2011 Rhif 1063 (Cy.154)

CYDRADDOLDEB, CYMRU

Gorchymyn Deddf Cydraddoldeb 2010 (Pennu Awdurdodau Cymreig Perthnasol) 2011

Gwnaed

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1

Yn unol ag adran 209(2), (3) a (6) o Ddeddf Cydraddoldeb 20101, mae drafft o'r offeryn hwn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

Yn unol ag adran 152(2) o'r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru wedi cael cydsyniad un o Weinidogion y Goron ac wedi ymgynghori â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 151(2) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: