xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Roedd Mesur Addysg (Cymru) 2009 (“y Mesur”) yn diwygio Rhan 4 o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995, a oedd yn ymwneud â gwahaniaethu mewn ysgolion, er mwyn galluogi plant eu hunain i wneud hawliad gwahaniaethu ar sail anabledd, i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (“y Tribiwnlys”). Diddymwyd Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed o dan adran 20 o'r Mesur, yn diwygio'r Mesur drwy dynnu ymaith y darpariaethau a oedd yn diwygio Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995, a gosod darpariaethau cyfatebol a darpariaethau priodol eraill yn eu lle, sy'n diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010.

Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn yn mewnosod adran 9 newydd yn y Mesur, sy'n diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010 er mwyn rhoi i blentyn yr hawl i wneud hawliad i'r Tribiwnlys.

Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn yn mewnosod adran 10 newydd yn y Mesur, sy'n mewnosod darpariaethau yn Neddf Cydraddoldeb 2010 ynghylch terfynau amser ar gyfer dwyn achos.

Mae erthygl 5 o'r Gorchymyn yn mewnosod adran 11 newydd yn y Mesur, sy'n mewnosod darpariaethau yn Neddf Cydraddoldeb 2010 ynghylch gweithdrefn y Tribiwnlys.

Mae erthygl 6 o'r Gorchymyn yn mewnosod adran 12 newydd yn y Mesur, sy'n mewnosod darpariaethau yn Neddf Cydraddoldeb 2010 a fydd yn caniatáu i blentyn gael person (a adwaenir fel “cyfaill achos”), i gyflwyno sylwadau ar ran y plentyn, er mwyn osgoi neu ddatrys anghydfodau â'r corff sy'n gyfrifol am ysgol, neu arfer hawl y plentyn i wneud hawliad i'r Tribiwnlys, ar ran y plentyn.

Mae erthygl 7 o'r Gorchymyn yn mewnosod adran 13 newydd yn y Mesur, sy'n mewnosod darpariaethau yn Neddf Cydraddoldeb 2010 ynghylch trefniadau i ddarparu cyngor a gwybodaeth i blentyn.

Mae erthygl 8 o'r Gorchymyn yn mewnosod adran 14 newydd yn y Mesur, sy'n mewnosod darpariaethau yn Neddf Cydraddoldeb 2010 ynghylch datrys anghydfodau.

Mae erthygl 9 o'r Gorchymyn yn mewnosod adran 15 newydd yn y Mesur, sy'n mewnosod darpariaethau yn Neddf Cydraddoldeb 2010 ynghylch gwasanaethau eirioli annibynnol.

Mae erthygl 10 o'r Gorchymyn yn mewnosod adran 16 newydd yn y Mesur, sy'n mewnosod darpariaethau yn Neddf Cydraddoldeb 2010 ynghylch pŵer Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo pan fo awdurdod lleol yn gweithredu, neu'n bwriadu gweithredu, yn afresymol wrth gyflawni dyletswydd, neu wedi methu â chyflawni dyletswydd.

Mae erthygl 11 o'r Gorchymyn yn diwygio adran 17 o'r Mesur, er mwyn sicrhau y gall rheoliadau ynglŷn â threialu weithredu drwy gyfeirio at y darpariaethau a fewnosodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 gan y darpariaethau o'r Mesur a ddiwygir gan y Gorchymyn hwn.

Mae erthygl 12 o'r Gorchymyn yn diwygio adran 18 o'r Mesur, i ganiatáu i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy orchymyn o dan yr adran honno ynglŷn â hawl person i wneud hawliad i'r Tribiwnlys ynghylch materion y mae hawl gan riant y person hwnnw i wneud hawliad yn eu cylch o dan adran 3 o Atodlen17 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae hyn yn cynnwys pŵer i ddiwygio neu ddiddymu darpariaethau o Bennod 1 o Ran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac Atodlen 17 i'r Ddeddf honno.

Mae erthygl 13 o'r Gorchymyn yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i'r Mesur, drwy osod cyfeiriadau at Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn lle cyfeiriadau at Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995, a gwneud yn eglur bod pŵer Gweinidogion Cymru, o dan adran 26(3) o'r Mesur, i gychwyn darpariaethau yn ymestyn, yn achos darpariaethau a ddiwygir gan y Gorchymyn hwn, i'r darpariaethau hynny fel y'u diwygiwyd.