xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
TRWYDEDU (MOROL), CYMRU
LLYGREDD MOROL, CYMRU
Gwnaed
25 Chwefror 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1 Mawrth 2011
Yn dod i rym
6 Ebrill 2011
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod trwyddedu priodol o dan adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009(1), yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 67(2), (3)(b) a 316(1)(b) o'r Ddeddf honno.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trwyddedu Morol (Ffioedd am Geisiadau) (Cymru) 2011.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2011.
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran unrhyw gais am drwydded forol y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod trwyddedu priodol mewn perthynas ag ef (2).
3.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “ardal amgylcheddol sensitif” (“environmentally sensitive area” ) yw—
gwarchodfa natur forol o fewn yr ystyr a roddir i “marine nature reserve” yn adran 36 o Ddeddf Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt 1981(3);
safle Ramsar o fewn yr ystyr a roddir i “Ramsar site” yn adran 37A o Ddeddf Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt 1981(4);
safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “site of special scientific interest” yn adran 28 o Ddeddf Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt 1981(5);
ardal cadwraeth arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “special area of conservation” gan Erthygl 1(1) o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt (y Gyfarwyddeb Cynefinoedd)(6);
ardal gwarchodaeth arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “special protection area” gan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010(7);
ystyr “cais am drwydded forol” (“application for a marine licence”) yw cais am drwydded i ymgymryd ag un neu ragor o weithgareddau morol trwyddedadwy;
ystyr “ffi” (“fee”) yw'r ffi sy'n daladwy am benderfynu cais am drwydded forol;
ystyr “tâl atodol sensitifrwydd amgylcheddol” (“environmental sensitivity supplement”) yw ychwanegiad at y ffi sy'n daladwy mewn perthynas â rhai ceisiadau am drwydded forol.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at dabl â rhif yn gyfeiriad at y tabl sy'n dwyn y rhif hwnnw yn yr Atodlen.
4.—(1) Mae'r holl ffioedd yn daladwy i Weinidogion Cymru.
(2) Mae'r holl ffioedd yn daladwy pan ofynnir am y tâl.
(3) Caniateir talu unrhyw ffi drwy ddull electronig.
(4) Bydd Gweinidogion Cymru wedi cael unrhyw ffi pan fydd arian cliriedig yn eu meddiant ar gyfer swm cyfan y ffi honno.
(5) Bydd unrhyw ffi neu ran o ffi na fydd wedi ei thalu yn adenilladwy gan Weinidogion Cymru fel dyled sifil.
5.—(1) Yn achos cais am drwydded forol sy'n ymwneud â phrosiect adeiladu nad yw'n dod o fewn rheoliad 9 (prosiectau ynni adnewyddadwy alltraeth), penderfynir y ffi drwy gyfeirio at y raddfa ffioedd a bennir yn nhabl 1.
(2) Ond, ac eithrio yn achos cais y mae band 1 yn nhabl 1 yn gymwys iddo, mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i baragraff (3).
(3) Os bwriedir ymgymryd ag un neu ragor o'r gweithgareddau morol trwyddedadwy sy'n ffurfio testun y cais y cyfeirir ato ym mharagraff (1) o fewn neu'n agos at ardal amgylcheddol sensitif, bydd tâl atodol sensitifrwydd amgylcheddol yn daladwy.
(4) Pan fo tâl atodol sensitifrwydd amgylcheddol yn daladwy, penderfynir swm y tâl atodol drwy gyfeirio at y symiau a bennir yn nhabl 2.
6.—(1) Yn achos cais am drwydded forol sy'n ymwneud â gwaredu deunydd a dreillir, nad yw'n dod o fewn paragraff (4), penderfynir y ffi drwy gyfeirio at y graddfeydd ffioedd a bennir yn nhabl 3.
(2) Pan fo'r deunydd a dreillir y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn tarddu o waith treillio cyfalaf, mae'r raddfa ffioedd yn y drydedd golofn yn nhabl 3 yn gymwys.
(3) Pan fo'r deunydd a dreillir y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn tarddu o waith treillio cynnal a chadw, mae'r raddfa ffioedd yn y bedwaredd golofn yn nhabl 3 yn gymwys.
(4) Yn achos cais am drwydded forol sy'n ymwneud â gwaredu deunydd a dreillir at ddefnydd llesiannol, penderfynir y ffi drwy gyfeirio at y graddfeydd ffioedd a bennir yn nhabl 4.
(5) Ond mae paragraff (4) yn ddarostyngedig i baragraff (6).
