xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 2997 (Cy.262)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2008

Gwnaed

17 Tachwedd 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

19 Tachwedd 2008

Yn dod i rym

11 Rhagfyr 2008

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 143(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) a pharagraff 2(8) o Atodlen 6 iddi, ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru(2).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 11 Rhagfyr 2008.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) 1989

2.—(1Diwygir Rheoliad 2 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) 1989(3) (Prisio ar sail y contractiwr) fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (1C) hepgorer y geiriau “or after”.

(3Ar ôl paragraff (1C) mewnosoder—

(1D) Paragraph (2D) of this regulation applies in relation to a hereditament, shown in a non-domestic rating list compiled on or after 1 April 2010, the rateable value of which is being ascertained using the contractor’s basis of valuation.

(4Ar ôl paragraff (2C) mewnosoder—

(2D) In applying the provisions of the Act referred to in paragraph (2) of this regulation in circumstances where paragraph (1D) of this regulation applies, the appropriate rate is to be assumed to be—

(a)in the case of a defence hereditament, an educational hereditament, a health care hereditament or a hereditament which is wholly a public convenience 2.97 per cent; and

(b)in any other case 4.5 per cent..

Brian Gibbons

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

17 Tachwedd 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae paragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”) yn darparu bod gwerth ardrethol hereditament annomestig i'w benderfynu drwy gyfeirio at y rhent y gellir yn rhesymol ddisgwyl ei gael, yn ôl yr amcangyfrif, am osod yr hereditament o flwyddyn i flwyddyn.

Yn yr achosion hynny lle na cheir tystiolaeth fwy uniongyrchol o werth rhent, mae gwerth ardrethol hereditament annomestig yn cael ei benderfynu, yn lle hynny, drwy ddatgyfalafu cyfanswm gwerth cyfalaf amcangyfrifedig yr hereditament (yr enw ar hyn yw “the contractor’s basis of valuation”). Rhagnodir y cyfraddau datgyfalafu o dan baragraff 2(8) o Atodlen 6 i Ddeddf 1988. Y prif Reoliadau a wnaed o dan y pwer hwn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) 1989 (fel y'u diwygiwyd) (“Rheoliadau 1989”), y rhagnodir y cyfraddau ynddynt yn Rheoliad 2.

Mae Gweinidogion Cymru, wrth wneud y Rheoliadau hyn, yn diwygio, yn effeithiol o 11 Rhagfyr 2008, y cyfraddau datgyfalafu a ragnodir gan Reoliad 2 o Reoliadau 1989.

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi ei baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi o http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/buslegislation/bus-legislation-sub.

(2)

Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn Atodlen 1. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru o dan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(3)

O.S. 1989 Rhif 2303 (fel y'i diwygiwyd).