xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 3376 (Cy.298)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009

Gwnaed

21 Rhagfyr 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

22 Rhagfyr 2009

Yn dod i rym

25 Ionawr 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol bwyd a mesurau sy'n ymwneud â bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid syn cynhyrchu bwyd(2) neu a fwydir iddynt, polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd(3) a mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffyto-iechydol er diogelu iechyd y cyhoedd(4).

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus dehongli unrhyw gyfeiriad at offeryn Cymunedol a ddiffinnir yn Atodlen 1 fel cyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'ig diwygiwyd o dro i dro.

Yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, sy'n sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac sy'n pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(5) cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd wrth baratoi a gwerthuso'r Rheoliadau a ganlyn.

RHAN 1LL+CRHAGARWEINIOL

Enwi, cychwyn a chymhwysoLL+C

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009, deuant i rym ar 25 Ionawr 2010 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

DehongliLL+C

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

[F8(1A) Mae i unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Reoliad 2017/625 neu unrhyw Gyfarwyddeb neu Reoliad arall y cyfeirir atynt yn Atodlen 1 yr ystyron a roddir iddynt yn ôl eu trefn yn yr Atodlen honno.]

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae i unrhyw ymadrodd heblaw ymadrodd a ddiffiniwyd ym mharagraff (1), ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn ac yn y Ddeddf yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn y Ddeddf.

[F9(3) Onid yw’n ymddangos bod bwriad i’r gwrthwyneb, mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 178/2002 neu ym mhecyn Rheoliad 2017/625 yr ystyr a roddir i’r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn Rheoliad 178/2002 neu ym mhecyn Rheoliad 2017/625 yn ôl y digwydd.]

(4Pan ddyrennir unrhyw swyddogaethau o dan y Ddeddf—

(a)drwy orchymyn o dan adran 2F10...o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(8), i awdurdod iechyd porthladd; neu

(b)drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936(9), i gyd-fwrdd ar gyfer dosbarth unedig,

dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y'u dyrennir iddo.

(5Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at un o offerynnau'r UE a ddiffinnir yn Atodlen 1 yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygiwyd o dro i dro.

Diwygiadau Testunol

F10Geiriau yn rhl. 2(4)(a) wedi eu hepgor (C.) (23.11.2010) yn rhinwedd Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cymru) 2010 (O.S. 2010/2652), rhlau. 1, 16(2)

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

RHAN 2LL+CY PRIF DDARPARIAETHAU

Awdurdodau cymwysLL+C

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (5), dynodir unrhyw gorff a bennir yng Ngholofn 1 o Atodlen 4 yn awdurdod cymwys at ddibenion darpariaethau [F11Rheoliad 2017/625] a nodir yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 2 o'r Atodlen honno i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n gymwys o ran cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol.

(2Pan fo'r awdurdod bwyd anifeiliaid wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys yn unol â pharagraff (1) mae'r dynodiad yn ymestyn i'w ardal neu ei ddosbarth yn unig, yn ôl fel y digwydd.

(3Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) i (6), dynodir unrhyw gorff a bennir yng Ngholofn 1 o Atodlen 5 yn awdurdod cymwys at ddibenion darpariaethau [F12Rheoliad 2017/625] a nodir yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 2 o'r Atodlen honno i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n gymwys o ran cyfraith bwyd berthnasol.

(4Pan fo'r awdurdod bwyd wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys yn unol â pharagraff (3) mae'r dynodiad yn ymestyn i'w ardal yn unig.

F13(5. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(6Pan fo'r Asiantaeth wedi'i dynodi'n awdurdod cymwys yn unol â pharagraff (3) at ddibenion [F14Erthygl 148 o Reoliad 2017/625, mae’r dynodiad yn ymestyn] dim ond i'r gweithrediadau hynny y mae'r Asiantaeth yn gweithredu ac yn gorfodi Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 mewn perthynas â hwy yn rhinwedd rheoliad 5(2) o'r Rheoliadau hynny.

Cyfnewid a darparu gwybodaethLL+C

4.—(1Er mwyn galluogi awdurdodau cymwys, awdurdodau OFFC eraill [F15a Gweinidogion Cymru] i gyflawni'r rhwymedigaethau a osodwyd arnynt gan [F16Reoliad 2017/625] caiff yr awdurdodau cymwys gyfnewid ymhlith ei gilydd neu ddarparu i awdurdodau OFFC eraill unrhyw wybodaeth y maent wedi'i chael wrth weithredu a gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol.

(2Er mwyn gweithredu a gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol, caiff awdurdodau cymwys gyfnewid ymhlith ei gilydd unrhyw wybodaeth y maent wedi'i chael wrth weithredu a gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol.

(3Caiff awdurdodau cymwys rannu gwybodaeth y maent wedi'i chaelawrth weithredu a gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol gyda'r cyrff sy'n gweithredu ac yn gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban er mwyn hwyluso gweithredu a gorfodi'r gyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu'r gyfraith bwyd berthnasol yn y gwledydd hynny.

(4Mae paragraffau (1), (2) a (3) heb ragfarn i unrhyw bŵer arall sydd gan awdurdodau cymwys i ddatgelu gwybodaeth drwy [F17unrhyw ddeddfwriaeth arall sy’n gymwys] neu odani.

(5At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “awdurdodau OFFC eraill” yw awdurdodau a ddynodwyd yn y Deyrnas Unedig yn awdurdodau cymwys at ddibenion [F18Rheoliad 2017/625] heblaw'r awdurdodau cymwys a ddynodwyd o dan y Rheoliadau hyn.

Sicrhau gwybodaethLL+C

5.—(1Er mwyn galluogi awdurdodau cymwys [F19a Gweinidogion Cymru] i gyflawni'r rhwymedigaethau a osodwyd arnynt gan [F20Reoliad 2017/625] ac er mwyn gweithredu a gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol, caiff awdurdod cymwys ei gwneud yn ofynnol i [F21gorff dirprwyedig]

(a)darparu i'r awdurdod cymwys unrhyw wybodaeth y mae ganddo achos rhesymol dros gredu bod y [F21corff dirprwyedig] yn gallu ei rhoi; a

(b)trefnu bod unrhyw gofnodion y mae ganddo achos rhesymol dros gredu eu bod gan y corff rheoli neu eu bod fel arall o dan ei reolaeth ar gael i'r awdurdod cymwys i'w harchwilio ganddo (ac, os ydynt yn cael eu cadw ar ffurf gyfrifiadurol, trefnu eu bod ar gael ar ffurf ddarllenadwy).

(2Caiff yr awdurdod cymwys gopïo unrhyw gofnodion y trefnir eu bod ar gael iddo o dan baragraff (1)(b).

(3Mae person sydd—

(a)yn methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan baragraff (1); neu

(b)gan honni ei fod yn cydymffurfio â gofyniad o'r fath yn rhoi gwybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn ffug neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn o bwys neu sydd yn ddi-hid yn rhoi gwybodaeth sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn o bwys,

yn euog o dramgwydd.

(4At ddibenion paragraff (1), mae'r term “ [F22corff dirprwyedig] ” yn cynnwys unrhyw aelod, swyddog neu gyflogai i [F22gorff dirprwyedig] .

Pŵer i ddyroddi codau o arferion a argymhellirLL+C

6.—(1Er mwyn cyfarwyddo awdurdodau bwyd anifeiliaid ac awdurdodau bwyd caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi codau o arferion a argymhellir o ran y canlynol—

(a)swyddogaethau a roddir i'r awdurdodau hynny yn rhinwedd eu swydd fel awdurdodau cymwys drwy [F23Reoliad 2017/625] neu odano; neu

(b)gweithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio;

a rhaid i unrhyw god o'r fath gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar ôl ei ddyroddi.

(2Caiff yr Asiantaeth, ar ôl ymgynghori â Gweinidogion Cymru, roi cyfarwyddyd i awdurdod bwyd anifeiliaid neu awdurdod bwyd yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gymryd unrhyw gamau penodedig er mwyn cydymffurfio â chod a ddyroddir o dan y rheoliad hwn.

(3Wrth arfer y swyddogaethau a roddwyd arnynt fel awdurdodau cymwys drwy [F24Reoliad 2017/625] neu odano ac wrth iddynt weithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio, rhaid i bob awdurdod bwyd anifeiliaid a phob awdurdod bwyd—

(a)rhoi sylw i unrhyw ddarpariaeth berthnasol mewn unrhyw god o'r fath; a

(b)cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan y rheoliad hwn ac sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt gymryd unrhyw gamau penodedig er mwyn cydymffurfio â chod o'r fath.

(4Mae unrhyw gyfarwyddyd o dan baragraff (2), ar gais yr Asiantaeth, yn orfodadwy drwy orchymyn mandadol.

(5Rhaid i'r Asiantaeth ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn gwneud cais o dan baragraff (4).

(6Cyn dyroddi unrhyw god o dan y rheoliad hwn, bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi sylw i unrhyw gyngor perthnasol a roddir gan yr Asiantaeth.

Monitro camau gorfodiLL+C

7.—(1Un o swyddogaethau'r Asiantaeth yw monitro perfformiad awdurdodau gorfodi wrth iddynt orfodi rheoliadau archwilio penodol.

(2Mae'r swyddogaeth honno'n cynnwys, yn benodol, gosod safonau perfformiad (boed i awdurdodau gorfodi yn gyffredinol ynteu i awdurdodau penodol) o ran gorfodi unrhyw ddeddfwriaeth archwilio berthnasol.

(3Rhaid i bob un o adroddiadau blynyddol yr Asiantaeth gynnwys adroddiad ar ei gweithgareddau yn ystod y flwyddyn wrth orfodi unrhyw ddeddfwriaeth archwilio berthnasol y mae'n awdurdod gorfodi ar ei chyfer a'i pherfformiad o ran y canlynol—

(a)unrhyw safonau o dan baragraff (2) sy'n gymwys i'r gweithgareddau hynny; a

(b)unrhyw amcanion ynglŷn â'r gweithgareddau hynny a bennir yn y datganiad o amcanion ac arferion o dan adran 22 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999(10).

(4Caiff yr Asiantaeth gyflwyno adroddiad i unrhyw awdurdod gorfodi arall ar ei berfformiad wrth orfodi unrhyw ddeddfwriaeth archwilio berthnasol a chaiff adroddiad o'r fath gynnwys canllawiau o ran camau y mae'r Asiantaeth yn credu y byddent yn gwella'r perfformiad hwnnw.

(5Caiff yr Asiantaeth gyfarwyddo awdurdod y mae adroddiad o'r fath wedi'i gyflwyno iddo—

(a)i drefnu cyhoeddi'r adroddiad mewn unrhyw fodd a bennir yn y cyfarwyddyd, neu wybodaeth benodedig ynglŷn â'r adroddiad; a

(b)o fewn unrhyw gyfnod a bennir fel hyn i roi gwybod i'r Asiantaeth am y camau y maent wedi'u cymryd neu'n bwriadu eu cymryd mewn ymateb i'r adroddiad.

(6Mae adran 19 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 yn gymwys o ran gwybodaeth a sicrheir drwy fonitro o dan y rheoliad hwn fel pe bai'n wybodaeth a sicrheir drwy fonitro o dan adran 12 o'r Ddeddf honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

Pŵer wneud cais am wybodaeth sy'n ymwneud â chamau gorfodiLL+C

8.—(1Er mwyn cyflawni ei swyddogaeth o dan reoliad 7 mewn perthynas ag unrhyw awdurdod gorfodi caiff yr Asiantaeth ei gwneud yn ofynnol i berson a grybwyllir ym mharagraff (2)—

(a)darparu i'r Asiantaeth unrhyw wybodaeth y mae ganddi achos rhesymol dros gredu bod y person hwnnw'n gallu ei rhoi; neu

(b)trefnu bod unrhyw gofnodion y mae gan yr Asiantaeth achos rhesymol dros gredu eu bod gan y person hwnnw neu eu bod fel arall o dan reolaeth y person hwnnw ar gael i'r Asiantaeth i'w harchwilio ganddi (ac, os ydynt yn cael eu cadw ar ffurf gyfrifiadurol, trefnu eu bod ar gael ar ffurf ddarllenadwy).

(2Caniateir i ofyniad o dan baragraff (1) gael ei osod—

(a)ar yr awdurdod gorfodi neu unrhyw aelod, swyddog neu gyflogai i'r awdurdod; neu

(b)ar berson sy'n dod o dan unrhyw ddyletswydd o dan ddeddfwriaeth archwilio berthnasol (sef dyletswydd sy'n orfodadwy gan awdurdod gorfodi) neu unrhyw swyddog neu gyflogai i berson o'r fath.

(3Caiff yr Asiantaeth gopïo unrhyw gofnodion y trefnir eu bod ar gael iddi yn unol â gofyniad o dan baragraff (1)(b).

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

Pŵer i fynd i mewn ar gyfer personau sy'n monitro camau gorfodiLL+C

9.—(1Caiff yr Asiantaeth awdurdodi unrhyw unigolyn (boed yn aelod o'i staff neu beidio) i arfer y pwerau a bennir ym mharagraff (4) er mwyn cyflawni ei swyddogaeth o dan reoliad 7 mewn perthynas ag unrhyw awdurdod gorfodi.