(6) Os bwriedir ymgymryd ag neu ragor o'r gweithgareddau morol trwyddedadwy sy'n ffurfio testun y cais, y cyfeirir ato ym mharagraff (4), o fewn neu'n agos at ardal amgylcheddol sensitif, bydd tâl atodol sensitifrwydd amgylcheddol yn daladwy.
(7) Pan fo tâl atodol sensitifrwydd amgylcheddol yn daladwy, penderfynir swm y tâl atodol drwy gyfeirio at y symiau a bennir yn nhabl 2, yn ddarostyngedig i'r addasiad ym mharagraff (8).
(8) Pan fo paragraff (7) yn gymwys, rhaid darllen cyfeiriad yn nhabl 2 at gost y prosiect fel pe bai'n gyfeiriad at gost y prosiect y mae'r deunydd a dreillir ac y bwriedir ei waredu yn tarddu ohono.
(9) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “defnydd llesiannol” (“beneficial use”) yw defnydd sy'n llesiannol i'r amgylchedd;
ystyr “deunydd a dreillir” (“dredged material”) yw unrhyw sylwedd neu wrthrych sy'n tarddu o dreillio morol.
7. Pan fo cais am drwydded forol yn ymwneud â gwaredu gwastraff pysgod, penderfynir y ffi drwy gyfeirio at dabl 5.
8.—(1) Yn achos cais am drwydded forol sy'n ymwneud ag echdynnu mwynau drwy dreillio morol, penderfynir y ffi drwy gyfeirio at yr ail golofn yn nhabl 6.
(2) Ond mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i baragraff (3).
(3) Pan fo penderfynu cais am drwydded forol o dan baragraff (1) yn cynnwys cynnal ymchwiliad(8), mae'r ffi a bennir yn y drydedd golofn o'r tabl hwnnw yn daladwy yn ychwanegol at y ffi y cyfeirir ati ym mharagraff (1).
9. Yn achos cais am drwydded forol sy'n ymwneud â phrosiect ynni adnewyddadwy alltraeth, penderfynir y ffi drwy gyfeirio at y raddfa ffioedd a bennir yn nhabl 7.
10. Yn achos cais am drwydded forol sy'n ymwneud â phiblinell danfor neu adeiledd cysylltiedig ac yn dod o fewn disgrifiad yn y golofn gyntaf yn nhabl 8, penderfynir y ffi briodol drwy gyfeirio at yr ail golofn o'r tabl hwnnw.
11. Yn achos cais am drwydded forol sy'n ymwneud â dyddodi olrheinyddion neu liwurau, penderfynir y ffi drwy gyfeirio at dabl 9.
12. Yn achos cais am drwydded forol sy'n ymwneud ag angorfeydd syml a chymhorthion mordwyo, penderfynir y ffi drwy gyfeirio at dabl 10.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
25 Chwefror 2011
Rheoliadau 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11 a 12
Band | Cost y prosiect (£) | Ffi (£) |
---|---|---|
1 | 0 i 5,499 | 127 |
2 | 5,500 i 9,999 | 715 |
3 | 10,000 i 49,999 | 1,025 |
4 | 50,000 i 1,999,999 | 2,275 |
5 | 2 filiwn i 4,999,999 | 4,525 |
6 | 5 miliwn i 19,999,999 | 7,191 |
7 | 20 miliwn i 49,999,999 | 12,010 |
8 | 50 miliwn ac uwch | 38,650 |
Band | Cost y prosiect (£) | Tâl atodol (£) |
---|---|---|
1 | 5,500 i 9,999 | 275 |
2 | 10,000 i 49,999 | 575 |
3 | 50,000 i 1,999,999 | 950 |
4 | 2 filiwn i 4,999,999 | 1,350 |
5 | 5 miliwn i 19,999,999 | 1,605 |
6 | 20 miliwn i 49,999,999 | 1,720 |
7 | 50 miliwn ac uwch | 2,750 |
Band | Maint a waredir (tunelli) | Ffi (£) Cyfalaf | Ffi (£) Cynnal a chadw |
---|---|---|---|
1 | 0 i 9,999 | 4,500 | 3,650 |
2 | 10,000 i 49,999 | 9,100 | 7,225 |
3 | 50,000 i 99,999 | 12,800 | 9,950 |
4 | 100,000 i 499,999 | 19,850 | 15,950 |
5 | 500,000 i 999,999 | 28,850 | 22,050 |
6 | 1,000,000 ac uwch | 43,500 | 34,750 |
Band | Maint a waredir (tunelli) | Ffi (£) |
---|---|---|
1 | 0 i 99,999 | 715 |
2 | 100,000 i 999,999 | 2,275 |
3 | 1,000,000 ac uwch | 4,525 |
Maint a waredir | Ffi (£) |
---|---|
Unrhyw | 2,995 |
Cais | Ffi (£) | Ffi ychwanegol pan gynhelir ymchwiliad(£) |
---|---|---|
Echdynnu mwynau drwy dreillio morol | 27,500 | 15,000 |
Band | Gallu cynhyrchu (megawatiau) | Ffi (£) |
---|---|---|
Band 1 | 0 i 0.99MW | 2,000 |
Band 2 | 1 i 4.99MW | 6,000 |
Band 3 | 5 i 99MW | 26,222 |
Band 4 | 100MW ac uwch | 38,650 |
Cais | Ffi (£) |
---|---|
Cyn-ysgubo | 10,670 |
Dadlwytho cerrig | 2,275 |
Matresu | 2,275 |
Selio ffynhonnau neu bibellau (pan y'u gadewir) | 2,275 |
