xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 3171 (Cy.284) (C.144)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Iechyd 2006 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2008

Gwnaed

12 Rhagfyr 2008

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 83(5)(a) o'r Ddeddf Iechyd 2006(1).

Enwi, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd 2006 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2008.

(2Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd 2006.

(3Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Y diwrnod penodedig ar gyfer darpariaethau sy'n ymwneud â goruchwylio a rheoli cyffuriau a reolir

2.  13 Rhagfyr 2008 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau canlynol y Ddeddf—

(a)Pennod 1 o Ran 3 o'r Ddeddf fel y mae'n gymwys o ran Cymru, i'r graddau nad yw eisoes mewn grym(2); a

(b)adrannau 76, 77 a 78 i'r graddau y maent yn ymwneud â thramgwyddau o dan Bennod 1 o Ran 3 (gan gynnwys tramgwyddau a grëir mewn rheoliadau o dan y Bennod honno).

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

12 Rhagfyr 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Y Gorchymyn hwn yw'r ail Orchymyn Cychwyn sy'n cael ei wneud o dan Ddeddf Iechyd 2006 (“Deddf 2006”). Mae'n dwyn i rym Bennod 1 o Ran 3 o Ddeddf 2006 o ran Cymru. Mae'n cynnwys mesurau ynghylch rheoli a defnyddio cyffuriau a reolir yn ddiogel mewn sefydliadau iechyd a gofal penodol. Yn benodol, mae'n darparu ar gyfer penodi swyddogion atebol y mae'n rhaid iddynt sicrhau bod gan gyrff penodedig drefniadau priodol ar gyfer trafod cyffuriau a reolir yn ddiogel ac yn effeithiol, ac mae'n cynnwys dyletswyddau o gydweithredu rhwng cyrff cyfrifol a hawliau i gael mynediad ac i archwilio mangreoedd perthnasol.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn Cychwyn canlynol wedi'i wneud o dan Ddeddf Iechyd 2006 gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru:

Gorchymyn Deddf Iechyd 2006 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/204 (Cy.18) (C.9)).

Mae'r Gorchmynion Cychwyn canlynol wedi'u gwneud o dan Ddeddf Iechyd 2006 gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd o ran Cymru a Lloegr:

Gorchymyn Deddf Iechyd 2006 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) 2006 (O.S. 2006/2603 (C.88)),

Gorchymyn Deddf Iechyd 2006 (Cychwyn Rhif 2) 2006 (O.S. 2006/3125 (C.108)) (mae rhannau ohono hefyd yn ymwneud â'r Alban),

Gorchymyn Deddf Iechyd 2006 (Cychwyn Rhif 3) 2007 (O.S. 2007/1375 (C.57)).

Gorchymyn Deddf Iechyd 2006 (Cychwyn Rhif 5) 2008 (O.S. 2008/1972 (C.96)).

Mae'r Gorchymyn Cychwyn canlynol wedi'i wneud o dan Ddeddf Iechyd 2006 gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd o ran Lloegr a'r Alban:

Gorchymyn Deddf Iechyd 2006 (Cychwyn Rhif 4) (O.S. 2008/1147 (C.50)).

Y ddarpariaethDyddiad CychwynRhif O.S.
Adrannau 1 i 32 Ebrill 2007 (o ran Cymru) a 1 Gorffennaf 2007 (o ran Lloegr)

2007/204 (Cy.18) (C.9)

2007/1375 (C.57)

Adran 41 Gorffennaf 2007 (o ran Lloegr)2007/1375 (C.57)
Adran 52 Ebrill 2007 (o ran Cymru)2007/204 (Cy.18) (C.9)
Adran 5 (heblaw adran 5(4))1 Gorffennaf 2007 (o ran Lloegr)2007/1375 (C.57)
Adran 5(4)1 Gorffennaf 2007 (o ran Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon)2007/1375 (C.57)
Adrannau 6 i 122 Ebrill 2007 (o ran Cymru) a 1 Gorffennaf 2007 (o ran Lloegr)

