xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 3022 (Cy.306)

LANDLORD A THENANT, CYMRU

Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2012

Gwnaed

4 Rhagfyr 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

5 Rhagfyr 2012

Yn dod i rym

26 Rhagfyr 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986(1) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2012, mae'n gymwys o ran Cymru, a daw i rym ar 26 Rhagfyr 2012.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “ardal lai ffafriol” (“less favoured area”) yw tir dan anfantais neu dir dan anfantais ddifrifol;

mae i “hectar cymwys” yr un ystyr ag a roddir i “eligible hectare” yn Erthygl 34(2) o Reoliad y Cyngor 73/2009;

ystyr “mapiau dynodedig (“designated maps”) yw'r ddwy gyfrol o fapiau sydd wedi eu rhifo 1 a 2, y ddwy wedi eu marcio â “Volume of maps of less favoured farming areas in Wales” ac â rhif y gyfrol dyddiedig 20 Mai 1999, ac wedi eu llofnodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a'u hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ;

ystyr “Rheoliad y Cyngor 73/2009” (“Council Regulation 73/2009”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol i ffermwyr o dan y polisi amaethyddol cyffredin, ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr ac yn diwygio ac yn diddymu Rheoliadau penodol(3);

ystyr “taliad Tir Mynydd” (“Tir Mynydd payment”) yw cymorth ariannol a delir yn unol â rheoliad 3 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006(4);

ystyr “tir dan anfantais” (“disadvantaged land”) (ac eithrio yn yr ymadrodd “tir dan anfantais ddifrifol”) yw unrhyw ardal o dir sydd wedi ei lliwio'n las ar y mapiau dynodedig; ac

ystyr “tir dan anfantais ddifrifol” (“severely disadvantaged land”) yw'r ardal o dir sydd wedi ei lliwio'n binc ar y mapiau dynodedig.

Asesu gallu cynhyrchiol tir

2.—(1Mae paragraffau (2) a (3) yn cael effaith at ddiben asesu gallu cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw'r uned honno yn uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr “commercial unit of agricultural land” ym mharagraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.

(2Os gellir defnyddio'r tir dan sylw, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd âr fferm, cnwd garddwriaethol yn yr awyr agored, neu ffrwythau fel y crybwyllir yn unrhyw un o'r cofnodion 1 i 3 yng ngholofn 1 yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn, yna—

(a)yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o'r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw, a

(b)y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar 12 Medi 2012, yn incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw fel y'i darllenir ynghyd ag unrhyw nodyn perthnasol i'r Atodlen honno.

(3Os yw tir sy'n gallu cynhyrchu incwm blynyddol net, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys, yn gymwys i dderbyn taliad Tir Mynydd (gweler cofnod 4 yng ngholofn 1 yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn) neu os oedd yn hectar cymwys yn 2011 (gweler cofnod 5 yng ngholofn 1), yna—

(a)yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o'r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw, a

(b)y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar 12 Medi 2012, yn incwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 yn yr Atodlen honno gyferbyn â'r cofnod hwnnw.

Dirymu

3.  Mae Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2011(5) wedi ei ddirymu.

Alun Davies

Y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, o dan awdurdod y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, un o Weinidogion Cymru

4 Rhagfyr 2012

Erthygl 2

YR ATODLENUNEDAU CYNHYRCHU RHAGNODEDIG A PHENNU INCWM BLYNYDDOL NET

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
Y Defnydd FfermioYr uned gynhyrchuIncwm blynyddol net o'r uned gynhyrchu (£)
a

Dyma'r ffigur ar gyfer anifeiliaid y byddid yn eu cadw am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata o'r ffigur hwn.

b

Dyma'r ffigur ar gyfer anifeiliaid (faint bynnag fo'u hoed) y byddid yn eu cadw am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata o'r ffigur hwn.

