2009 Rhif 3270 (Cy.287)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) (Diwygio) 2009
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 o ran polisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd, ac maent yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno a pharagraff 1A o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i unrhyw gyfeiriad at offeryn y Gymuned Ewropeaidd gael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.