2010 Rhif 1821 (Cy.178)

YR AMGYLCHEDD, CYMRUTRIBIWNLYSOEDD AC YMCHWILIADAU, CYMRU

Gorchymyn Sancsiynau Sifil Amgylcheddol (Cymru) 2010

Gwnaed

Y n dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 36(2), 39, 42, 46, 50, 52, 53, 54, 55, 63 a 65 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 20081.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â'r Ysgrifennydd Gwladol yn unol ag adran 59 o'r Ddeddf honno ac wedi ymgynghori yn unol ag adran 60 o'r Ddeddf honno.

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni, yn unol ag adran 66 o'r Ddeddf honno, y bydd Asiantaeth yr Amgylchedd (sef y rheoleiddiwr at ddibenion y Gorchymyn hwn) yn gweithredu yn unol â'r egwyddorion y cyfeirir atynt yn adran 5(2) o'r Ddeddf honno wrth arfer pŵer a roddir gan y Gorchymyn hwn.

Mae drafft o'r Gorchymyn hwn wedi'i osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi'i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo yn unol ag adran 61(2) o'r Ddeddf honno.