1. Da byw
Buchod godrobuwch400
Buchod bridio cig eidion:ar dir mewn ardal lai ffafriolbuwch−163
ar dir arallbuwch−146
Gwartheg pesgi cig eidion (lled-arddwys)y pen−92a
Buchod llaeth i lenwi bylchauy pen102b
Mamogiaid:ar dir mewn ardal lai ffafriolmamog−13
ar dir arallmamog−7
Ŵyn stôr (gan gynnwys ŵyn benyw a werthir fel hesbinod)y pen4.50
Moch:hychod a banwesod torroghwch neu fanwes235
moch porcy pen8.30
moch torriy pen11.60
moch bacwny pen14.70
Dofednod:ieir dodwyaderyn3.60
brwyliaidaderyn0.30
cywennod ar ddodwyaderyn0.60
Tyrcwn Nadoligaderyn5.30
2. Cnydau âr fferm
Haiddhectar147
Ffahectar155
Rêp had olewhectar293
Pys sychhectar297
Tatws:cynnar cyntafhectar1405
prif gnwd (gan gynnwys hadyd)hectar2475
Betys siwgrhectar297
Gwenithhectar421
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored a ffrwythau
Ffrwythau'r berllanhectar2700
Ffrwythau meddalhectar7750
4. Tir porthiant
Ar dir sy'n gymwys at ddibenion taliad Tir Mynyddhectarswm y taliad Tir Mynydd y mae'n ofynnol ei dalu o dan reoliad 3 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006
5. Hectarau cymwys
Tir a oedd, yn 2011, yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor 73/2009tir dan anfantais ddifrifolhectar113.61
tir dan anfantaishectar149.05
pob tir arallhectar97.34

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi unedau cynhyrchu ar gyfer asesu gallu cynhyrchiol tir amaethyddol a leolir yng Nghymru ac yn pennu'r swm sydd i'w ystyried yn incwm blynyddol net o bob uned o'r fath am y flwyddyn o 12 Medi 2012 i 11 Medi 2013 at ddibenion penodol yn Neddf Daliadau Amaethyddol 1986 (“Deddf 1986”). Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/2831 (Cy.304)).

Mae'n ofynnol asesu gallu cynhyrchiol tir amaethyddol er mwyn penderfynu a yw'r tir dan sylw yn “uned fasnachol o dir amaethyddol” ai peidio at ddibenion y darpariaethau olynu yn Neddf 1986: gweler yn benodol adrannau 36(3) a 50(2). Ystyr “uned fasnachol o dir amaethyddol” yw uned o dir amaethyddol sydd, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, yn gallu cynhyrchu incwm blynyddol net nad yw'n llai na chyfanred enillion blynyddol cyfartalog dau weithiwr amaethyddol gwrywaidd llawn amser sy'n 20 mlwydd oed neu drosodd (paragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf 1986). Wrth benderfynu'r ffigur incwm blynyddol hwn, pa bryd bynnag y bydd math penodol o ddefnydd ffermio a grybwyllir yng ngholofn 1 o'r Atodlen yn berthnasol i'r asesiad o allu cynhyrchiol y tir dan sylw, mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn darparu mai'r unedau cynhyrchu a'r incwm blynyddol net a bennir yng ngholofnau 2 a 3, yn eu trefn, fydd sail yr asesiad hwnnw.

Mae'r Gorchymyn hwn yn cynnwys ffigurau incwm blynyddol net ar gyfer tir a oedd, yn 2011, yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 (OJ Rhif L 30, 31.1.2009, t.16). Rhoddir ffigurau ar wahân yn yr Atodlen ar gyfer tir dan anfantais ddifrifol, tir dan anfantais a thir arall.

Ni pharatowyd asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn oherwydd na ragwelir unrhyw effaith ar fusnes na'r sector preifat na'r sector gwirfoddol.

(1)

1986 p.5; mae adran 96(1) o'r Ddeddf honno yn diffinio “the Minister”.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau o dan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 (p.5) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw. Mae'r swyddogaethau hynny yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(3)

OJ Rhif L 30, 31.1.2009, t.16, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 671/2012 (OJ Rhif L 204, 31.7.2012, t.11).