(2Ni chaniateir i unrhyw awdurdodiad o dan y rheoliad hwn gael ei ddyroddi ac eithrio yn unol â phenderfyniad a gymerir gan yr Asiantaeth ei hun neu gan bwyllgor, is-bwyllgor neu aelod o'r Asiantaeth sy'n gweithredu ar ran yr Asiantaeth.

(3Rhaid i awdurdodiad o dan y rheoliad hwn fod yn ysgrifenedig a chaniateir iddo gael ei roi yn ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiadau neu amodau a bennir yn yr awdurdodiad (gan gynnwys amodau sy'n ymwneud â rhagofalon hylendid sydd i'w cymryd wrth arfer pwerau yn unol â'r awdurdodiad).

(4Caiff person awdurdodedig—

(a)mynd i mewn i unrhyw fangre a grybwyllir ym mharagraff (5) ar unrhyw adeg resymol er mwyn arolygu'r fangre neu unrhyw beth a geir ynddi;

(b)cymryd samplau o unrhyw eitemau neu sylweddau a geir ar y fangre honno;

(c)arolygu a chopïo unrhyw gofnodion a geir ar y fangre honno (ac, os ydynt yn cael eu cadw ar ffurf gyfrifiadurol, ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu rhoi ar gael ar ffurf ddarllenadwy);

(ch)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n bresennol ar y fangre honno ddarparu iddo unrhyw gyfleusterau, unrhyw gofnodion neu wybodaeth ac unrhyw gymorth arall y bydd yn gofyn yn rhesymol amdanynt.

(5Y mangreoedd y caiff person awdurdodedig fynd i mewn iddynt yw—

(a)unrhyw fangre sydd wedi'i meddiannu gan yr awdurdod gorfodi;

(b)unrhyw labordy neu fangre debyg lle mae gwaith sy'n gysylltiedig â gorfodi unrhyw ddeddfwriaeth berthnasolawedi'i gyflawni i'r awdurdod gorfodi; ac

(c)unrhyw fangre arall (nad yw'n dŷ annedd preifat) y mae gan y person awdurdodedig achos rhesymol dros gredu ei bod yn fangre y mae pwerau gorfodi'r awdurdod gorfodi yn arferadwy (neu wedi bod yn arferadwy) ar ei chyfer.

(6Mae'r pŵer a roddwyd i berson awdurdodedig i fynd i mewn i fangre yn cynnwys pŵer i fynd ag unrhyw berson arall y gall fod y person awdurdodedig o'r farn ei fod yn briodol gydag ef.

(7Os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid i berson awdurdodedig—

(a)dangos ei awdurdodiad cyn arfer unrhyw bwerau o dan baragraff (4); a

(b)darparu dogfen sy'n enwi unrhyw sampl a gymerwyd, neu ddogfennau a gopïwyd, o dan y pwerau hynny.

(8Os bydd person sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn yn datgelu i unrhyw berson unrhyw wybodaeth a gafwyd ar y fangre o ran unrhyw gyfrinach fasnachol, bydd y person hwnnw yn euog o dramgwydd, oni bai bod y datgeliad hwnnw wedi'i wneud wrth iddo gyflawni ei ddyletswydd.

(9Os yr Asiantaeth yw'r awdurdod gorfodi o ran deddfwriaeth archwilio berthnasol, mae'r rheoliad hwn, gan hepgor paragraff (5)(a), yn gymwys o ran yr Asiantaeth mewn perthynas â'i pherfformiad wrth orfodi'r darpariaethau hynny.

(10Yn y rheoliad hwn ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi'i awdurdodi o dan y rheoliad hwn.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

Ystyr “awdurdod gorfodi” ac ymadroddion perthynolLL+C

10.—(1Yn rheoliadau 7 i 9 ystyr “deddfwriaeth archwilio berthnasol” yw cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol a chyfraith bwyd berthnasol y mae'r Asiantaeth wedi'i dynodi'n awdurdod cymwys ar eu cyfer yn unol â pharagraffau (1) a (3) o reoliad 3 yn y drefn honno ond nid yw'n cynnwys deddfwriaeth berthnasol fel y diffinnir “relevant legislation” yn adran 15 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999.

(2Yn rheoliadau 7 i 9 ystyr “awdurdod gorfodi” yw'r awdurdod y mae deddfwriaeth archwilio berthnasol i'w gorfodi ganddo ac mae'n cynnwys yr Asiantaeth ei hun os hi yw'r awdurdod gorfodi yn rhinwedd y ddeddfwriaeth honno ond nid yw'n cynnwys y Comisiwn Ewropeaidd; ac mae “gorfodi” o ran deddfwriaeth archwilio berthnasol yn cynnwys gweithredu unrhyw ddarpariaethau yn y ddeddfwriaeth honno.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn rheoliadau 7 i 9 (sut bynnag y mae wedi'i fynegi) at berfformiad awdurdod gorfodi wrth orfodi unrhyw ddeddfwriaeth archwilio berthnasol yn cynnwys cyfeiriad at allu'r awdurdod hwnnw i'w gorfodi.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

Tramgwyddau sy'n ymwneud â rheoliadau 8 a 9LL+C

11.  Bydd person sydd—

(a)yn fwriadol yn rhwystro person sy'n arfer pwerau o dan baragraff (4)(a), (b) neu (c) o reoliad 9;

(b)yn methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan baragraff (1) o reoliad 8 neu baragraff (4)(ch) o reoliad 9; neu

(c)gan honni ei fod yn cydymffurfio â gofyniad o'r fath yn rhoi gwybodaeth y mae'r person hwnnw yn gwybod ei bod yn ffug neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn o bwys, neu sydd yn ddi-hid yn rhoi gwybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn ffug neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn o bwys,

yn euog o dramgwydd.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

Yr hawl i apelioLL+C

12.—(1Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad gan yr awdurdod cymwys a gymerwyd ynghylch sefydliad sy'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth o dan Erthygl 4(2) o Reoliad 853/2004 yn unol ag un o'r Erthyglau canlynol, sef—

(a)[F25Erthygl 148(3) o Reoliad 2017/625 (cymeradwyaeth)] ;

(b)[F26Erthygl 148(4) o Reoliad 2017/625 (cymeradwyaeth amodol a chymeradwyaeth lawn)] ; neu

(c)[F27Erthygl 138(2)(j) o Reoliad 2017/625 (atal cymeradwyaeth neu dynnu cymeradwyaeth yn ôl)] , apelio i lys ynadon.

(2Pan wneir apêl i lys ynadon o dan baragraff (1), y weithdrefn fydd ei gwneud ar ffurf achwyniad i gael gorchymyn, a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980(11) yn gymwys i'r achosion.

(3Un mis o'r dyddiad y cyflwynwyd hysbysiad o'r penderfyniad i'r person sy'n dymuno apelio yw'r cyfnod y caniateir dwyn apêl ynddo o dan baragraff (1) a bernir bod gwneud achwyniad i gael gorchymyn yn gyfystyr â dwyn yr apêl at ddibenion y paragraff hwn.

(4Pan fo llys ynadon yn dyfarnu, yn dilyn apêl o dan baragraff (1), fod penderfyniad yr awdurdod cymwys yn anghywir, rhaid i'r awdurdod roi ei effaith i ddyfarniad y llys.

F28(5. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F28(6. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F28(7. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Apêl i Lys y Goron yn erbyn gwrthod apêl o dan reoliad 12(1)LL+C

13.  Caiff person a dramgwyddir oherwydd bod llys ynadon wedi gwrthod apêl iddo o dan reoliad 12(1) apelio i Lys y Goron.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Rhl. 13 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

Staff awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth arallLL+C

F2914.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Arbenigwyr y ComisiwnLL+C

F3015.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Gwahardd datgelu cyfrinachau masnacholLL+C

F3116.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Gweithredu a gorfodiLL+C

17.—(1 yr awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi paragraff (3) o reoliad 5 yw'r awdurdod cymwys a osododd y gofyniad ar y [F32corff dirprwyedig] o dan sylw o dan baragraff (1) o'r rheoliad hwnnw.

(2 yr awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi paragraff (8) o reoliad 9 a rheoliad 11 yw'r Asiantaeth.

F33(3. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4 yr awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi paragraff (8) o reoliad 18 yw'r awdurdod a awdurdododd y person a aeth i mewn i'r fangre ac a ddatgelodd yr wybodaeth.

(5 yr awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi rheoliad 19—

F34(a). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F35(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(c)pan fo'r tramgwydd yn ymwneud â gweithredu rheoliad 18, yw'r awdurdod gorfodi perthnasol yr arferodd ei swyddog awdurdodedig bwerau o dan y rheoliad hwnnw.

Pwerau i fynd i mewnLL+C

18.—(1Bydd gan swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi perthnasol heblaw'r Asiantaeth, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, ryw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, hawl ar bob adeg resymol—

(a)i fynd i mewn i unrhyw fangre o fewn ardal yr awdurdod, neu, yn ôl fel y digwydd, dosbarth yr awdurdod er mwyn darganfod a oes unrhyw ddarpariaeth y mae gan yr awdurdod hwnnw gyfrifoldeb ei gorfodi yn y Rhan hon o'r Rheoliadau hyn yn unol â rheoliad 17 yn cael neu wedi cael ei thorri yn y fangre; a

(b)i fynd i mewn i unrhyw fangre, boed honno o fewn ardal yr awdurdod neu, yn ôl fel y digwydd, dosbarth yr awdurdod neu y tu allan iddynt, er mwyn darganfod a oes ar y fangre unrhyw dystiolaeth o unrhyw doriad o'r fath yn yr ardal honno neu'r dosbarth hwnnw,

ond ni chaniateir mynnu cael mynediad fel mater o hawl i unrhyw fangre sy'n cael ei defnyddio'n unig fel tŷ annedd preifat oni bai bod hysbysiad am y bwriad i fynd i mewn i'r fangre wedi'i roi i'r meddiannydd 2 awr ymlaen llaw.

(2Bydd gan swyddog awdurdodedig i'r Asiantaeth, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, ryw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos awdurdod y swyddog hwnnw, hawl ar bob adeg resymol i fynd i mewn i unrhyw fangre er mwyn—

(a)darganfod a oes unrhyw ddarpariaeth y mae gan yr Asiantaeth gyfrifoldeb ei gorfodi yn y Rhan hon o'r Rheoliadau hyn yn unol â rheoliad 17 yn cael neu wedi cael ei thorri yn y fangre; a

(b)darganfod a oes ar y fangre unrhyw dystiolaeth o unrhyw doriad o'r fath,

ond ni chaniateir mynnu cael mynediad fel mater o hawl i unrhyw fangre sy'n cael ei defnyddio'n unig fel tŷ annedd preifat oni bai bod hysbysiad am y bwriad i fynd i mewn i'r fangre wedi'i roi i'r meddiannydd 2 awr ymlaen llaw.

(3Os bydd ynad heddwch, ar ôl cael gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, wedi'i fodloni bod sail resymol dros fynd i unrhyw fangre at unrhyw ddiben o'r fath a grybwyllwyd ym mharagraff (1) neu (2) a naill ai—

(a)bod mynediad i'r fangre wedi'i wrthod, neu y deellir y gall gael ei wrthod, a bod hysbysiad o'r bwriad i wneud cais am warant wedi'i roi i'r meddiannydd; neu

(b)y byddai cais am fynediad, neu roi hysbysiad o'r fath, yn mynd yn groes i'r amcan o fynd i mewn i'r fangre, neu fod yr achos yn achos brys, neu fod y fangre heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro,

caiff yr ynad, drwy warant a lofnodir ganddo awdurdodi'r swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i'r fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol os bydd ei angen.

(4Bydd pob gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn yn parhau mewn grym am gyfnod o un mis.

(5Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a ddyroddwyd odano, fynd â'r personau eraill y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol gydag ef, ac wrth ymadael ag unrhyw fangre sydd heb ei meddiannu ac y mae wedi mynd i mewn iddi yn rhinwedd gwarant o'r fath, rhaid iddo ei gadael yn fangre sydd wedi'i diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd pan aeth yno yn gyntaf.

(6Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a ddyroddwyd odano, arolygu unrhyw gofnodion (ar ba ffurf bynnag y maent yn cael eu cadw), a phan fo'r cofnodion hynny yn cael eu storio ar unrhyw ffurf electronig—

(a)caiff fynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw aparatws neu ddeunydd perthynol a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â'r cofnodion, a'u harolygu a gwirio eu gweithrediad; a

(b)caiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, yr aparatws neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, roi i'r swyddog unrhyw gymorth y mae arno angen rhesymol ei gael.

(7Caiff unrhyw swyddog sy'n arfer unrhyw bŵer a roddwyd gan baragraff (6)—

(a)cipio a chadw unrhyw gofnodion y mae gan y swyddog reswm dros gredu y gallai fod angen amdanynt fel tystiolaeth mewn achos cyfreithiol o dan unrhyw un o'r darpariaethau yn y Rhan hon o'r Rheoliadau hyn; a

(b)pan fo'r cofnodion wedi'u storio ar unrhyw ffurf electronig, ei gwneud yn ofynnol i'r cofnodion gael eu darparu ar ffurf a fyddai'n caniatáu mynd â hwy oddi yno.

