xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 1063 (Cy.154)

CYDRADDOLDEB, CYMRU

Gorchymyn Deddf Cydraddoldeb 2010 (Pennu Awdurdodau Cymreig Perthnasol) 2011

Gwnaed

3 Ebrill 2011

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1

Yn unol ag adran 209(2), (3) a (6) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010(1), mae drafft o'r offeryn hwn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

Yn unol ag adran 152(2) o'r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru wedi cael cydsyniad un o Weinidogion y Goron ac wedi ymgynghori â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 151(2) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cydraddoldeb 2010 (Pennu Awdurdodau Cymreig Perthnasol) 2011.

(2Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff ei wneud.

Diwygio Rhan 2 o Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010

2.  Diwygir Rhan 2 (Awdurdodau Cyhoeddus: Awdurdodau Cymreig Perthnasol) o Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 fel a ganlyn:

(a)ar ôl y cofnod olaf o dan yr is-bennawd “National Health Service” mewnosoder—

(b)yn lle'r cofnod “A county council, county borough council or community council in Wales.” rhodder “A county council or county borough council in Wales.”;

(c)hepgorer y cofnodion a ganlyn—

(ch)ar ôl y cofnod olaf o dan yr is-bennawd “Other educational bodies” mewnosoder—

Carl Sargeant

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

3 Ebrill 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio'r rhestr o awdurdodau a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (“y Ddeddf”). Mae'r awdurdodau hyn yn ddarostyngedig i ddyletswydd gydraddoldeb y sector cyhoeddus (“dyletswydd gyffredinol”) a bennir yn adran 149 o'r Ddeddf, yn rhinwedd adran 150 o'r Ddeddf, sef bod yr awdurdodau'n rhoi sylw dyladwy, wrth arfer eu swyddogaethau, i'r angen—

(a)am ddileu gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall sydd wedi ei wahardd gan y Ddeddf hon neu oddi tani;

(b)am roi hwb ymlaen i gyfle cyfartal rhwng personau sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phersonau nad ydynt yn ei rhannu;

(c)am feithrin perthynas dda rhwng personau sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phersonau nad ydynt yn ei rhannu.

Mae'r awdurdodau a restrir yn Rhan 2 o Atodlen 19, fel y'i diwygir gan y Gorchymyn hwn, hefyd yn ddarostyngedig i ddyletswyddau cydraddoldeb penodol a osodir gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 o dan y pŵer a roddwyd iddynt gan adran 153(2) o'r Ddeddf.

Mae'r Gorchymyn hwn yn hepgor cofnodion o'r rhestr o awdurdodau a bennir. Fodd bynnag, bydd yr awdurdodau a hepgorwyd ac sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus yn parhau'n ddarostyngedig i'r ddyletswydd gyffredinol yn adran 149(1) o'r Ddeddf wrth arfer y swyddogaethau hynny, yn rhinwedd adran 149(2) o'r Ddeddf. Mae erthyglau 2(a), (b) ac (ch) yn diwygio Rhan 2 o Atodlen 19 er mwyn cynnwys yr awdurdodau a restrir yn y paragraffau hynny.