Gorchymyn Hawl Plentyn i Wneud Hawliad Gwahaniaethu ar sail Anabledd (Ysgolion) (Cymru) 2011

Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

13.—(1Yn adran 19 o'r Mesur —

(a)yn is-adran (1), yn y diffiniad o “plentyn anabl”, yn lle “yn adran 28I o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995”, rhodder “ym mharagraff 6A o Atodlen 17 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010”;

(b)yn is-adran (2), yn lle “â pharagraff 1 o Atodlen 4A i Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995”, rhodder “ag adran 85(9) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010”.

(2Yn adran 26 o'r Mesur, yn is-adran (3), ar ôl “gweddill darpariaethau'r Mesur hwn” mewnosoder “(gan gynnwys, yn achos darpariaethau a ddiwygiwyd gan Gorchymyn Hawl Plentyn i Wneud Hawliad Gwahaniaethu ar sail Anabledd (Ysgolion) (Cymru) 2011, y darpariaethau hynny fel y'u diwygiwyd)”.

(3Yn yr Atodlen i'r Mesur, hepgorer y paragraffau 6 i 9.