(8Os bydd unrhyw berson sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a ddyroddwyd odano, yn datgelu i unrhyw berson unrhyw wybodaeth y mae wedi'i chael ar y fangre o ran unrhyw gyfrinach fasnachol, bydd yn euog o dramgwydd, oni bai bod y datgeliad wedi'i wneud wrth iddo gyflawni ei ddyletswydd.

(9Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn awdurdodi unrhyw berson, ac eithrio gyda chaniatâd yr awdurdod lleol o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(12), i fynd i mewn i unrhyw fangre—

(a)lle cedwir anifail neu aderyn, y mae unrhyw glefyd y mae'r Ddeddf honno yn gymwys iddo, wedi effeithio arno; a

(b)sydd wedi'i lleoli mewn man y datganwyd o dan y Ddeddf honno ei fod wedi'i heintio â chlefyd o'r fath.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I15Rhl. 18 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

Rhwystro etc. swyddogionLL+C

19.—(1Bydd unrhyw berson sydd—

(a)yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu rheoliad F36... 18; neu

(b)yn methu, heb achos rhesymol, â rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu rheoliad F37... 18 unrhyw gymorth neu wybodaeth y gall y person hwnnw ofyn yn rhesymol amdanynt er mwyn cyflawni ei swyddogaethau o dan y [F38rheoliad hwnnw],

yn euog o dramgwydd.

(2Bydd unrhyw berson sydd, gan honni ei fod yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a grybwyllwyd ym mharagraff (1)(b)—

(a)yn rhoi gwybodaeth y mae'r person hwnnw'n gwybod ei bod yn ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys; neu

(b)yn ddi-hid yn darparu gwybodaeth sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys, yn euog o dramgwydd.

(3Rhaid peidio â dehongli dim ym mharagraff (1)(b) fel pe bai'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn neu roi unrhyw wybodaeth os byddai gwneud hynny yn gallu ei argyhuddo.

CosbauLL+C

20.—(1Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (8) o reoliad 18 yn agored—

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol; neu

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, i ddirwy neu i'rddau.

(2Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (3) o reoliad 5, paragraff (8) o reoliad 9, neu reoliad 11F39... yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(3Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 19 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu i'r ddau.

Y terfyn amser ar gyfer erlyniadauLL+C

21.  Ni chaniateir cychwyn unrhyw erlyniad am dramgwydd o dan baragraff (8) o reoliad 18 ar ôl i'r naill neu'r llall o'r cyfnodau canlynol ddod i ben—

(a)tair blynedd o ddyddiad cyflawni'r tramgwydd; neu

(b)blwyddyn o ddyddiad ei ddarganfod gan yr erlynydd,

p'un bynnag yw'r cynharaf.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I18Rhl. 21 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

RHAN 3LL+CRHEOLAETHAU SWYDDOGOL AR FWYD ANIFEILIAID A BWYD O DRYDYDD GWLEDYDD NAD YDYNT YN DOD O ANIFEILIAID

Dehongli'r Rhan hon o'r Rheoliadau hynLL+C

22.  Yn y Rhan hon o'r Rheoliadau hyn—

Cyfrifoldebau gorfodi bwyd anifeiliaid a statws awdurdod cymwysLL+C

23.—(1Cyfrifoldeb pob awdurdod bwyd anifeiliaid yw gweithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio yn ei ardal neu ei ddosbarth, yn ôl fel y digwydd, mewn perthynas â bwyd anifeiliaid.

(2Mae'r awdurdod bwyd anifeiliaid wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys at ddibenion darpariaethau [F44Rheoliad 2019/1793] i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n gymwys o ran cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol.

(3Mae dynodi awdurdod bwyd anifeiliaid yn awdurdod cymwys yn unol â pharagraff (2) yn ddynodiad sy'n ymestyn i'w ardal neu i'w ddosbarth yn unig, yn ôl fel y digwydd.

F45(4. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Cyfrifoldebau gorfodi bwyd a statws awdurdod cymwysLL+C

24.—(1Cyfrifoldeb pob awdurdod bwyd yw gweithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio yn ei ardal o ran bwyd.

(2Mae'r awdurdod bwyd wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys at ddibenion darpariaethau [F46Rheoliad 2019/1793] i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n gymwys o ran cyfraith bwyd berthnasol.

(3Mae dynodi awdurdod bwyd yn awdurdod cymwys yn unol â pharagraff (2) yn ddynodiad sy'n ymestyn i'w ardal yn unig.

F47(4. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Swyddogaethau'r ComisiynwyrLL+C

25.  Bydd y Comisiynwyr yn cyflawni'r swyddogaethau a roddir [F48i awdurdodau tollau o dan Erthyglau 46, 57, 75 ac 76 o Reoliad 2017/625 ac Erthygl 4 o Reoliad 2019/1793] o ran bwyd anifeiliaid a bwyd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I22Rhl. 25 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

Cyfnewid gwybodaethLL+C

26.—(1Caiff y Comisiynwyr, yr Asiantaeth ac unrhyw awdurdod gorfodi gyfnewid gwybodaeth at ddibenion y Darpariaethau Mewnforio, a chânt ddatgelu gwybodaeth i'r cyrff a ddiffinnir fel awdurdodau gorfodi yn y darpariaethau sy'n cyfateb i Ran 3 o'r Rheoliadau hyn yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon at ddibenion y Darpariaethau Mewnforio neu'r darpariaethau sy'n cyfateb i'r Darpariaethau Mewnforio yn yr awdurdodaethau hynny.

(2Mae paragraff (1) heb ragfarn i unrhyw bŵer arall sydd gan y Comisiynwyr, yr Asiantaeth neu unrhyw awdurdod gorfodi i ddatgelu gwybodaeth.

(3Ni chaiff neb, gan gynnwys gwas i'r Goron, ddatgelu unrhyw wybodaeth a gafwyd oddi wrth y Comisiynwyr o dan baragraff (1)—

(a)os yw'r wybodaeth yn ymwneud â pherson y mae ei fanylion adnabod—

(i)wedi'u pennu yn y datgeliad; neu

(ii)yn gallu cael eu casglu o'r datgeliad;

(b)os gwneir y datgeliad at ddiben heblaw'r dibenion a bennwyd ym mharagraff (1); ac

(c)os nad yw'r Comisiynwyr wedi rhoi eu cydsyniad ymlaen llaw i'r datgeliad.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Rhl. 26 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

Gohirio gweithredu a gorfodiLL+C

27.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (6), pan fo—

(a)cynnyrch o drydedd wlad wedi dod i mewn i Gymru;

(b)archwiliad gan yr awdurdod tollau o'r cynnyrch hwnnw wedi'i gwblhau neu wedi'i ohirio hyd nes iddo gyrraedd ei gyrchfan yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig;

(c)swyddog awdurdodedig i'r awdurdod gorfodi ar gyfer y man lle daeth y cynnyrch i mewn wedi dyroddi ar sail resymol awdurdodiad sy'n cadarnhau—

(i)y dylid gohirio archwilio'r cynnyrch at ddibenion y Darpariaethau Mewnforio hyd nes y bydd y cynnyrch yn cyrraedd ei gyrchfan yn rhywle arall yng Nghymru, neu

(ii)y dylai'r archwiliad hwnnw ddigwydd pan fydd y cynnyrch yn cyrraedd ei gyrchfan yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig o dan ddeddfwriaeth sydd mewn grym yno ynghylch cynhyrchion a fewnforir; ac

(ch)person sy'n mewnforio'r cynnyrch yn rhoi i'r swyddog awdurdodedig hwnnw ymrwymiad ysgrifenedig o ran y materion a bennir ym mharagraff (2),

daw'r awdurdod gorfodi ar gyfer y man lle mae'r gyrchfan, os yw yng Nghymru, yn gyfrifol am orfodi a gweithredu'r Darpariaethau Mewnforio ar gyfer y cynnyrch hwnnw pan fydd yn cyrraedd yno.

(2Rhaid i'r ymgymeriad—

(a)datgan cyrchfan y cynnyrch; a

(b)cadarnhau—

(i)bod y cynhwysydd sy'n cynnwys y cynnyrch wedi'i selio ac na fydd yn cael ei agor nes iddo gyrraedd y gyrchfan,

(ii)bod agor y cynhwysydd wedi'i awdurdodi gan yr awdurdod gorfodi ar gyfer y man lle mae'r gyrchfan, os yw yng Nghymru neu'r awdurdod gorfodi y tu allan i Gymru os nad yw'r gyrchfan yng Nghymru, a

(iii)y bydd y cynhwysydd ar gael yn y gyrchfan honno i'w archwilio o dan y Darpariaethau Mewnforio neu, yn ôl fel y digwydd, deddfwriaeth ynghylch cynhyrchion a fewnforir sydd mewn grym yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig.

(3Pan fo swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn dyroddi awdurdodiad yn unol â pharagraff (1)(c), rhaid iddo—

(a)(os yw cyrchfan y cynnyrch yng Nghymru) hysbysu'r awdurdod gorfodi ar gyfer y man hwnnw neu (os yw cyrchfan y cynnyrch mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig) hysbysu'r awdurdod gorfodi y tu allan i Gymru—

(i)nad yw'r cynnyrch (a ddisgrifir yn y fath fodd ag i ganiatáu iddo gael ei adnabod) wedi'i archwilio o dan y Darpariaethau Mewnforio, a

(ii)os yw archwiliad gan yr awdurdod tollau wedi'i ohirio, o'r ffaith honno; a

(b)anfon at yr awdurdod perthnasol gopi o unrhyw ymrwymiad a roddwyd yn unol â pharagraff (1)(ch).

(4Pan fo cynnyrch wedi'i anfon at gyrchfan yng Nghymru o ran arall o Ynysoedd Prydain a bod archwiliad o'r cynnyrch hwnnw wedi'i ohirio o dan ddeddfwriaeth ynghylch cynhyrchion a fewnforir sydd mewn grym yno, daw'r awdurdod gorfodi ar gyfer y gyrchfan yn gyfrifol am orfodi a gweithredu'r Darpariaethau Mewnforio ar gyfer y cynnyrch hwnnw pan fydd yn cyrraedd Cymru.

(5Ni chaiff neb dorri ymrwymiad a roddir o dan baragraff 1(ch).

(6Bydd y darpariaethau ar ohirio gweithredu a gorfodi a nodir yn y rheoliad hwn yn ddarostyngedig i unrhyw reolaethau swyddogol sy'n digwydd yn unol ag [F49Erthygl 47(1)(d) a (2)(b) ac Erthygl 54(4) o Reoliad 2017/625] .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I24Rhl. 27 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

Gwahardd cyflwyno bwyd anifeiliaid penodol a bwyd penodolLL+C

28.—(1Gwaherddir y canlynol—

(a)cyflwyno i Gymru o drydedd wlad fwyd anifeiliaid penodedig sy'n methu â chydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd anifeiliaid;

F50(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(c)cyflwyno i Gymru o drydedd wlad fwyd penodedig sy'n methu â chydymffurfio—

(i)â gofynion diogelwch bwyd; neu

(ii)â gofynion Erthyglau 3 i 6 o Reoliad 852/2004; ac

F51(ch). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(2Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “bwyd anifeiliaid penodedig” yw bwyd anifeiliaid sy'n gynnyrch; a

(b)ystyr “bwyd penodedig” yw bwyd sy'n gynnyrch.

Diwygiadau Testunol

F51Rhl. 28(1)(ch) wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaeth Arbed) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1581), rhlau. 1(3), 10(10)

Gwybodaeth Cychwyn

I25Rhl. 28 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

Gwirio cynhyrchionLL+C

29.—(1Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am gyflwyno unrhyw gynnyrch i Gymru ganiatáu i swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi gyflawni gwiriadau mewn perthynas â'r cynnyrch yn unol ag [F52Erthyglau 34(5) a (6), 44(2) [F53, 45(1), (2) a (4), a 49(1)] o Reoliad 2017/625] .

(2Pan fo swyddog awdurdodedig yn cyflawni gwiriadau mewn perthynas â chynnyrch yn unol ag [F52Erthyglau 34(5) a (6), 44(2) a [F53, 45(1), (2) a (4), a 49(1)] o Reoliad 2017/625] , rhaid i'r person sy'n cyflwyno'r cynnyrch ddarparu'r cyfleusterau a'r cymorth y mae ar y swyddog awdurdodedig angen rhesymol amdanynt er mwyn eu cyflawni.

(3Pan fo swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn cyflawni gwiriad adnabod neu wiriad ffisegol ar gynnyrch yn unol ag [F52Erthyglau 34(5) a (6), 44(2) a [F53, 45(1), (2) a (4), a 49(1)] o Reoliad 2017/625] , bydd gan y swyddog hawl i'w gwneud yn ofynnol bod y gwiriad yn digwydd mewn man penodedig.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I26Rhl. 29 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

[F54Tynnu safleoedd rheoli ar y ffin yn ôl a’u hatalLL+C

30.(1) Pan fo’r Asiantaeth wedi’i bodloni bod safle rheoli ar y ffin wedi peidio â chydymffurfio â’r gofynion y cyfeirir atynt yn Erthygl 64 o Reoliad 2017/625 a Rheoliad 2019/1014 caiff dynnu dynodiad y safle rheoli ar y ffin yn ôl ar gyfer pob categori o anifeiliaid a nwyddau y gwnaed y dynodiad ar eu cyfer, neu ar gyfer categorïau penodol ohonynt, drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw i weithredydd y safle rheoli ar y ffin.