2007/204 (Cy.18) (C.9)

2007/1375 (C.57)

Adran 131 Gorffennaf 2007 (o ran Lloegr a Chymru)2007/1375 (C.57)
Adrannau 14 i 161 Hydref 20062006/2603 (C.88)
Adrannau 17 i 251 Ionawr 2007 (yn rhannol o ran Lloegr) a 1 Mawrth 2007 (o ran yr Alban)

2006/3125 (C.108)

2006/3125 (C.108)

Adran 331 Hydref 20062006/2603 (C.88)
Adrannau 34 a 3528 Chwefror 2007 (yn rhannol)2006/3125 (C.108)
Adrannau 37 i 421 Awst 20082008/1972 (C.96)
Adran 431 Mai 20082008/1147 (C.50)
Adrannau 44 i 551 Chwefror 2007 (o ran Cymru) a 22 Ebrill 2008 (o ran Lloegr)

2007/204 (Cy.18) (C.9)

2008/1147 (C.50)

Adran 561 Chwefror 2007 (o ran Cymru) a 1 Hydref 2006 (o ran Lloegr, yn rhannol)

2007/204 (Cy.18) (C.9)

2006/2603 (C.88)

Adran 571 Hydref 20062006/2603 (C.88)
Adrannau 58 i 6228 Medi 2006 (yn rhannol)2006/2603 (C.88)
Adrannau 58 i 621 Hydref 2006 (y gweddill)2006/2603 (C.88)
Adrannau 63 i 691 Hydref 20062006/2603 (C.88)
Adran 7028 Medi 2006 (yn rhannol)2006/2603 (C.88)
Adran 701 Hydref 2006 (y gweddill)2006/2603 (C.88)
Adran 7128 Medi 2006 (yn rhannol)2006/2603 (C.88)
Adran 711 Hydref 2006 (y gweddill)2006/2603 (C.88)
Adran 7228 Ebrill 20082008/1147 (C.50)
Adran 7329 Ionawr 2007 (ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â'r Alban) a 29 Ionawr 2007 (o ran yr Alban)

2006/3125 (C.108)

OSA 2007/9 (C.1)

Adrannau 76 a 771 Chwefror 2007 (Cymru, i'r graddau y maent yn ymwneud â thramgwyddau o dan Bennod 3 o Ran 4) a 2 Ebrill 2007 (Cymru, i'r graddau y maent yn ymwneud â thramgwyddau o dan Bennod 1 o Ran 1)

2007/204 (Cy.18) (C.9)

2007/204 (Cy.18) (C.9)

Adrannau 76 a 771 Gorffennaf 2007 (Lloegr, i'r graddau y maent yn ymwneud â thramgwyddau o dan Ran 1) a 22 Ebrill 2008 (Cymru, i'r graddau y maent yn ymwneud â thramgwyddau o dan Bennod 3 o Ran 4) a 22 Ebrill 2008 (Lloegr a'r Alban, i'r graddau y maent yn ymwneud â thramgwyddau o dan Bennod 1 o Ran 3)

2007/1375 (C.57)

2008/1147 (C.50)

2008/1147 (C.50)

Adran 781 Chwefror 2007 (Cymru, i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan Bennod 3 o Ran 4) a 2 Ebrill 2007 (Cymru, i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan Bennod 1 o Ran 1)

2007/204 (Cy.18) (C.9)

2007/204 (Cy.18) (C.9)

Adran 7822 Ebrill 2008 (Lloegr, i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan Bennod 3 o Ran 4) a2008/1147 (C.50)
22 Ebrill 2008 (Lloegr, i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan Bennod 1 o Ran 3)2008/1147 (C.50)
Adran 80(1)1 Hydref 2006 (yn rhannol) 29 Ionawr 2007 (yn rhannol o ran yr Alban) 1 Chwefror 2007 (yn rhannol o ran Cymru)

