xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adrannau 24(2) a 26(3) o Fesur Addysg (Cymru) 2009 (“Mesur 2009”). Y Gorchymyn hwn yw'r trydydd Gorchymyn Cychwyn i'w wneud o dan Fesur 2009.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau yn adrannau 3, 7, 8, 11, 12, 17, 18 a 19 o Fesur 2009 ar 10 Chwefror 2012 . Mae erthygl 2 hefyd yn dwyn i rym adran 23 (i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 1 a 4 o'r Atodlen) a pharagraffau 1 a 4 o'r Atodlen i Fesur 2009.

Mae adran 3 yn galluogi plentyn i fod â pherson (o'r enw “cyfaill achos”) i gyflwyno sylwadau ar ran y plentyn i osgoi neu ddatrys anghydfodau â'r awdurdod lleol neu arfer hawl plentyn i apelio i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (“y Tribiwnlys”) mewn cysylltiad ag anghenion addysgol arbennig ar ran y plentyn.

Mae adran 7 yn diwygio gweithdrefn y Tribiwnlys mewn perthynas ag apelau.

Mae adran 8 yn diwygio'r weithdrefn ar gyfer gwneud rheoliadau o dan Ddeddf Addysg 1996.

Mae adran 11 yn diwygio gweithdrefn y Tribiwnlys mewn perthynas â hawliadau gwahaniaethu ar sail anabledd.

Mae adran 12 yn galluogi plentyn i fod â chyfaill achos i gyflwyno sylwadau ar ran y plentyn i osgoi neu ddatrys anghydfodau â'r corff sy'n gyfrifol am ysgol neu arfer hawl plentyn i wneud hawliad gwahaniaethu ar sail anabledd i'r Tribiwnlys ar ran y plentyn.

Mae adran 17 yn galluogi Gweinidogion Cymru i dreialu'r darpariaethau yn Rhan 1 o Fesur 2009.

Mae adran 18 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud gorchymyn yn ystod unrhyw dreial neu ar ôl unrhyw dreial am hawliau plant i wneud apelau a hawliadau.

Mae adran 19 yn cynnwys diffiniadau sy'n berthnasol i weithrediad adrannau 17 a 18.

Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau yn adrannau 1, 2, , 5, 6, 9, 10, 13, 14, 15 a 16 o Fesur 2009 ar 6 Mawrth 2012. Mae erthygl 3 hefyd yn dwyn i rym adran 23 (i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 2, 3, a 5 o'r Atodlen) a pharagraffau 2, 3, a 5 o'r Atodlen i Fesur 2009. Effaith cychwyn y darpariaethau hyn o'u cymryd ynghyd â rheoliadau a wneir o dan adran 17 o Fesur 2009 yw na fydd y darpariaethau hyn yn gymwys ond at ddibenion treialu yn ardaloedd awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin a Wrecsam. Ar ddiwedd y treialu bydd y darpariaethau yn gymwys yn awtomatig i Gymru gyfan:

(a)mae adran 1 yn rhoi hawl i blentyn apelio i'r Tribiwnlys mewn cysylltiad ag anghenion addysgol arbennig;

(b)mae adran 2 yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod lleol i roi hysbysiad i'r plentyn, neu gyflwyno dogfen iddo ef, yn ogystal â'r rhiant;

(c)mae adran yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod lleol i drefnu bod cyngor a gwybodaeth am faterion sy'n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig yn cael eu darparu i unrhyw blentyn yn ei ardal, unrhyw riant neu gyfaill achos i'r plentyn hwnnw;

(ch)mae adran 5 yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod lleol i ddarparu gwasanaethau datrys anghydfodau annibynnol i osgoi neu ddatrys anghytundebau rhwng yr awdurdod lleol a phlentyn a'r awdurdod lleol a rhiant plentyn;

(d)mae adran 6 yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod lleol i drefnu gwasanaethau eiriol annibynnol ac i gyfeirio unrhyw blentyn yn ei ardal, neu gyfaill achos i'r plentyn hwnnw, at y gwasanaeth os ydynt yn gofyn amdano;

(dd)mae adran 9 yn rhoi hawl i blentyn i wneud hawliad i'r Tribiwnlys am wahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion;

(e)mae adran 10 yn gwneud darpariaeth am derfynau amser i ddod â hawliad gwahaniaethu ar sail anabledd gerbron y Tribiwnlys;

(f)mae adran 13 yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod lleol i drefnu bod cyngor a gwybodaeth am faterion sy'n ymwneud â gwahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion yn cael eu darparu i unrhyw blentyn yn ei ardal ac i unrhyw gyfaill achos i'r plentyn hwnnw;

(ff)mae adran 14 yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod lleol i ddarparu gwasanaethau datrys anghydfodau annibynnol i osgoi neu ddatrys anghytundebau rhwng plentyn anabl a'r corff sy'n gyfrifol am yr ysgol;

(g)mae adran 15 yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod lleol i drefnu gwasanaethau eiriol annibynnol ac i gyfeirio plentyn anabl yn ei ardal, neu gyfaill achos i'r plentyn hwnnw, at y gwasanaeth os ydynt yn gofyn amdano;

(ng)mae adran 16 yn rhoi pŵer cyfarwyddo i Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 pan fydd awdurdod lleol yn gweithredu neu yn bwriadu gweithredu yn afresymol wrth gyflawni dyletswydd neu pan fydd wedi methu â chyflawni dyletswydd.

Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth drosiannol sy'n ymwneud â dyletswydd yr awdurdod lleol i wneud trefniadau i ddarparu cyngor a gwybodaeth a gwasanaethau datrys anghydfodau.