(2) Pan fo’r Asiantaeth wedi’i bodloni bod yr amodau y cyfeirir atynt yn Erthygl 63(1) o Reoliad 2017/625 yn gymwys caiff atal dynodiad y safle rheoli ar y ffin ar gyfer pob categori o anifeiliaid a nwyddau y gwnaed y dynodiad ar eu cyfer, neu ar gyfer categorïau penodol ohonynt, drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw i weithredydd y safle rheoli ar y ffin ac os oes risg ddifrifol i iechyd pobl neu i iechyd anifeiliaid bydd atal y dynodiad yn cael effaith ar unwaith.

(3) Pan gyflwynir hysbysiad o dan baragraff (2), mae’r safle rheoli ar y ffin yn peidio â bod yn safle rheoli ar y ffin dynodedig i’r graddau a bennir yn yr hysbysiad hwnnw hyd nes y caiff yr ataliad ei ddiddymu drwy hysbysiad ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw a gyflwynir gan yr Asiantaeth i weithredydd y safle rheoli ar y ffin.

(4) Pan fo’r Asiantaeth wedi’i bodloni ei bod yn rhesymol tynnu’r dynodiad yn ôl neu ei atal am resymau heblaw’r rhai y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2) caiff wneud hynny ar gyfer pob categori o anifeiliaid a nwyddau y gwnaed y dynodiad ar eu cyfer, neu ar gyfer categorïau penodol ohonynt, drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw i weithredydd y safle rheoli ar y ffin.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I27Rhl. 30 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

Cadw, distrywio, trin yn arbennig, ailanfon a mesurau a chostau priodol eraillLL+C

31.—(1Mae gan awdurdod gorfodi bŵer i wneud unrhyw beth y caiff awdurdod cymwys ei wneud o dan [F55Erthyglau 46, 65 i 69, 71, a 72 o Reoliad 2017/625] os bydd yr amodau sydd wedi'u nodi yn yr Erthyglau hynny wedi'u bodloni.

[F56(2) Mae’r mesurau a gymerir gan yr awdurdod gorfodi o dan Erthyglau 66, 67 a 69 o Reoliad 2017/625 yn unol â pharagraff (1) i’w cymryd ar draul y gweithredydd sy’n gyfrifol am y llwyth.]

[F57Hysbysiadau mewn perthynas â mewnforio bwyd anifeiliaid a bwyd o drydydd gwledyddLL+C

32.(1) Os bydd swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn bwriadu gosod llwyth o fwyd anifeiliaid neu fwyd yng nghadw yn swyddogol o dan Erthygl 65, 66 neu 67 o Reoliad 2017/625 rhaid i’r swyddog gyflwyno hysbysiad i’r perwyl hwnnw i’r gweithredydd sy’n gyfrifol am y llwyth.

(2) Cyn rhoi gorchymyn i’r gweithredydd i weithredu yn unol ag Erthygl 66(3)(a), (b) neu (c), rhaid i’r swyddog gorfodi wrando ar y gweithredydd hwnnw fel y darperir ym mhedwerydd is-baragraff Erthygl 66(3) o Reoliad 2017/625 oni bai bod angen gweithredu ar unwaith.

(3) Os bydd swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn bwriadu cymryd unrhyw rai o’r mesurau y cyfeirir atynt yn Erthygl 66 neu 67 o Reoliad 2017/625 mewn cysylltiad â llwyth o fwyd anifeiliaid neu fwyd, rhaid i’r swyddog gyflwyno hysbysiad i’r perwyl hwnnw i’r gweithredydd sy’n gyfrifol am y llwyth.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I29Rhl. 32 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

Yr hawl i apelio o ran hysbysiadau a gyflwynir o dan reoliad 32LL+C

33.—(1Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi i gyflwyno hysbysiad o dan reoliad 32 apelio i lys ynadon.

(2Pan wneir apêl i lys ynadon o dan baragraff (1), y weithdrefn fydd ei gwneud ar ffurf achwyniad i gael gorchymyn, a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980 yn gymwys i'r achosion.

(3Un mis o'r dyddiad y cyflwynwyd hysbysiad i'r person sy'n dymuno apelio yw'r cyfnod y caniateir dwyn apêl ynddo o dan baragraff (1) a bernir bod gwneud achwyniad i gael gorchymyn yn gyfystyr â dwyn yr apêl at ddibenion y paragraff hwn.

(4Pan fo llys ynadon yn dyfarnu, yn dilyn apêl o dan baragraff (1), fod penderfyniad swyddog awdurdodedig yr awdurdod gorfodi yn anghywir, rhaid i'r awdurdod roi ei effaith i ddyfarniad y llys.

Gwybodaeth Cychwyn

I30Rhl. 33 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

Apelau i Lys y Goron yn erbyn gwrthod apêl o dan reoliad 33LL+C

34.  Caiff person a dramgwyddir oherwydd bod llys ynadon wedi gwrthod apêl iddo o dan reoliad 33(1) apelio i Lys y Goron.

Gwybodaeth Cychwyn

I31Rhl. 34 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

Risg ddifrifol i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoeddLL+C

F5835.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I32Rhl. 35 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

[F59Costau a ffioeddLL+C

36.(1) Mae’r costau a dynnir gan yr awdurdod gorfodi wrth gymryd y mesurau y mae’r gweithredydd yn atebol amdanynt o dan Erthyglau 66, 67 a 69 o Reoliad 2017/625 yn daladwy gan y gweithredydd ar archiad ysgrifenedig yr awdurdod gorfodi.

(2) Mae’r costau rheolaethau swyddogol a gweithgareddau eraill y cyfeirir atynt yn [F60Erthygl 79(2)(a) ac] Erthygl 80 o Reoliad 2017/625 yn daladwy gan y gweithredydd ar archiad ysgrifenedig yr awdurdod gorfodi.]

Caffael samplau mewn perthynas â bwyd gan swyddogion awdurdodedigLL+C

37.  Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd, at ddibenion gweithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio gan yr awdurdod hwnnw—

(a)prynu sampl o unrhyw fwyd, neu unrhyw sylwedd y gellir ei ddefnyddio i baratoi bwyd;

(b)cymryd sampl o unrhyw fwyd, neu unrhyw sylwedd—

(i)y mae'n ymddangos i'r swyddog ei fod wedi'i fwriadu i'w roi ar y farchnad neu ei fod wedi'i roi ar y farchnad, i'w fwyta gan bobl, neu

(ii)y mae'r swyddog yn dod o hyd iddo ar unrhyw fangre neu mewn unrhyw fangre y mae'r swyddog wedi'i awdurdodi i fynd i mewn iddi gan reoliad 39 neu odano;

(c)cymryd sampl o unrhyw ffynhonnell fwyd, neu sampl o unrhyw ddeunydd sydd mewn cysylltiad â'r ffynhonnell fwyd, y mae'r swyddog yn dod o hyd iddi neu iddo ar unrhyw fangre o'r fath neu mewn unrhyw fangre o'r fath; ac

(ch)cymryd sampl o unrhyw eitem neu sylwedd y mae'r swyddog yn dod o hyd iddi neu iddo ar neu mewn unrhyw fangre o'r fath ac y mae gan y swyddog reswm dros gredu y gallai fod angen amdani neu amdano fel tystiolaeth mewn achos cyfreithiol o dan unrhyw un o'r darpariaethau yn y Darpariaethau Mewnforio.

Gwybodaeth Cychwyn

I34Rhl. 37 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

Dadansoddi etc. samplauLL+C

38.—(1Rhaid i swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd sydd wedi caffael sampl o dan reoliad 37—

(a)ei chyflwyno i gael ei dadansoddi gan ddadansoddydd cyhoeddus, os yw'r swyddog o'r farn y dylai'r sampl gael ei dadansoddi;

(b)ei chyflwyno i gael ei harchwilio gan archwilydd bwyd, os yw'r swyddog o'r farn y dylai'r sampl gael ei harchwilio.

(2Caiff person, heblaw swyddog o'r fath, ac sydd wedi prynu unrhyw fwyd, neu unrhyw sylwedd y gellir ei ddefnyddio i baratoi bwyd, gyflwyno sampl ohono—

(a)i gael ei dadansoddi gan y dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal lle cafodd y bwyd neu'r sylwedd ei brynu; neu

(b)i gael ei harchwilio gan archwilydd bwyd.

(3Mewn unrhyw achos lle bwriedir cyflwyno sampl i'w dadansoddi o dan y rheoliad hwn, os yw swydd y dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal o dan sylw yn wag, rhaid i'r sampl gael ei chyflwyno i'r dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer rhyw ardal arall.

(4Mewn unrhyw achos lle bwriedir cyflwyno neu lle cyflwynir sampl i'w dadansoddi neu i'w harchwilio o dan y rheoliad hwn, os yw'r dadansoddydd bwyd neu'r archwilydd bwyd yn penderfynu nad yw'n gallu cyflawni'r dadansoddiad neu'r archwiliad am unrhyw reswm, rhaid iddo gyflwyno neu, yn ôl fel y digwydd, anfon y sampl at unrhyw ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd arall y bydd yn penderfynu arno.

(5Rhaid i ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd ddadansoddi neu archwilio cyn gynted ag y bo'n ymarferol unrhyw sampl a gyflwynwyd iddo neu a anfonwyd ato o dan y rheoliad hwn, ond ac eithrio—

(a)os ef yw'r dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal o dan sylw; a

(b)os yw'r samplawedi'i chyflwyno iddo ar gyfer dadansoddiad gan swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd,

caiff fynnu ymlaen llaw fod unrhyw ffi resymol y bydd yn gofyn amdani yn cael ei thalu.

(6Rhaid i unrhyw ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd sydd wedi dadansoddi neu wedi archwilio sampl roi i'r person y cafodd ei chyflwyno ganddo dystysgrif sy'n nodi canlyniad y dadansoddiad neu'r archwiliad.

(7Rhaid i unrhyw dystysgrif a roddir gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd o dan baragraff (6) gael ei llofnodi ganddo, ond caniateir i'r dadansoddiad neu'r archwiliad gael ei wneud gan unrhyw berson sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddyd.

(8Mewn unrhyw achos cyfreithiol o dan y Darpariaethau Mewnforio, bydd y ffaith bod un o'r partïon yn dangos—

(a)dogfen sy'n honni ei bod yn dystysgrif a roddwyd gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd o dan baragraff (6); neu

(b)dogfen a ddarparwyd i'r parti hwnnw gan y parti arall fel un a oedd yn gopi o'r dystysgrif honno,

yn dystiolaeth ddigonol o'r ffeithiau a nodir ynddi oni bai, mewn achos sy'n dod o dan is-baragraff (a), bod y parti arall yn ei gwneud yn ofynnol i'r dadansoddydd bwyd neu'r archwilydd bwyd gael ei alw i fod yn dyst.

(9Dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y rheoliad hwn at ddadansoddydd cyhoeddus ar gyfer ardal benodedig, pan fo dau neu ragor o ddadansoddwyr cyhoeddus wedi'u penodi ar gyfer yr ardal honno, fel cyfeiriad at y naill neu'r llall ohonynt neu at unrhyw un ohonynt.

(10Mae'r Rheoliadau [F61Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 2013] (14) yn gymwys i sampl a gaffaelwyd gan swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd o dan reoliad 37 fel petai'n sampl a gaffaelwyd gan swyddog awdurdodedig o dan adran 29 o'r Ddeddf.

(11Rhaid i'r dystysgrif a roddir gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd o dan baragraff (6) fod ar y ffurf a nodir yn Atodlen 3 i Reoliadau [F61Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 2013] .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I35Rhl. 38 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

Pwerau i fynd i mewn ar gyfer swyddogion awdurdodedig awdurdod gorfodi bwydLL+C

39.—(1Bydd gan swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, ryw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, hawl ar bob adeg resymol—

(a)i fynd i mewn i unrhyw fangre o fewn ardal yr awdurdod er mwyn darganfod a oes unrhyw un o'r darpariaethau yn y Darpariaethau Mewnforio o ran bwyd yn cael neu wedi cael ei thorri ar y fangre;

(b)i fynd i mewn i unrhyw fangre, boed o fewn ardal yr awdurdod neu y tu allan iddi, er mwyn darganfod a oes ar y fangre unrhyw dystiolaeth am unrhyw doriad o'r fath yn yr ardal honno; ac

(c)i fynd i mewn i unrhyw fangre er mwyn i'r awdurdod gyflawni ei swyddogaethau o dan y Darpariaethau Mewnforio,

ond ni chaniateir mynnu cael mynediad fel mater o hawl i unrhyw fangre sy'n cael ei defnyddio'n unig fel tŷ annedd preifat oni bai bod hysbysiad am y bwriad i fynd i mewn i'r fangre wedi'u rhoi i'r meddiannydd 2 awr ymlaen llaw.