2006/2603 (C.88)

OSA 2007/9 (C.1)

2007/204 (Cy.18) (C.9)

Adran 80(2)1 Hydref 2006 (yn rhannol) a 1 Chwefror 2007 (yn rhannol, o ran Cymru)

2006/2603 (C.88)

2007/204 (Cy.18) (C.9)

Atodlenni 1 a 22 Ebrill 2007 (o ran Cymru) a 1 Gorffennaf 2007 (o ran Lloegr)

2007/204 (Cy.18) (C.9)

2007/1375 (C.57)

Atodlen 31 Hydref 2006 (yn rhannol) 1 Chwefror 2007 (o ran Cymru)

2006/2603 (C.88)

2007/204 (Cy.18) (C.9)

Atodlen 41 Hydref 20062006/2603 (C.88)
Atodlenni 5 a 628 Medi 2006 (yn rhannol) a 1 Hydref 2006 (y gweddill)

2006/2603 (C.88)

2006/2603 (C.88)

Atodlen 71 Hydref 20062006/2603 (C.88)
Atodlen 8, paragraffau 1 i 51 Hydref 20062006/2603 (C.88)
Atodlen 8, paragraff 24(a)1 Hydref 2006 (yn rhannol) a 1 Chwefror 2007 (o ran Cymru)

2006/2603 (C.88)

2007/204 (Cy.18) (C.9)

Atodlen 8, paragraffau 26 i 281 Hydref 2006 (yn rhannol)2006/2603 (C.88)
Atodlen 8, paragraff 311 Hydref 20062006/2603 (C.88)
Atodlen 8, paragraffau 32—341 Awst 20082008/1972 (C.96)
Atodlen 8, paragraff 351 Hydref 20062006/2603 (C.88)
Atodlen 8, paragraffau 39—421 Hydref 2006 (yn rhannol)2006/2603 (C.88)
Atodlen 8, paragraff 431 Chwefror 2007 (o ran Cymru)2007/204 (Cy.18) (C.9)
Atodlen 8, paragraff 441 Hydref 2006 (ac eithrio o ran Cymru) a 1 Chwefror 2007 (o ran Cymru)

2006/2603 (C.88)

2007/204 (Cy.18) (C.9)

Atodlen 8, paragraff 45(1)1 Hydref 2006 (yn rhannol)2006/2603 (C.88)
Atodlen 8, paragraff 45(3)1 Hydref 20062006/2603 (C.88)
Atodlen 8, paragraff 461 Awst 20082008/1972 (C.96)
Atodlen 8, paragraffau 47 a 481 Hydref 20062006/2603 (C.88)
Atodlen 8, paragraff 491 Hydref 2006 (yn rhannol)2006/2603 (C.88)
Atodlen 8, paragraffau 51 a 521 Hydref 20062006/2603 (C.88)
Atodlen 8, paragraff 5529 Ionawr 2007 (o ran yr Alban)OSA 2007/9 (C.1)
Atodlen 8, paragraffau 56 i 611 Hydref 20062006/2603 (C.88)
Atodlen 8, paragraff 621 Chwefror 2007 (o ran Cymru)2007/204 (Cy.18) (C.9)
Atodlen 91 Hydref 2006 (yn rhannol)2006/2603 (C.88)
Atodlen 91 Chwefror 2007 (yn rhannol o ran Cymru)2007/204 (Cy.18) (C.9)
(1)

2006 p.28. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf Iechyd 2006 (p.28) (“y Deddf”) i Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(2)

I'r graddau y mae unrhyw darpariaeth yn y Ddeddf yn rhoi pŵer i wneud gorchymyn neu reoliadau neu'n diffinio unrhyw ymadrodd sy'n berthnasol wrth arfer unrhyw bŵer o'r fath wedi dod i rym pan basiwyd y Ddeddf yn rhinwedd adran 83(1)(e) o'r Ddeddf.