xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 2929 (Cy.258)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008

Gwnaed

10 Tachwedd 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

12 Tachwedd 2008

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2008

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 60, 140(4) a 143(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi(1).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2008.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dirymu

2.  Dirymir Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2008(2).

Diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992

3.—(1Diwygir Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992(3) fel a ganlyn parthed blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2009.

(2Yn lle atodlen 4, rhoddir yr atodlen a osodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Brian Gibbons

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

10 Tachwedd 2008

Rheoliad 3

YR ATODLEN

SCHEDULE 4ADULT POPULATION FIGURES

Billing authority areaPrescribed figure
Blaenau Gwent54,000
Bridgend104,800
Caerphilly132,600
Carmarthenshire141,700
Cardiff253,600
Ceredigion64,000
Conwy89,200
Denbighshire76,800
Flintshire117,800
Gwynedd94,000
Isle of Anglesey54,700
Merthyr Tydfil43,100
Monmouthshire69,100
Neath Port Talbot108,400
Newport107,400
Pembrokeshire92,200
Powys104,600
Rhondda Cynon Taf182,400
Swansea182,200
Torfaen70,800
Vale of Glamorgan (The)95,900
Wrexham103,700

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 (“Rheoliadau 1992”). Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2008.

O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 mae'n ofynnol i awdurdodau bilio (yng Nghymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Weinidogion Cymru. Mae Rheoliadau 1992 yn cynnwys rheolau ar gyfer cyfrifo'r cyfraniadau hynny ar gyfer awdurdodau bilio Cymru.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy roi Atodlen 4 newydd yn lle'r un bresennol (Ffigurau Poblogaeth Oedolion).

(1)

1988 p.41. Cafodd y pwerau hyn eu datganoli, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn Atodlen 1. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau hynny'n arferadwy gan Weinidogion Cymru.