(2Os bydd ynad heddwch, ar ôl cael gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, wedi'i fodloni bod sail resymol dros fynd ar unrhyw fangre at unrhyw ddiben a grybwyllwyd ym mharagraff (1) a naill ai—

(a)bod mynediad i'r fangre wedi'i wrthod, neu y deellir y gall gael ei wrthod, a bod hysbysiad o'r bwriad i wneud cais am warant wedi'i roi i'r meddiannydd; neu

(b)y byddai cais am fynediad, neu roi hysbysiad o'r fath, yn mynd yn groes i'r amcan o fynd i mewn i'r fangre, neu fod yr achos yn achos brys, neu fod y fangre heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro,

caiff yr ynad drwy warant a lofnodir ganddo awdurdodi'r swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i'r fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol os bydd ei angen.

(3Bydd pob gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn yn parhau mewn grym am gyfnod o un mis.

(4Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a ddyroddwyd odano, fynd ag unrhyw bersonau eraill y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol gydag ef, ac wrth ymadael ag unrhyw fangre sydd heb ei meddiannu ac y mae'r swyddog wedi mynd i mewn iddi yn rhinwedd gwarant o'r fath, rhaid iddo ei gadael yn fangre sydd wedi'i diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd pan aeth yno yn gyntaf.

(5Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a ddyroddwyd odano, arolygu unrhyw gofnodion (ar ba ffurf bynnag y maent yn cael eu cadw) sy'n ymwneud â busnes bwyd, a phan fo'r cofnodion hynny yn cael eu storio ar unrhyw ffurf electronig—

(a)caiff fynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw aparatws neu ddeunydd perthynol a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â'r cofnodion, a'u harolygu a gwirio eu gweithrediad; a

(b)caiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, yr aparatws neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, roi iddo unrhyw gymorth y mae arno angen rhesymol amdano.

(6Caiff unrhyw swyddog sy'n arfer unrhyw bŵer a roddwyd gan baragraff (5)—

(a)cymryd i'w feddiant a chadw unrhyw gofnodion y mae ganddo reswm dros gredu y gallai fod angen amdanynt fel tystiolaeth mewn achos cyfreithiol o dan unrhyw un o'r darpariaethau yn y Darpariaethau Mewnforio; a

(b)pan fo'r cofnodion wedi'u storio ar unrhyw ffurf electronig, ei gwneud yn ofynnol i'r cofnodion gael eu darparu ar ffurf a fyddai'n caniatáu mynd â hwy oddi yno.

(7Os bydd unrhyw berson sy'n mynd i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a roddwyd odano, yn datgelu i unrhyw berson arall unrhyw wybodaeth y mae wedi'i chael ar y fangre o ran unrhyw gyfrinach fasnachol, bydd yn euog o dramgwydd, oni bai bod y datgeliad wedi'i wneud wrth iddo gyflawni ei ddyletswydd.

(8Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn awdurdodi neb, ac eithrio gyda chaniatâd yr awdurdod lleol o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, i fynd i mewn i unrhyw fangre—

(a)lle cedwir anifail neu aderyn y mae unrhyw glefyd y mae'r Ddeddf honno yn gymwys iddo wedi effeithio arno; a

(b)sydd wedi'i leoli mewn man y datganwyd ei fod wedi'i heintio â chlefyd o'r fath o dan y Ddeddf honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I36Rhl. 39 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

Rhwystro etc. swyddogion (mewnforion)LL+C

40.—(1Bydd unrhyw berson sydd—

(a)yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Darpariaethau Mewnforio ar waith; neu

(b)yn methu, heb achos rhesymol, â rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Darpariaethau Mewnforio ar waith unrhyw gymorth neu wybodaeth y gall y person hwnnw ofyn yn rhesymol amdano neu amdani er mwyn cyflawni ei swyddogaethau o dan y Darpariaethau Mewnforio,

yn euog o dramgwydd.

(2Bydd unrhyw berson sydd, gan honni ei fod yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a grybwyllwyd ym mharagraff (1)(b)—

(a)yn rhoi gwybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys; neu

(b)yn ddi-hid yn rhoi gwybodaeth sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys,

yn euog o dramgwydd.

(3Ni chaniateir dehongli dim ym mharagraff (1)(b) fel pe bai'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn neu roi unrhyw wybodaeth os byddai gwneud hynny yn gallu ei argyhuddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I37Rhl. 40 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

Tramgwyddau a chosbauLL+C

41.—(1Bydd unrhyw berson sydd—

(a)yn mynd yn groes i unrhyw rai o'r darpariaethau [F62mewnforio] penodedig neu yn methu â chydymffurfio â hwy;

(b)yn mynd yn groes i baragraff (3) o reoliad 26, paragraff (5) o reoliad 27 F63... neu yn methu â chydymffurfio â hwy;

(c)yn mynd yn groes i unrhyw rai o'r gwaharddiadau ym mharagraff (1) o reoliad 28;

(ch)i'r graddau na fydd mynd yn groes i reoliad 29 neu fethu â chydymffurfio ag ef yn dramgwydd o dan reoliad 40, yn mynd yn groes i reoliad 29 neu'n methu â chydymffurfio ag ef; neu

(d)yn methu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir iddo o dan y Darpariaethau Mewnforio,

[F64(e)yn mynd yn groes i ddarpariaethau unrhyw offeryn a wneir o dan Erthygl 53 o Reoliad 178/2002 neu’n methu â chydymffurfio â hwy.]

yn euog o dramgwydd.

[F65(1A) Bydd unrhyw berson sy’n mewnforio i Gymru neu’n rhoi ar y farchnad unrhyw egin neu hadau sydd wedi eu bwriadu ar gyfer egino nad ydynt yn cydymffurfio â gofynion ardystio [F66Erthygl 13 o Reoliad 2019/625, i’r graddau y mae’n ymwneud â egin a hadau sydd wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu egin, fel y’i darllenir gydag Erthygl 27 o Reoliad 2019/628] yn euog o dramgwydd.]

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rhan hon o'r Rheoliadau hyn yn agored—

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol; neu

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, i ddirwy neu i'r ddau.

(3Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 0 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu i'r ddau.

Y terfyn amser ar gyfer erlyniadau (mewnforion)LL+C

42.  Ni chaniateir cychwyn unrhyw erlyniad am dramgwydd o dan y Rhan hon o'r Rheoliadau hyn sy'n dramgwydd y gellir ei gosbi o dan reoliad 1(2), ar ôl i'r naill neu'r llall o'r cyfnodau canlynol ddod i ben—

(a)tair blynedd o ddyddiad cyflawni'r tramgwydd; neu

(b)blwyddyn o ddyddiad ei ddarganfod gan yr erlynydd,

p'un bynnag yw'r cynharaf.

Gwybodaeth Cychwyn

I39Rhl. 42 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

[F67Ffioedd neu daliadau sy’n deillio o reolaethau swyddogol anghynlluniedigLL+C

42A.  Rhaid i ffioedd neu daliadau a osodir gan awdurdod cymwys ar weithredydd yn unol ag Erthygl 79(2)(c) o Reoliad 2017/625 gael eu talu gan y gweithredydd ar archiad ysgrifenedig yr awdurdod cymwys.]

RHAN 4LL+CADENNILL TREULIAU

Treuliau sy'n deillio o reolaethau swyddogol ychwanegolLL+C

F6843.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I40Rhl. 43 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

Treuliau sy'n deillio o gymorth wedi ei gyd-drefnu a gwaith dilynol gan y ComisiwnLL+C

F6944.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I41Rhl. 44 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

RHAN 5LL+CGORFODI A DARPARIAETHAU ATODOL

Tramgwyddau oherwydd bai person arallLL+C

45.  Pan fo tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn cael ei gyflawni gan unrhyw berson oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall, bydd y person arall hwnnw yn euog o'r tramgwydd; a chaniateir i berson gael ei gollfarnu o'r tramgwydd yn rhinwedd y rheoliad hwn p'un a ddygir achos cyfreithiol yn erbyn y person a grybwyllwyd yn gyntaf neu beidio.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I42Rhl. 45 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

Amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwyLL+C

46.—(1Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, bydd yn amddiffyniad, yn ddarostyngedig i baragraff (2), i'r sawl a gyhuddir brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni'r tramgwydd ei hun neu i osgoi iddo gael ei gyflawni gan berson sydd o dan ei reolaeth.

(2Os yw'r amddiffyniad sy'n cael ei ddarparu gan baragraff (1) yn cynnwys mewn unrhyw achos, yr honiad bod y tramgwydd wedi'i gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred person arall, neu drwy ddibynnu ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson arall, ni fydd gan y sawl a gyhuddir, heb ganiatâd y llys, hawl i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw, oni bai bod y sawl a gyhuddir—

(a)o leiaf saith niwrnod clir cyn y gwrandawiad; a

(b)pan fo wedi ymddangos o'r blaen gerbron llys mewn cysylltiad â'r tramgwydd honedig, o fewn un mis i'w ymddangosiad cyntaf hwnnw,

wedi cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r erlynydd yn rhoi unrhyw wybodaeth a fyddai'n fodd i adnabod neu i helpu i adnabod y person arall hwnnw a honno'n wybodaeth a oedd ar y pryd ym meddiant y sawl a gyhuddir.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I43Rhl. 46 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

Tramgwyddau gan gyrff corfforaetholLL+C

47.—(1Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw un o'r canlynol, neu y gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw un o'r canlynol—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff corfforaethol; neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhywswydd o'r fath,

bernir bod y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(2Ym mharagraff (1)(a) ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas ag unrhyw gorff corfforaethol a sefydlwyd gan neu o dan unrhyw ddeddfiad er mwyn rhedeg o dan berchenogaeth genedlaethol unrhyw ddiwydiant, neu ran o ddiwydiant neu ymgymeriad, a hwnnw'n gorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol hwnnw.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I44Rhl. 47 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

Tramgwyddau gan bartneriaethau AlbanaiddLL+C

48.  Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan bartneriaeth Albanaidd wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu y gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran partner, bernir bod y partner hwnnw, yn ogystal â'r bartneriaeth, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I45Rhl. 48 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

Amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyllLL+C

49.—(1Ni fydd swyddog i gorff perthnasol yn atebol yn bersonol am unrhyw weithred a gyflawnir ganddo—

(a)wrth iddo weithredu neu honni ei fod yn gweithredu'r Rheoliadau Rheolaeth Swyddogol; a

(b)o fewn cwmpas ei gyflogaeth,

os gwnaeth y swyddog y weithred honno gan gredu'n onest bod ei ddyletswydd o dan y Rheoliadau Rheolaeth Swyddogol yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny neu'n rhoi hawl iddo wneud hynny.

(2Nid oes dim ym mharagraff (1) i'w ddehongli fel pe bai'n rhyddhau unrhyw gorff perthnasol rhag unrhyw rwymedigaeth mewn perthynas â gweithredoedd ei swyddogion.

(3Pan fo achos cyfreithiolawedi'i ddwyn yn erbyn swyddog i gorff perthnasol mewn perthynas â gweithred a wnaed gan y swyddog—

(a)wrth iddo weithredu neu honni ei fod yn gweithredu'r Rheoliadau Rheolaeth Swyddogol; ond

(b)y tu allan i gwmpas ei gyflogaeth,

caiff y corff indemnio'r swyddog yn erbyn y cyfan neu ran o unrhyw iawndal y gorchmynnwyd i'r swyddog ei dalu neu unrhyw gostau y gall y swyddog fod wedi'u tynnu, os yw'r corff hwnnw wedi'i fodloni bod y swyddog yn credu'n onest bod y weithred y cwynir amdani o fewn cwmpas ei gyflogaeth.

(4I'r graddau y mae awdurdod bwyd yn gorff perthnasol at ddibenion y rheoliad hwn, rhaid ymdrin â dadansoddydd cyhoeddus a benodwyd gan awdurdod bwyd at ddibenion y rheoliad hwn fel swyddog i'r awdurdod, p'un a yw penodiad y dadansoddydd yn benodiad amser-cyfan neu beidio.

(5Yn y rheoliad hwn ystyr “corff perthnasol” yw corff sy'n gweithredu—

(a)fel awdurdod cymwys;

(b)fel awdurdod gorfodi fel y'i diffinnir yn rheoliad 22; neu

(c)fel awdurdod gorfodi perthnasol.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I46Rhl. 49 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

Cyflwyno dogfennauLL+C

50.—(1Caniateir i unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol neu yr awdurdodir ei chyflwyno i berson o dan y Rheoliadau hyn gael ei chyflwyno i'r person o dan sylw—

(a)drwy ei thraddodi i'r person hwnnw;

(b)yn achos person sy'n gorff corfforaethol ac eithrio partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, drwy ei thraddodi i'w ysgrifennydd yn swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r corff corfforaethol, neu drwy ei hanfon mewn llythyr rhagdaledig a gyfeirir at yr ysgrifennydd yn y swyddfa honno;

(c)yn achos person sy'n bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, drwy ei thraddodi i aelod dynodedig o'r bartneriaeth yn swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r bartneriaeth neu drwy ei hanfon mewn llythyr rhagdaledig a gyfeirir at aelod dynodedig o'r bartneriaeth yn y swyddfa honno;

(ch)yn achos person sy'n bartneriaeth ac eithrio partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, drwy ei thraddodi i brif fan busnes y bartneriaeth; neu

(d)yn achos unrhyw berson arall, drwy ei gadael neu ei hanfon mewn llythyr rhagdaledig sydd wedi'i gyfeirio at y person hwnnw yn ei breswylfan arferol neu ei breswylfan hysbys ddiwethaf.

