xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 2701 (Cy.241)

PRIFFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Cefnffordd Caerdydd i Lan Conwy (yr A470) (Gwelliant Penloyn i Dan Lan) 2008

Wedi'i wneud

10 Hydref 2008

Yn dod i rym

30 Hydref 2008

Mae Gweinidogion Cymru, wrth arfer pwerau a roddir gan adran 10 o Ddeddf Priffyrdd 1980(1) a phob pwer galluogi arall(2), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

1.  Daw'r priffyrdd newydd y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu hadeiladu ar hyd y llwybrau a ddisgrifir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn gefnffyrdd o'r dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym.

2.  Mae llinellau canol y cefnffyrdd newydd yn cael eu dangos gan linellau duon trymion ar y plan a adneuwyd.

3.  Bydd y darn o gefnffordd a ddisgrifir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn, ac a ddangosir â llinellau lletraws â stribedi bras ar y map a adneuwyd yn peidio â bod yn gefnffordd ac yn dod yn ffordd ddiddosbarth o'r dyddiad y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn hysbysu Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fod y cefnffyrdd newydd wedi'u hagor ar gyfer traffig trwodd.

4.  Yn y Gorchymyn hwn:

5.  Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 30 Hydref 2008 a'i enw yw “Gorchymyn Cefnffordd Caerdydd i Lan Conwy (yr A470) (Gwelliant Penloyn i Dan Lan) 2008”

Llofnodwyd o dan awdurdod y Gweinidog dros Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.

S C Shouler

Cyfarwyddwr Cynllunio a Gweinyddu Trafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

10 Hydref 2008

ATODLEN 1LLWYBRU'R CEFNFFYRDD NEWYDD

Dyma lwybrau'r cefnffyrdd newydd, sy'n llwybrau i'r gogledd o Lanrwst rhwng Penloyn a Than Lan ym Mwrdeistref Sirol Conwy:—

(1llwybr oddeutu 0.14 cilometr o hyd, yn cychwyn wrth bwynt 390 o fetrau i'r de o ganol y gyffordd rhwng cefnffordd bresennol yr A470 a'r ffordd ddiddosbarth i Landdoged yn Nhan Lan (a ddangosir â'r llythyren A ar y plan a adneuwyd) ac yn ymestyn i gyfeiriad y gogledd at bwynt 250 o fetrau i'r de o ganol y gyffordd rhwng cefnffordd bresennol yr A470 a'r ffordd ddiddosbarth i Landdoged yn Nhan Lan (a ddangosir â'r llythyren B ar y plan a adneuwyd).

(2llwybr oddeutu 0.79 cilometr o hyd, yn cychwyn wrth bwynt 110 o fetrau i'r de o ganol y gyffordd rhwng cefnffordd bresennol yr A470 a'r ffordd ddiddosbarth i Landdoged yn Nhan Lan (a ddangosir â'r llythyren C ar y plan a adneuwyd) ac yn ymestyn i gyfeiriad y gogledd at bwynt 680 o fetrau i'r gogledd o ganol y gyffordd rhwng cefnffordd bresennol yr A470 a'r ffordd ddiddosbarth i Landdoged yn Nhan Lan (a ddangosir â'r llythyren D ar y plan a adneuwyd).

ATODLEN 2Y DARN O GEFNFFORDD SY'N PEIDIO Å BOD YN GEFNFFORDD

Y darn o gefnffordd sy'n peidio â bod yn gefnffordd yw'r darn hwnnw o gefnffordd yr A470 ym Mwrdeistref Sirol Conwy sydd oddeutu 0.79 cilometr o hyd ac sydd rhwng pwynt 110 o fetrau i'r de o ganol y gyffordd rhwng cefnffordd bresennol yr A470 a'r ffordd ddiddosbarth i Landdoged yn Nhan Lan (a ddangosir â'r llythrennau CC ar y plan a adneuwyd) ac yn ymestyn i gyfeiriad y gogledd at bwynt 680 o fetrau i'r gogledd o ganol y gyffordd rhwng cefnffordd bresennol yr A470 a'r ffordd ddiddosbarth i Landdoged yn Nhan Lan (a ddangosir â'r llythrennau DD ar y plan a adneuwyd).

(2)

Yn rhinwedd O. S. 1999/672 erthygl 2 ac Atodlen 1, a pharagraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae'r pwerau hyn wedi'u trosglwyddo bellach i Weinidogion Cymru o ran Cymru.