xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 3152 (Cy.280)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Rhondda Cynon Taf (Cymunedau Llanharan, Llanhari, Llantrisant a Phont-y-clun) 2008

Gwnaed

8 Rhagfyr 2008

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) i (4)

Mae Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru, wedi cyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1), dyddiedig Chwefror 2008 ar eu hadolygiad o gymunedau o fewn rhan o Fwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a'u cynigion ar eu cyfer.

Penderfynodd Gweinidogion Cymru roi eu heffaith i'r cynigion hynny heb addasiadau.

Mae mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac sydd wedi'u breinio bellach ynddynt hwy i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru(2):

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rhondda Cynon Taf (Cymunedau Llanharan, Llanhari, Llantrisant a Phont-y-clun) 2008.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), at unrhyw ddiben a osodir yn rheoliad 4(1) o'r Rheoliadau, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Chwefror 2009.

(3Daw erthygl 8 i rym—

(a)at ddibenion gweithrediadau rhagarweiniol i unrhyw etholiad sydd i'w gynnal neu sy'n ymwneud ag unrhyw etholiad sydd i'w gynnal ar ddiwrnod arferol ethol cynghorwyr yn 2012, ar 15 Hydref 2011;

(b)at bob diben arall, ar ddiwrnod arferolethol cynghorwyr yn 2012.

(4At bob diben arall, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2009, sef y dyddiad penodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

Llanharan a Phont-y-clun — newid mewn ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

3.  Mae'r rhan honno o gymuned Llanharan a ddangosir fel ardal resog “A” ar Fap A—

(a)yn cael ei throsglwyddo i gymuned Pont-y-clun;

(b)yn ffurfio rhan o ward Cefnyrhendy yng nghymuned Pont-y-clun; ac

(c)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Pont-y-clun.

Llantrisant a Phont-y-clun — newid mewn ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol.

4.  Mae'r rhan honno o gymuned Llantrisant a ddangosir fel ardal resog “B” ar Fap A—

(a)yn cael ei throsglwyddo i gymuned Pont-y-clun;

(b)yn ffurfio rhan o ward Cefnyrhendy o fewn cymuned Pont-y-clun; ac

(c)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Pont-y-clun.

Llanharan a Llantrisant — newid mewn ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol.

5.  Mae'r rhan honno o gymuned Llanharan a ddangosir fel ardal resog “C” ar Fap A—

(a)yn cael ei throsglwyddo i gymuned Llantrisant;

(b)yn ffurfio rhan o ward Tonysguboriau o fewn cymuned Llantrisant; ac

(c)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Tonysguboriau.

Llanhari a Phont-y-clun — newid mewn ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol.

6.  Mae'r rhan honno o gymuned Llanharri a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap B—

(a)yn cael ei throsglwyddo i gymuned Pont-y-clun;

(b)yn ffurfio rhan o ward of Maes-y-felin o fewn cymuned Pont-y-clun; ac

(c)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Pont-y-clun.

7.  Mae'r rhan honno o gymuned Pont-y-clun a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap C—

(a)yn cael ei throsglwyddo i gymuned Llanhari;

(b)yn ffurfio rhan o ward Llanhari o fewn cymuned Llanharri; ac

(c)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Llanhari.

8.  Yng nghymuned Pont-y-clun y nifer o gynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer ward Cefnyrhendy yw 5, y nifer ar gyfer ward Groes-faen yw 1, y nifer ar gyfer ward Maes-y-felin yw 4 a'r nifer ar gyfer ward Meisgyn yw 1.

Brian Gibbons

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

8 Rhagfyr 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Gwneir y Gorchymyn hwn yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Mae'n rhoi eu heffaith i gynigion Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), ac yntau wedi adrodd ym Mis Chwefror 2008 ar ei adolygiad o ffiniau cymunedol mewn rhan o Fwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Argymhellodd adroddiad y Comisiwn newidiadau i ffiniau cymunedau Llanharan, Llanhari, Llantrisant a Phont-y-clun a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi eu heffaith i argymhellion y Comisiwn heb addasiadau.

Mae printiau o'r mapiau yn dangos y ffiniau wedi eu hadneuo a gellir eu harchwilio yn ystod oriau swyddfa arferol yn Swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Tonypandy, ac yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd (Is-adran Polisi Llywodraeth Leol).

Mae Rheoliadau Newid Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 y cyfeirir atynt yn erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol ac atodol ynglyn ag effaith a gweithredu gorchmynion megis y rhain.

(2)

Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac maent bellach wedi'u breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).

(3)

O.S. 1976/246 (fel y'i diwygiwyd gan amryfal offerynnau statudol nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn statudol hwn).