xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Pŵer i wneud darpariaeth ynghylch apelau a hawliadau gan blentyn

12.  Yn adran 18 o'r Mesur —

(a)yn is-adran (1), ym mharagraff (b), yn lle “adran 28I o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995”, rhodder “baragraff 3 o Atodlen 17 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010”;

(b)yn is-adran (2), ym mharagraff (c), yn lle “Rhan 4 o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995”, rhodder “Pennod 1 o Ran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac Atodlen 17 i'r Ddeddf honno”.