Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Trosglwyddo Swyddogaethau, Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol) 2012

Deddf Cydraddoldeb 2010

11.  O dan y pennawd “Other public authorities” yn Rhan 2 (Awdurdodau cyhoeddus: awdurdodau Cymreig perthnasol) o Atodlen 19 (Awdurdodau cyhoeddus) i Ddeddf Cydraddoldeb 2010(1), yn lle “The Welsh Language Board or Bwrdd yr Iaith Gymraeg.” rhodder “Comisiynydd y Gymraeg (The Welsh Language Commissioner).”.

(1)

2010 p. 15. Mewnosodwyd y cyfeiriad at 'Welsh Language Board or Bwrdd yr Iaith Gymraeg' gan O.S. 2011/1063 (Cy.154), erthygl 2 is-baragraff (ch).