(2Pan fo dogfen i'w chyflwyno i feddiannydd unrhyw fangre o dan y Rheoliadau hyn ac nad yw'n rhesymol ymarferol darganfod enw a chyfeiriad y person y dylid ei chyflwyno iddo, neu pan fo'r fangre heb ei meddiannu, caniateir i'r ddogfen gael ei chyflwyno drwy ei chyfeirio at y person o dan sylw yn rhinwedd ei swyddogaeth fel “meddiannydd” y fangre (gan enwi'r meddiannydd), ac—

(a)drwy ei thraddodi i ryw berson arall yn y fangre; a

(b)os nad oes unrhyw berson arall yn y fangre y gellir ei thraddodi iddo, drwy osod y ddogfen neu gopi ohoni ar ryw ran amlwg o'r fangre.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I47Rhl. 50 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

Diwygio Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005LL+C

F7051.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I48Rhl. 51 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

DirymuLL+C

52.  Mae'r Rheoliadau canlynolawedi'u dirymu—

(a)Rheoliadau Bwyd (Tsilis, Cynhyrchion Tsilis, Cwrcwma ac Olew Palmwydd) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2005(15);

(b)Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd 2007(16).

Gwybodaeth Cychwyn

I49Rhl. 52 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

21 Rhagfyr 2009

Rheoliad 2(1A)

[F71ATODLEN 1LL+CDIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH

ystyr “Cyfarwyddeb 2004/41” yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n diddymu Cyfarwyddebau penodol ynglŷn â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy’n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i’w bwyta gan bobl ac sy’n diwygio Cyfarwyddebau’r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC;

ystyr “Rheoliad 999/2001” yw Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a difodi enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol;

ystyr “Rheoliad 178/2002” yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd;

ystyr “Rheoliad 852/2004” yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar hylendid bwydydd fel y’i darllenir gyda Rheoliad 2073/2005;

ystyr “Rheoliad 853/2004” yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy’n dod o anifeiliaid fel y’i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 1688/2005 a Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2017/185;

ystyr “Rheoliad 1688/2005” yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1688/2005 sy’n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer llwythi o gig ac wyau penodol i’r Ffindir a Sweden;

ystyr “Rheoliad 2073/2005” yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer bwydydd;

ystyr “Rheoliad 2074/2005” yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy’n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor, sy’n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004;

ystyr “Rheoliad 2017/185” yw Rheoliad y Comisiwn (EU) 2017/185 sy’n gosod mesurau trosiannol ar gyfer cymhwyso darpariaethau penodol yn Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor;

Pecyn Rheoliad 2017/625

ystyr “Rheoliad 2017/625” yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 999/2001, (EC) Rhif 396/2005, (EC) Rhif 1069/2009, (EC) Rhif 1107/2009, (EU) Rhif 1151/2012, (EU) Rhif 652/2014, (EU) 2016/429 ac (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor, Rheoliadau’r Cyngor (EC) Rhif 1/2005 ac (EC) Rhif 1099/2009 a Chyfarwyddebau’r Cyngor 98/58/EC, 1999/74/EC, 2007/43/EC, 2008/119/EC a 2008/120/EC, ac sy’n diddymu Rheoliadau (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Cyngor 89/608/EEC, 89/662/EEC, 90/425/EEC, 91/496/EEC, 96/23/EC, 96/93/EC a 97/78/EC a Phenderfyniad y Cyngor 92/438/EEC fel y’i darllenir gyda Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2017/185 a phecyn Rheoliad 2017/625;

ystyr “Rheoliad 2019/478” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/478 sy’n diwygio Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y categorïau o lwythi sydd i fod yn ddarostyngedig i reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin;

ystyr “Rheoliad 2019/624” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/624 ynghylch rheolau penodol ar gyfer cyflawni rheolaethau swyddogol ar gynhyrchu cig ac ar gyfer ardaloedd cynhyrchu ac ailddodi molysgiaid dwygragennog byw yn unol â Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor;

ystyr “Rheoliad 2019/625” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/625 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran gofynion ar gyfer mynediad i’r Undeb i lwythi o anifeiliaid a nwyddau penodol a fwriedir i’w bwyta gan bobl;

ystyr “Rheoliad 2019/626” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/626 ynghylch rhestrau o drydydd gwledydd neu ranbarthau o’r trydydd gwledydd hynny sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer mynediad i anifeiliaid a nwyddau penodol a fwriedir i’w bwyta gan bobl i’r Undeb Ewropeaidd, sy’n diwygio Rheoliad Gweithredu (EU) 2016/759 o ran y rhestrau hyn;

ystyr “Rheoliad 2019/627” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/627 sy’n gosod trefniadau ymarferol unffurf ar gyfer cyflawni rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid a fwriedir i’w bwyta gan bobl yn unol â Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac sy’n diwygio Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 o ran rheolaethau swyddogol;

ystyr “Rheoliad 2019/628” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/628 ynghylch tystysgrifau swyddogol enghreifftiol ar gyfer anifeiliaid a nwyddau penodol ac sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2074/2005 a Rheoliad Gweithredu (EU) 2016/759 o ran y tystysgrifau enghreifftiol hyn;

ystyr “Rheoliad 2019/1012” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1012 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor drwy randdirymu’r rheolau ar gyfer dynodi pwyntiau rheoli a’r isafswm gofynion ar gyfer safleoedd rheoli ar y ffin;

ystyr “Rheoliad 2019/1013” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1013 ar hysbysu ymlaen llaw am lwythi o gategorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau sy’n dod i mewn i’r Undeb;

ystyr “Rheoliad 2019/1014” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1014 i osod rheolau manwl ar gyfer yr isafswm gofynion ar gyfer safleoedd rheoli ar y ffin, gan gynnwys canolfannau arolygu, ac ar gyfer y fformat, y categorïau a’r byrfoddau i’w defnyddio wrth restru safleoedd rheoli ar y ffin a phwyntiau rheoli;

ystyr “Rheoliad 2019/1081” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1081 sy’n sefydlu rheolau ar ofynion hyfforddi penodol ar gyfer staff er mwyn cyflawni gwiriadau ffisegol penodol mewn safleoedd rheoli ar y ffin;

ystyr “Rheoliad 2019/1602” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1602 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch y Ddogfen Fynediad Iechyd Gyffredin sy’n mynd gyda llwythi o anifeiliaid a nwyddau i’w cyrchfan;

ystyr “Rheoliad 2019/1666” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/1666 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran yr amodau ar gyfer monitro cludiant a chyrhaeddiad llwythi o nwyddau penodol o’r safle rheoli ar y ffin lle y cyraeddasant i’r sefydliad yn y gyrchfan yn yr Undeb;

ystyr “Rheoliad 2019/1715” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1715 sy’n gosod rheolau ar gyfer gweithrediad y system rheoli gwybodaeth ar gyfer rheolaethau swyddogol a chydrannau ei system;

ystyr “Rheoliad 2019/1793” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1793 ar gynyddu dros dro reolaethau swyddogol a mesurau brys sy’n rheoli mynediad i’r Undeb i nwyddau penodol o drydydd gwledydd penodol sy’n gweithredu Rheoliadau (EU) 2017/625 ac (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor ac yn diddymu Rheoliadau’r Comisiwn (EC) Rhif 669/2009, (EU) Rhif 884/2014, (EU) 2015/175, (EU) 2017/186 ac (EU) 2018/1660;

ystyr “Rheoliad 2019/1873” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1873 ar y gweithdrefnau mewn safleoedd rheoli ar y ffin ar gyfer cyflawni gan awdurdodau cymwys mewn modd cydgysylltiedig reolaethau swyddogol dwysach ar gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, cynhyrchion eginol, sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion cyfansawdd;

ystyr “Rheoliad 2019/2007” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2007 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y rhestrau o anifeiliaid, cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, cynhyrchion eginol, sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy’n deillio o anifeiliaid a gwair a gwellt sy’n ddarostyngedig i reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin ac yn diwygio Penderfyniad 2007/275/EC;

ystyr “Rheoliad 2019/2074” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2074 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran rheolau ynghylch rheolaethau swyddogol penodol ar lwythi o anifeiliaid a nwyddau penodol sy’n tarddu o’r Undeb, ac yn dychwelyd i’r Undeb yn dilyn gwrthod mynediad gan drydedd wlad;

ystyr “Rheoliad 2019/2122” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2122 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran categorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau a esemptir o reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin, rheolaethau penodol ar fagiau personol teithwyr ac ar lwythi bach o nwyddau anfonir at bobl naturiol na fwriedir eu rhoi ar y farchnad, ac yn diwygio Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 142/2011;

ystyr “Rheoliad 2019/2123” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2123 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran rheolau ar gyfer yr achosion lle y caniateir cyflawni gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol ar nwyddau penodol mewn pwyntiau rheoli ac y caniateir cynnal gwiriadau dogfennol o bell o safleoedd rheoli ar y ffin, a’r amodau y cynhelir y gwiriadau hynny oddi tanynt;

ystyr “Rheoliad 2019/2124” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2124 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran rheolau ar gyfer rheolaethau swyddogol ar lwythi o anifeiliaid a nwyddau sy’n cael eu cludo, eu trawslwytho a’u cludo ymlaen drwy’r Undeb, ac yn diwygio Rheoliadau’r Comisiwn (EC) Rhif 798/2008, (EC) Rhif 1251/2008, (EC) Rhif 119/2009, (EU) Rhif 206/2010, (EU) Rhif 605/2010, (EU) Rhif 142/2011, (EU) Rhif 28/2012, Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/759 a Phenderfyniad y Comisiwn 2007/777/EC;

ystyr “Rheoliad 2019/2126” yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2126 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran rheolau ar gyfer rheolaethau swyddogol penodol ar gategorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau, mesurau i’w cymryd yn dilyn cyflawni’r rheolaethau hynny a chategorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau a esemptir o reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin;

ystyr “Rheoliad 2019/2129” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2129 sy’n sefydlu rheolau ar gyfer cymhwyso cyfraddau amlder unffurf ar gyfer gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol ar lwythi penodol o anifeiliaid a nwyddau sy’n dod i’r Undeb;

ystyr “Rheoliad 2019/2130” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2130 sy’n sefydlu rheolau manwl ar y gweithrediadau i’w cyflawni yn ystod, ac ar ôl, gwiriadau dogfennol, gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol ar anifeiliaid a nwyddau sy’n ddarostyngedig i reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin;

ystyr “Rheoliad 2020/466 yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2020/466 ar fesurau dros dro i atal risgiau i iechyd dynol, iechyd anifeiliaid ac iechyd planhigion a lles anifeiliaid yn ystod tarfu difrifol penodol ar systemau rheoli Aelod-wladwriaethau oherwydd clefyd y coronafeirws;

ystyr “Rheoliad 2020/1158” yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2020/1158 ar yr amodau sy’n llywodraethu mewnforion bwyd a bwyd anifeiliaid sy’n tarddu o drydedd wledydd yn dilyn y ddamwain yng ngorsaf bŵer niwclear Chernobyl.]

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 2LL+CDIFFINIAD O GYFRAITH BWYD ANIFEILIAID BERTHNASOL

Gwybodaeth Cychwyn

I50Atod. 2 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 3LL+CDIFFINIAD O GYFRAITH BWYD BERTHNASOL

Gwybodaeth Cychwyn

I51Atod. 3 mewn grym ar 25.1.2010, gweler rhl. 1

Rheoliad 3(1)

[F82ATODLEN 4LL+CAWDURDODAU CYMWYS AT DDIBENION DARPARIAETHAU PENODOL YN RHEOLIAD 2017/625 I’R GRADDAU Y MAENT YN GYMWYS O RAN CYFRAITH BWYD ANIFEILIAID BERTHNASOL

Colofn 1Colofn 2
Awdurdod CymwysY darpariaethau yn Rheoliad 2017/625
Yr AsiantaethErthyglau 4, 5(1), (4) a (5), 6, 7, 8, 11, 12, 15, 28, 29, 30, 31, 32, 33, 35, 37, 38, 39, 40, 42, 63(4)(a), 65(5), 66(6), 73, 75, 76, 78, 79, 81, 82, 83, 84, 85, 87, 88, 89, 91, 93, 96, 100, 101, 102, 103, 104, 105, 106, 107, 108, 109, 110, 111, 113, 115, 116, 124, 130, 135, 137, 138, 140.
Yr awdurdod bwyd anifeiliaidErthyglau 4, 5(1), (4) a (5), 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 15, 26, 28, 29, 30, 31, 32, 33, 35, 36, 38, 44, 45, 46, 47, 49, 50, 55, 56, 57, 63, 65(1), (2), (3), (4) a (5), 66, 67, 68, 69, 71, 72, 73, 75, 76, 78, 79, 81, 82, 83, 84, 85, 86, 87, 88, 89, 91, 96, 101, 102, 103, 104, 105, 106, 107, 108, 109, 110, 111, 113, 115, 116, 130, 135, 137, 138, 140.]

