2007 Rhif 3462 (Cy.307)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19721.

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi2 at ddibenion yr adran honno mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd3 cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra bu'r Rheoliadau canlynol yn cael eu llunio.