xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 388 (Cy.39)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2007

Wedi'u gwneud

13 Chwefror 2007

Yn dod i rym

1 Mawrth 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 39 a 58 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004(1), ac ar ôl ymghynghori yn unol ag adran 39(2) o'r Ddeddf honno ag Archwilydd Cyffredinol Cymru, y cymdeithasau hynny o awdurdodau lleol y mae'n ymddangos iddo eu bod yn ymwneud â hyn a'r cyrff o gyfrifwyr y mae'n ymddangos iddo eu bod yn briodol drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn —

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2007, a deuant i rym ar 1 Mawrth 2007.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005

2.  Yn lle paragraff (1) o Reoliad 7 (Datganiad o gyfrifon) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005(2) rhodder—

(1) Rhaid i gorff y mae paragraffau (3) a (4) yn gymwys iddo baratoi yn unol ag arferion priodol o ran cyfrifon ddatganiad o gyfrifon ar gyfer pob blwyddyn, gyda rhagair esboniadol, y mae'n rhaid iddo gynnwys y datganiadau cyfrifyddu canlynol hynny sy'n berthnasol i swyddogaethau'r corff—

(a)cyfrif refeniw tai;

(b)cronfa bensiwn diffoddwyr tân, os oes un;

(c)unrhyw ddatganiadau eraill sy'n ymwneud â phob cronfa y mae'n ofynnol i'r corff o dan unrhyw ddarpariaeth statudol gadw cyfrif ar wahân ynglyn â hi..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Chwefror 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005 (“Rheoliadau 2005”).

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch cyrff penodol y mae Rheoliadau 2005 yn gymwys iddynt ac ynghylch arferion priodol o ran cyfrifon gan gyfeirio at adran 21(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003.

Mae rheoliad 2 yn dileu rhai o'r darpariaethau a restrir yn rheoliad 7(1) o Reoliadau 2005 ac mae'n ychwanegu cyfeiriad at gronfa bensiwn y diffoddwyr tân.