Rheoliad 3(3)

[F83ATODLEN 5LL+CAWDURDODAU CYMWYS AT DDIBENION DARPARIAETHAU PENODOL YN RHEOLIAD 2017/625 I’R GRADDAU Y MAENT YN GYMWYS O RAN CYFRAITH BWYD BERTHNASOL

Colofn 1Colofn 2
Awdurdod CymwysY darpariaethau yn Rheoliad 2017/625
Yr AsiantaethErthyglau 4, 5(1), (4) a (5), 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 15, 18, 21, 26, 28, 29, 30, 31, 32, 33, 35, 36, 37, 38, 39, 40, 42, 44, 45, 46, 47, 49, 50, 55, 56, 57(3), 63(4)(a), 65(5), 66(6), 68, 69, 71, 72, 73, 75, 76, 78, 79, 81, 82, 83, 84, 85, 86, 87, 88, 89, 91, 93, 96, 100, 101, 102, 103, 104, 105, 106, 107, 108, 109, 110, 111, 113, 115, 116, 124, 130, 132, 133, 135, 137, 138, 140, 148, 150.
Yr awdurdod bwydErthyglau 4(2), 5(1), (4) a (5), 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 15, 18, 21, 26, 28, 29, 30, 31, 32, 33, 35, 36, 38, 44, 45, 46, 47, 49, 50, 55, 56, 57, 63, 65(1), (2), (3), (4) a (5), 66, 67, 68, 69, 71, 72, 73, 75, 76, 78, 79, 81, 82, 83, 84, 85, 86, 87, 88, 89, 91, 96, 101, 102, 103, 104, 105, 106, 107, 108, 109, 110, 111, 113, 115, 116, 130, 132, 133, 135, 137, 138, 140, 148, 150.]

Rheoliadau 22 a 41(1)(a)

[F84ATODLEN 6LL+CDARPARIAETHAU MEWNFORIO PENODEDIG

Colofn 1Colofn 2
Y ddarpariaeth yn neddfwriaeth yr UE Y cynnwys
Erthygl 69(1) o Reoliad 2017/625Gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i gyflawni’r holl fesurau y mae’r awdurdodau cymwys yn eu gorchymyn.
Erthygl 1 o Reoliad 2019/1013Gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i roi hysbysiad ymlaen llaw i’r awdurdod cymwys ynghylch y safle rheoli ar y ffin, o leiaf un diwrnod gwaith cyn y disgwylir i’r llwyth gyrraedd.
Erthygl 3 o Reoliad 2019/1602Gofyniad bod Dogfen Fynediad Iechyd Gyffredin (DFIG) i fynd gyda phob llwyth pa un a gaiff ei hollti yn y safle rheoli ar y ffin neu ar ôl gadael y safle rheoli ar y ffin ai peidio.
Erthygl 4(a) o Reoliad 2019/1602Pan na fo llwyth yn cael ei hollti cyn ei ryddhau ar gyfer cylchrediad rhydd, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i sicrhau bod copi o’r DFIG yn mynd gyda’r llwyth i’r gyrchfan a hyd nes y caiff ei ryddhau ar gyfer cylchrediad rhydd.
Erthygl 4(b) o Reoliad 2019/1602Pan na fo llwyth yn cael ei hollti cyn cael ei ryddhau ar gyfer cylchrediad rhydd, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i nodi rhif cyfeirnod y DFIG yn y datganiad tollau sy’n cael ei roi i’r awdurdodau tollau a’i fod i gadw copi o’r DFIG at ddefnydd yr awdurdodau tollau.
Erthygl 5(1)(a) o Reoliad 2019/1602Pan fo llwyth i’w hollti yn y safle rheoli ar y ffin, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth, wrth hysbysu ymlaen llaw, i ddatgan mai’r safle rheoli ar y ffin yw’r gyrchfan yn y DFIG ar gyfer y llwyth cyfan.
Erthygl 5(1)(b) o Reoliad 2019/1602Pan fo llwyth i’w hollti yn y safle rheoli ar y ffin, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth, wrth orffen y DFIG ar gyfer y llwyth cyfan, i ofyn am i’r llwyth gael ei hollti, a’i fod i gyflwyno, drwy’r [F85system rheoli gwybodaeth gyfrifiadurol briodol], DFIG ar gyfer pob rhan o’r llwyth a holltwyd a gwneud datganiad.
Erthygl 5(1)(d) o Reoliad 2019/1602Pan fo llwyth i’w hollti yn y safle rheoli ar y ffin, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i sicrhau bod copi o’r DFIG ar gyfer pob rhan o’r llwyth a holltwyd yn mynd gyda’r rhan berthnasol i’r gyrchfan a hyd nes y caiff ei rhyddhau ar gyfer cylchrediad rhydd.
Erthygl 5(1)(e) o Reoliad 2019/1602Pan fo llwyth i’w hollti yn y safle rheoli ar y ffin, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i nodi rhif cyfeirnod y DFIG ar gyfer pob rhan o’r llwyth a holltwyd yn y datganiad tollau a roddir i’r awdurdodau tollau a’i fod i gadw copi o’r DFIG hwnnw at ddefnydd yr awdurdodau tollau.
Erthygl 5(2)(a) o Reoliad 2019/1602Pan fo llwyth nad yw’n cydymffurfio i’w hollti yn y safle rheoli ar y ffin, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth, wrth orffen y DFIG ar gyfer y llwyth cyfan, i gyflwyno DFIG ar gyfer pob rhan o’r llwyth a holltwyd a gwneud datganiad.
Erthygl 6(a) o Reoliad 2019/1602Pan fo llwyth i’w hollti ar ôl gadael y safle rheoli ar y ffin a chyn cael ei ryddhau ar gyfer cylchrediad rhydd, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i sicrhau bod copi o’r DFIG yn mynd gyda phob rhan o’r llwyth a holltwyd hyd nes y caiff ei rhyddhau ar gyfer cylchrediad rhydd.
Erthygl 6(b) o Reoliad 2019/1602Pan fo llwyth i’w hollti ar ôl gadael y safle rheoli ar y ffin a chyn cael ei ryddhau ar gyfer cylchrediad rhydd, gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i nodi rhif cyfeirnod y DFIG ar gyfer pob rhan o’r llwyth a holltwyd yn y datganiad tollau a roddir i’r awdurdodau tollau a’i fod i gadw copi o’r DFIG hwnnw at ddefnydd yr awdurdodau tollau.
Erthygl 3(1) o Reoliad 2019/1666Gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth i roi gwybod i’r awdurdod cymwys sy’n gyfrifol am gyflawni’r rheolaethau swyddogol yn y sefydliad yn y gyrchfan, fod y llwyth wedi cyrraedd, a hynny o fewn un diwrnod i’r adeg y mae’r llwyth yn cyrraedd.
Erthygl 6(1) o Reoliad 2019/2123Ar ôl i awdurdodau cymwys y safle rheoli ar y ffin awdurdodi trosglwyddo’r llwyth i’r pwynt rheoli a nodir yn y DFIG, neu benderfynu gwneud hynny, gofyniad na chaiff y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth gyflwyno’r llwyth ar gyfer gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol i bwynt rheoli gwahanol i’r un a nodir yn y DFIG, oni bai bod awdurdodau cymwys y safle rheoli ar y ffin yn awdurdodi trosglwyddo’r llwyth i bwynt rheoli arall yn unol â phwynt (a) o Erthygl 3(1) a phwynt (a) o Erthygl 4(2).
Erthygl 6(4) o Reoliad 2019/2123Gofyniad bod rhaid i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth nodi rhif cyfeirnod y DFIG a gwblhawyd y cyfeirir ati yn Erthygl 6(3) yn y datganiad tollau sy’n cael ei roi i’r awdurdodau tollau a’i fod i gadw copi o’r DFIG honno at ddefnydd yr awdurdodau tollau.
Erthygl 6(1) of Reoliad 2019/2124Gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwythi a awdurdodir ar gyfer eu cludo ymlaen yn unol ag Erthygl 4 yn sicrhau: (a) yn ystod ei gludo i’r cyfleuster cludo ymlaen, a’i storio yn y cyfleuster hwnnw, nad ymyrrir â’r llwyth mewn unrhyw fodd; (b) nad yw’r llwyth yn ddarostyngedig i unrhyw addasu, prosesu, amnewid neu newid deunydd pecynnu; (c) nad yw’r llwyth yn gadael y cyfleuster cludo ymlaen hyd nes y bydd awdurdodau cymwys y safle rheoli ar y ffin yn gwneud y penderfyniad ynghylch y llwyth yn unol ag Erthygl 55 o Reoliad 2017/625.
Erthygl 6(2) o Reoliad 2019/2124Gofyniad bod rhaid i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth gludo’r llwyth o dan oruchwyliaeth tollau yn uniongyrchol o’r safle rheoli ar y ffin i’r cyfleuster cludo ymlaen, heb ddadlwytho’r nwyddau yn ystod eu cludo, a rhaid iddo storio’r llwyth yn y cyfleuster cludo ymlaen.
Erthygl 6(4) o Reoliad 2019/2124Gofyniad bod rhaid i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth sicrhau bod copi, ar bapur neu ar ffurf electronig, o’r DFIG y cyfeirir ati yn Erthygl 3 yn mynd gyda’r llwyth o’r safle rheoli ar y ffin i’r cyfleuster cludo ymlaen.
Erthygl 6(5) o Reoliad 2019/2124Gofyniad bod y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth yn hysbysu’r awdurdodau cymwys yn y cyrchfan derfynol bod y llwyth wedi cyrraedd y cyfleuster cludo ymlaen.
Erthygl 6(6) o Reoliad 2019/2124Ar ôl i awdurdodau cymwys y safle rheoli ar y ffin awdurdodi ei gludo ymlaen i’r cyfleuster cludo ymlaen, gofyniad na chaiff y gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth ei gludo ymlaen i gyfleuster cludo ymlaen gwahanol i’r un a nodir yn y DFIG, oni bai bod awdurdodau cymwys y safle rheoli ar y ffin yn awdurdodi’r newid yn unol ag Erthygl 4 ac ar yr amod y cydymffurfir â’r amodau a nodir ym mharagraffau 1 i 5 o Erthygl 6.]

Rheoliad 51

F86ATODLEN 7LL+CATODLEN A RODDIR YN LLE ATODLEN 1 I REOLIADAU BWYD ANIFEILIAID (HYLENDID A GORFODI) (CYMRU) 2005

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn ailddeddfu gyda newidiadau Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3294 (Cy.290)). Dyma'r prif newidiadau —LL+C

(a)darperir bod person sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig deddfwriaeth yr UE ynghylch pwysigrwydd mathau penodol o fwyd anifeiliaid a bwyd nad yw'n dod o anifeiliaid, neu sy'n methu â chydymffurfio â hwy, yn euog o dramgwydd (rheoliad 41(1) (a));

(b)darperir bod cyrff penodedig yn cael eu dynodi'n awdurdodau cymwys o ran y mewnforion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) o'r paragraff hwn (rheoliad 23(2), (3) (4) rheoliad 24(2), (3) (4));

(c)darperir y caniateir i Gomisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi,yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac awdurdodau bwyd anifeiliaid a bwyd gyfnewid a dadlennu gwybodaeth (rheoliad 26);

(ch)darperir y caniateir i bwyntiau mynediad dynodedig ar gyfer y mewnforion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) o'r paragraff hwn gael eu hatal (rheoliad 30);

(d)darperir y caniateir i ffioedd gael eu casglu gan awdurdodau cymwys mewn cysylltiad â'r lefel uwch o reolaethau swyddogol ar y mewnforion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) o'r paragraff hwn (rheoliad 36(2)); ac

(dd)diwygir y diffiniad o “cyfraith bwyd berthnasol” yn Atodlen 3.

2.  Mae'r Rheoliadau hyn sydd,fel O.S. 2007/3294 (Cy.290), yn gymwys o ran Cymru'n unig, yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi —LL+C

(a)Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a ddefnyddir i sicrhau bod cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd, ac â rheolau iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid yn cael ei wirio (OJ Rhif L165,30.4.2004, t.1), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1029/2008 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor er mwyn diweddaru cyfeiriad at Safonau Ewropeaidd penodol (OJ Rhif L278, 21.10.2008, t.6), mewn perthynas â “cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol” a “cyfraith bwyd berthnasol”, sef termau a ddiffinnir yn Atodlenni 2 a 3 yn eu trefn.Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1), y dylid ei ddarllen gyda Chorigendwm pellach (OJ Rhif L204, 4.8.2007, t.29); a

(b)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 669/2009 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran y lefel uwch o reolaethau swyddogol ar fewnforio bwyd anifeiliaid penodol a bwyd penodol nad yw'n dod o anifeiliaid,ac sy'n diwygio Penderfyniad 2006/50 /EC (OJ Rhif L194, 25.7.2009, t.11).

