Darpariaethau sy'n dod i rym ar 6 Mawrth 20123
Daw'r darpariaethau a ganlyn yn Rhan 1 (apelau a hawliadau addysg gan blant) o Fesur 2009 i rym ar 6 Mawrth 2012—
a
adran 1 (hawl plentyn i apelio mewn cysylltiad ag anghenion addysgol arbennig);
b
adran 2 (hysbysu a chyflwyno dogfennau);
c
adran 4 (cyngor a gwybodaeth);
ch
adran 5 (datrys anghydfodau);
d
adran 6 (gwasanaethau eirioli annibynnol);
dd
adran 9 (hawl plentyn i wneud hawliad gwahaniaethu ar sail anabledd);
e
adran 10 (amser ar gyfer dwyn achos);
f
adran 13 (cyngor a gwybodaeth);
ff
adran 14 (datrys anghydfodau);
g
adran 15 (gwasanaethau eirioli annibynnol);
ng
adran 16 (rôl Gweinidogion Cymru);
h
adran 23 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 2, 3 a 5 o'r Atodlen; a
i
paragraffau 2, 3 a 5 o'r Atodlen.