan adran 45 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ('Deddf 1988') mae ardrethi annomestig yn daladwy ar hereditament heb ei feddiannu os yw'r hereditament yn bodloni'r amodau a geir yn adran 45(1). Mae'r amodau hynny'n cynnwys amod bod yr hereditament yn dod o fewn dosbarth rhagnodedig.

Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) 1989 ('Rheoliadau 1989') yn rhagnodi dosbarth o hereditamentau heb eu meddiannu y mae ardrethi yn daladwy arnynt. Cynnwys y dosbarth yw'r holl hereditamentau heb eu meddiannu nad oes yr un o'r amodau yn rheoliad 2(2) yn gymwys iddynt.

Mae rheoliad 2(2)(f) yn eithrio'r holl hereditamentau a geir mewn rhestr ardrethu annomestig ac sy'n hereditamentau diwydiannol cymwys o rwymedigaeth i dalu arnynt ardrethi annomestig o dan adran 45 o Ddeddf 1988.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1989 fel mai dim ond hereditamentau diwydiannol cymwys sydd wedi bod heb eu meddiannu am gyfnod di-dor nad yw'n fwy na chwe mis a gaiff eu heithrio, o 1 Ebrill 2008 ymlaen, o rwymedigaeth i dalu arnynt ardrethi annomestig o dan adran 45 o Ddeddf 1988.

Mae rheoliad 2(2)(g) yn eithrio'r holl hereditamentau a geir mewn rhestr ardrethu annomestig ac y mae eu gwerth ardrethol yn llai na swm penodedig, sef £1500 ar hyn o bryd, o rwymedigaeth i dalu arnynt ardrethi annomestig o dan adran 45 o Ddeddf 1988. At ddiben hereditament a geir mewn rhestr a lunnir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008, mae'r Rheoliadau hyn yn codi'r ffigur hwnnw i £2200.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi yn http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/buslegislation/bus-legislation-sub.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol a geir yn Neddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 o ran Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau ) 1999 (O.S. 1999/672, erthygl 2, Atodlen 1). Breiniwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.