Cais | Ffi (£) |
---|---|
Dyddodi olrheinyddion | 83 |
Dyddodi lliwurau | 83 |
Cais | Ffi (£) |
---|---|
Angorfeydd syml | 127 |
Cymhorthion mordwyo | 127 |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â'r ffioedd sydd i'w codi ynglŷn â cheisiadau am drwyddedau morol y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod trwyddedu priodol mewn perthynas â hwy o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009.
Mae rheoliad 3 yn diffinio termau penodol a ddefnyddir yn y Rheoliadau.
Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer talu ac adennill ffioedd.
Mae rheoliadau 5 i 12 a'r Atodlen yn gwneud darpariaeth ar gyfer penderfynu'r ffioedd sydd i'w codi mewn perthynas â cheisiadau am drwyddedau morol o ddisgrifiad sy'n dod o fewn y rheoliadau hynny.
Lluniwyd asesiad llawn o effaith y system drwyddedu forol a sefydlwyd o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009, ac y mae ar gael o'r Uned Caniatadau Morol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ neu ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn www.cymru.gov.uk.
Yn rhinwedd adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (p.23), Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod trwyddedu priodol o ran unrhyw beth a wneir wrth ymgymryd â gweithgaredd morol trwyddedadwy mewn perthynas â Chymru a rhanbarth glannau Cymru, ac eithrio gweithgareddau y mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn awdurdod trwyddedu priodol ar eu cyfer yn rhinwedd adrannau 113(4)(a) a (5) o'r Ddeddf honno. Gweler adran 322(1) am ddiffiniad o “Welsh inshore region”.
1981 (p.69). Diwygiwyd adran 36 gan adran 3 o Ddeddf y Môr Tiriogaethol 1987 (p.49) a pharagraff 6 o Atodlen 1 i'r Ddeddf honno; adran 105 o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (p.16) a pharagraff 85 o Ran 1 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno; adran 66(6) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19) a pharagraff 65(4) o Atodlen 16 i'r Ddeddf honno; adran 102 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1985 (p.51) ac Atodlen 17 i'r Ddeddf honno; adran 32(5) o Ddeddf 1987 (p.21) ac Atodlen 3 i'r Ddeddf honno. Mae diwygiadau eraill, nad ydynt yn berthnasol at y dibenion hyn. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Weinidogion Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 [O.S. 1999/672] ac Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw a chan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
1981 (p.69). Mewnosodwyd adran 37A gan adran 77 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p.37) a diwygiwyd hi gan adran 105 o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (p.16) a pharagraff 86 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno.
1981 (p.69). Amnewidiwyd adran 28 gan adran 75(1) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p.37) a pharagraff 1 o Atodlen 9 i'r Ddeddf honno. Diwygiwyd gan adran 105(1) o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (p.16) a pharagraff 79 o Ran 1 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno. Mae diwygiadau eraill, nad ydynt yn berthnasol at y dibenion hyn. Dylid darllen adran 28 yn unol ag adran 27AA. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Weinidogion Cymru gan erthygl 2 o Atodlen 1 i O.S. 1999/672 a pharagraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
O.J. Rhif L 206 22.7.1992 t.7-50.
O.S. 2010/490. Mewnosodwyd rheoliad 12A newydd sy'n diffinio “special protection area” gan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau (Diwygio) 2011 (O.S. 2011/625).
Mae adran 70(1) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 yn darparu y caiff yr awdurdod trwyddedu priodol beri bod ymchwiliad yn cael ei gynnal mewn cysylltiad â phenderfynu cais am drwydded forol.