xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 2687 (Cy.237)

CREDYDAU TRETH, CYMRU

Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) (Diwygio) 2008

Gwnaed

8 Hydref 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Hydref 2008

Yn dod i rym

3 Tachwedd 2008

Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod priodol o dan adran 12(6) o Ddeddf Credydau Treth 2002(1), yn gwneud y diwygiadau a ganlyn i'r Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 2007(2) drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 12(5), (7) ac (8) a 65(3) a (9) o'r Ddeddf honno(3) ac ar ôl ymgynghori â'r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd (4).

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw'r offeryn hwn yw Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) (Diwygio) 2008 a daw i rym ar 3 Tachwedd 2008.

2.  Mae'r offeryn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 2007

3.—(1Diwygir Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 2007 fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 2 (Diffiniadau) —

(a)hepgorer y diffiniadau o “y Rheoliadau Tribiwnlys” ac “y Tribiwnlys”;

(b)mewnosoder y diffiniadau a ganlyn yn y mannau priodol yn nhrefn yr wyddor—

(3Yn erthygl 11 (Apelau) —

(a)ym mharagraffau (1) a (5) yn lle “Tribiwnlys” rhodder “ Tribiwnlys Haen Gyntaf”;

(b)yn lle paragraff 2 rhodder—

(2) Y mae Rheolau Gweithdrefnau'r Tribiwnlys yn gymwys i apêl o dan baragraff (1) fel y maent yn gymwys i apêl o dan adran 79 o Ddeddf 1989 (6).; ac

(c)hepgorer paragraffau (3) a (4).

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

8 Hydref 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Cynllun)

Mae'r offeryn hwn yn diwygio Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 2007 (“Cynllun 2007”).

Mae Cynllun 2007 yn darparu ar gyfer cymeradwyo darparwyr gofal plant at ddibenion adran 12(5) o Ddeddf Credydau Treth 2002. Yn benodol, mae'n darparu ar gyfer gweithredu system ar gyfer penderfynu ar geisiadau am gymeradwyaeth ac ar gyfer yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod cymeradwyaeth neu i'w thynnu'n ôl.

O dan Gynllun 2007 gwnaed apelau i'r Tribiwnlys a sefydlwyd gan adran 9 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 (“y Tribiwnlys”) ac ymdrinid ag apelau o'r fath yn unol â Rheoliadau Tribiwnlys Amddiffyn Plant ac Oedolion Hawdd eu Niweidio a Safonau Gofal 2002. Mae'r darpariaethau apelio wedi'u gosod yn erthygl 11 o Gynllun 2007.

Yn unol â Deddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007 trosglwyddwyd swyddogaethau presennol y Tribiwnlys i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf, a lywodraethir gan Reolau Gweithdrefnau'r Tribiwnlys newydd a wneir yn unol ag adran 22 o Ddeddf 2007.

Mae'r offeryn hwn yn diwygio Cynllun 2007 gan gymryd ystyriaeth o'r newidiadau hyn. Mae'n darparu y bydd unrhyw gyfeiriad at y Tribiwnlys yng Nghynllun 2007 yn cael ei ddisodli gan gyfeiriad at y Tribiwnlys Haen Gyntaf ac mae'n mewnosod diffiniad o'r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erthygl 2 o Gynllun 2007.

Mae hefyd yn diwygio erthygl 11 o Gynllun 2007 drwy fewnosod paragraff (2) newydd sy'n cymhwyso Rheolau Gweithdrefnau'r Tribiwnlys at unrhyw apêl o dan Gynllun 2007 ac yn hepgor paragraffau (3) a (4).

(3)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adrannau 12(5), (7) ac (8) a 65(3) a (9) o Ddeddf Credydau Treth 2002 i Weinidogion Cymru drwy weithrediad paragraff 30 o Atodlen 11 i Deddf Llywodraeth Cymru 2006.

(4)

Deddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007, Atodlen 7, paragraff 24.