3.  Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gosod gwaharddiadau ar gyflwyno bwydydd anifeiliaid penodol a bwydydd penodol i Gymru yng ngoleuni Erthygl 11 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac sy'n gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd (OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n addasu nifer o offerynnau'n ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/68/EC o ran y weithdrefn reoleiddio ynghyd â chraffu: Addasu'r weithdrefn reoleiddio ynghyd â chraffu — Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14), fel y'i darllenir gydag Erthygl 10 o Reoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid bwydydd (OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1; mae testun diwygiedig y Rheoliad hwnnw wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm, OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.3,y dylid ei ddarllen gyda Chorigendwm pellach, OJ Rhif L204, 4.8.2007, t.26).LL+C

4.  Mae'r Rheoliadau hyn —LL+C

(a)yn darparu ar gyfer dynodi cyrff penodedig yn awdurdodau cymwys at ddibenion darpariaethau Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 (rheoliad 3);

(b)yn darparu ar gyfer cyfnewid a darparu gwybodaeth gan awdurdodau cymwys (rheoliad 4);

(c)yn galluogi awdurdod cymwys i'w gwneud yn ofynnol i gorff rheoliaddarparu gwybodaeth a threfnu bod cofnodion ar gael a darparu bod person —

(i)sy'n methu â chydymffurfio â gofyniad i ddarparu gwybodaeth neu i drefnu bod cofnodion ar gael, neu

(ii)sydd,gan honni ei fod yn cydymffurfio â'r cyfryw ofyniad, yn rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol,

yn euog o dramgwydd (rheoliad 5);

(ch)yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddyroddi codau arfer a argymhellir i awdurdodau bwyd anifeiliaid ac awdurdodau bwyd (rheoliad 6);

(d)yn rhoi i'r Asiantaeth Safonau Bwyd y swyddogaeth o fonitro perfformiad awdurdodau gorfodi o ran gorfodi deddfwriaeth benodol (rheoliad 7);

(dd)yn rhoi i'r Asiantaeth Safonau Bwyd y pŵer,at ddiben cyflawni'r swyddogaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (d) o'r paragraff hwn —

(i)i'w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu ac i gofnodion fod ar gael (rheoliad 8,a

(ii)i awdurdodi unigolion (y caniateir iddynt drwy hynny arfer pwerau penodol,gan gynnwys pŵer mynediad) (rheoliad 9);

(e)yn diffinio termau penodol a ddefnyddir yn rheoliadau 7 i 9 (rheoliad 10);

(f)yn darparu bod person —

(i)sy'n rhwystro person sy'n arfer pŵer i fynd i mewn i fangre,i gymryd samplau neu i archwilio a chopïo cofnodion,

(ii)sy'n methu â chydymffurfio â gofyniad i ddarparu gwybodaeth, trefnu bod cofnodion ar gael neu i ddarparu cyfleusterau, cofnodion, gwybodaeth neu gymorth arall, neu

(iii)sydd, gan honni ei fod yn cydymffurfio â'r cyfryw ofyniad, yn rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol,

yn euog o dramgwydd (rheoliad 11);

(ff)yn darparu hawl i apelio mewn cysylltiad â phenderfyniad gan yr awdurdod cymwys ynghylch cymeradwyo sefydliadau penodol o dan Erthygl 31 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 (rheoliadau 12 a 13);

(g)yn darparu y caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod cymwys fynd ag aelod o staff awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth arall gydag ef er mwyn cynnal ymchwiliad gweinyddol o dan Erthygl 36 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 (rheoliad 14);

(ng)yn darparu y caiff “swyddog gorfodi”, a ddiffinnir yn rheoliad 15(2), pan fydd yn mynd i mewn i fangre er mwyn gweithredu a gorfodi rheolaethau swyddogol, fynd ag un o arbenigwyr y Comisiwn gydag ef i alluogi'r arbenigwr hwnnw i gyflawni swyddogaethau o dan Erthygl 45 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 (rheoliad 15);

(h)yn darparu bod person sy'n mynd i mewn i fangre o dan y pwerau y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (g) neu (ng) o'r paragraff hwn ac sy'n datgelu unrhyw wybodaeth a geir ar y fangre mewn perthynas ag unrhyw gyfrinach fasnachol yn euog o dramgwydd onid yw'n gwneud hynny wrth gyflawni ei ddyletswydd (rheoliad 16);

(i)yn pennu pa awdurdodau sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi rheoliadau 5(3), 9(8), 11, 16, 18(8) ac 19 (rheoliad 17);

(j)yn rhoi pwerau mynediad i swyddogion awdurdodedig awdurdodau y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (i) o'r paragraff hwn (rheoliad 18);

(l)yn peri bod rhwystro swyddog sy'n cymryd camau i weithredu rheoliad 14, 15 neu 18 yn dramgwydd (rheoliad 19);

(ll)yn darparu cosbau am dramgwyddau o dan Ran 2 o'r Rheoliadau hyn (rheoliad 20);

(m)yn darparu terfyn amser ar gyfer dwyn erlyniadau am dramgwyddau o dan reoliad 18(8) (rheoliad 21);

(n)yn gwneud darpariaeth ar gyfer gweithredu a gorfodi Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn, Erthyglau 15 i 24 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 a Rheoliad (EC) Rhif 669/2009, a ddiffinnir gyda'i gilydd yn rheoliad 2(1) fel “y Darpariaethau Mewnforio” (rheoliadau 23(1) a 24(1));

(o)yn darparu ar gyfer dynodi cyrff penodedig yn awdurdodau cymwys at ddibenion darpariaethau Rheoliad (EC) Rhif 669/2009 mewn perthynas â bwyd anifeiliaid a bwyd (rheoliadau 23(2), (3) a (4) a 24(2), (3) a (4));

(p)yn darparu bod Comisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i gyflawni'r swyddogaethau a roddwyd i'r gwasanaethau tollau o dan Erthygl 24 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 ac Erthygl 10 o Reoliad (EC) Rhif 669/2009, ym mhob achos mewn perthynas â bwyd anifeiliaid a bwyd (rheoliad 25);

(ph)yn darparu bod Comisiynwyr dros Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, yr Asiantaeth Safonau Bwyd a'r awdurdodau bwyd anifeiliaid a bwyd yn cyfnewid a datgelu gwybodaeth ac yn gwahardd datgelu, yn ddarostyngedig i amodau, wybodaeth a ddaeth i law oddi wrth y Comisiynwyr (rheoliad 26);

(r)yn darparu ar gyfer gohirio gweithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio hyd onid yw'r cynnyrch yn cyrraedd ei gyrchfan (rheoliad 27);

(rh)yng ngoleuni Erthygl 11 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 fel y'i darllenir gydag Erthygl 10 o Reoliad (EC) Rhif 852/2004 (fel y disgrifir ym mharagraff 3 uchod) yn gwahardd cyflwyno i Gymru fwyd anifeiliaid penodol a bwyd penodol oni chaiff amodau penodedig eu bodloni (rheoliad 28);

(s)yn darparu ar gyfer gwirio cynhyrchion sy'n cael eu cyflwyno i Gymru (rheoliad 29);

(t)yn darparu ar gyfer atal pwyntiau mynediad dynodedig (rheoliad 30);

(th)yn darparu bod gan awdurdod gorfodi, yn y lle cyntaf, y pŵer i wneud unrhyw beth y caiff awdurdod cymwys ei wneud o dan Erthyglau 18 i 21 a 24(3) o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 ac, yn ail, yn darparu mai ef yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 22 o'r Rheoliad hwnnw (rheoliad 31);

(u)yn darparu ar gyfer cyflwyno hysbysiadau gan swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi pan fydd yn cynnig cymryd camau penodol neu arfer pwerau penodol o dan Erthygl 18 ac 19 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 (mewnforio bwyd anifeiliaid a bwyd o drydydd gwledydd) (rheoliad 32);

(w)yn darparu hawl i apelio mewn cysylltiad â chyflwyno hysbysiadau o dan reoliad 32 (rheoliadau 33 a 34);

(y)yn galluogi Gweinidogion Cymru neu'r Asiantaeth drwy ddatganiad ysgrifenedig i atal cyflwyno i Gymru, neu i osod amodau ar gyflwyno i Gymru,unrhyw gynnyrch o drydedd wlad lle y maent yn dod i wybod neu lle y mae'n rhesymol iddynt amau bod unrhyw fwyd neu fwyd anifeiliaid sydd wedi ei gyflwyno i Gymru o'r drydedd wlad honno, neu y gall gael ei gyflwyno i Gymru o'r drydedd wlad honno, yn debyg o fod yn risg ddifrifol i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd (rheoliad 35);

(aa)yn darparu bod y costau a dynnir gan yr awdurdod gorfodi y mae gweithredydd y busnes bwyd anifeiliaid neu fwyd neu ei gynrychiolydd yn atebol amdanynt o dan Erthygl 22 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 (costau a dynnir gan awdurdod cymwys am y gweithgareddau y cyfeirir atynt yn Erthyglau 18 i 21 o'r Rheoliad hwnnw) yn daladwy gan weithredydd y busnes bwyd anifeiliaid neu fwyd neu ei gynrychiolydd (rheoliad 36(1));

(bb)yn darparu bod y ffioedd y mae'n ofynnol eu casglu gan awdurdod cymwys o dan Erthygl 14 o Reoliad (EC) Rhif 669/2009 yn daladwy gan weithredydd y busnes bwyd anifeiliaid neu fwyd yn ddarostyngedig i'r lefel uwch o reolaethau swyddogol y darperir ar eu cyfer yn y Rheoliad hwnnw, neu gan ei gynrychiolydd (rheoliad 36(2));

(cc)yn darparu ar gyfer caffael a dadansoddi samplau bwyd at ddibenion gweithredu a gorfodi Darpariaethau Mewnforio (rheoliadau 37 a 38);

(chch)yn darparu pwerau mynediad ar gyfer swyddogion awdurdodedig awdurdodau bwyd mewn perthynas â gweithredu a gorfodi Darpariaethau Mewnforio (rheoliad 39);

(dd)yn peri bod rhwystro swyddog sy'n cymryd camau i weithredu Darpariaethau Mewnforio yn dramgwydd (rheoliad 40);

(dddd)yn peri bod mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig Rheoliad (EC) Rhif 669/2009 a darpariaethau penodedig y Rheoliadau hyn, neu fethu â chydymffurfio â hwy, a methu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir o dan y Darpariaethau Mewnforio yn dramgwyddau a darparu cosbau am dramgwyddau o dan Ran 3 o'r Rheoliadau hyn (rheoliad 41);

(ee)yn darparu terfyn amser ar gyfer dwyn erlyniadau am dramgwyddau penodol o dan Ran 3 o'r Rheoliadau hyn (rheoliad 42);

(ff)yn darparu bod treuliau a godir gan awdurdod cymwys yn unol ag Erthygl 28 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 (treuliau sy'n deillio o reolaethau swyddogol ychwanegol) yn daladwy gan y gweithredydd (rheoliad 43);

(ffff)yn darparu bod treuliau a godir gan awdurdod cymwys yn unol ag Erthygl 40(4) o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 (treuliau sy'n deillio o gymorth wedi ei gyd-drefnu a gwaith dilynol gan y Comisiwn) yn daladwy gan y busnes bwyd anifeiliaid neu fwyd (rheoliad 44);

(gg)yn darparu,pan fo tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn wedi'i gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall,bod y person arall hwnnw'n euog o'r tramgwydd (rheoliad 45);

(ngng)yn darparu bod i'r sawl a gyhuddir brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni'r tramgwydd yn amddiffyniad mewn achos cyfreithiol am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn (rheoliad 46);

(hh)yn darparu, os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaetholawedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog i'r corff corfforaethol, neu berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd swydd o'r fath, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran y swyddog neu'r person hwnnw, y bernir bod y swyddog neu'r person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd hwnnw ac y caniateir i achos cyfreithiol gael ei ddwyn yn ei erbyn ac iddo gael ei gosbi yn unol â hynny (rheoliad 47);

(ii)yn darparu, os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, a gyflawnwyd gan bartneriaeth Albanaidd, wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran partner, y bernir bod y person hwnnw, yn ogystal â'r bartneriaeth, yn euog o'r tramgwydd hwnnw ac y caniateir i achos cyfreithiol gael ei ddwyn yn ei erbyn ac iddo gael ei gosbi yn unol â hynny (rheoliad 48);

(jj)yn darparu ar gyfer diogelu swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll (rheoliad 49);

(ll)yn darparu ar gyfer cyflwyno dogfennau (rheoliad 50);

(llll)yn diwygio ymhellach Reoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3368 (Cy.265)) (rheoliad 51); a

(mm)yn dirymu Rheoliadau Bwyd (Tsilis, Cynhyrchion Tsilis, Cwrcwma ac Olew Palmwydd) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1540 (Cy.119)) a Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2007 (O.S. 2007/329 (Cy.290)) (rheoliad 52).

5.  Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn wedi ei wneud mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn ac mae ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW.LL+C

(1)

1972 p.68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (2006 p.51).

(2)

O.S. 2005/1971. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan y dynodiad hwn a'r dynodiad o dan O.S. 2005/2766 i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi.

(5)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n addasu nifer o offerynnau yn ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC o ran y weithdrefn reoleiddio ynghyd â chraffu: Addasu'r weithdrefn reoleiddio ynghyd â chraffu — Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14)

(9)

1936 p.49; mae adran 6 i gael ei darllen gyda pharagraff 1 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.

(12)

1981 p.22.

(13)

OJ Rhif L268, 18.10.2003, t.29, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n addasu nifer o offerynnau yn ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/68/EC o ran y weithdrefn reoleiddio ynghyd â chraffu: Addasu'r weithdrefn reoleiddio ynghyd â chraffu — Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14).

(14)

O.S. 1990/2463, y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(22)

OJ Rhif L256, 29.9.2009, t.35.