Darpariaethau sy'n dod i rym ar 6 Mawrth 2012
3. Daw'r darpariaethau a ganlyn yn Rhan 1 (apelau a hawliadau addysg gan blant) o Fesur 2009 i rym ar 6 Mawrth 2012—
(a)adran 1 (hawl plentyn i apelio mewn cysylltiad ag anghenion addysgol arbennig);
(b)adran 2 (hysbysu a chyflwyno dogfennau);
(c)adran 4 (cyngor a gwybodaeth);
(ch)adran 5 (datrys anghydfodau);
(d)adran 6 (gwasanaethau eirioli annibynnol);
(dd)adran 9 (hawl plentyn i wneud hawliad gwahaniaethu ar sail anabledd);
(e)adran 10 (amser ar gyfer dwyn achos);
(f)adran 13 (cyngor a gwybodaeth);
(ff)adran 14 (datrys anghydfodau);
(g)adran 15 (gwasanaethau eirioli annibynnol);
(ng)adran 16 (rôl Gweinidogion Cymru);
(h)adran 23 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 2, 3 a 5 o'r Atodlen; a
(i)paragraffau 2, 3 a 5 o'r Atodlen.