Darpariaethau sy'n dod i rym ar 10 Chwefror 20122

Daw'r darpariaethau a ganlyn yn Rhan 1 (apelau a hawliadau addysg gan blant) o Fesur 2009 i rym ar 10 Chwefror 2012—

a

adran 3 (cyfeillion achos);

b

adran 7 (gweithdrefn y tribiwnlys);

c

adran 8 (gweithdrefnau ar gyfer gwneud rheoliadau);

ch

adran 11 (gweithdrefn y tribiwnlys)2;

d

adran 12 (cyfeillion achos)3;

dd

adran 17 (treialu hawliau plentyn i apelio neu i wneud hawliad);

e

adran 18 (pŵer i wneud darpariaeth ynghylch apelau a hawliadau gan blentyn);

f

adran 19 (dehongli adrannau 17 ac 18);

ff

adran 23 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 1 a 4 o'r Atodlen; a

g

paragraffau 1 a 4 o'r Atodlen.