xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Erthygl 3(2)

YR ATODLENDiwygiadau Canlyniadol

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Contractau) 1997

1.  Yn rheoliad 2 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Contractau) 1997 yn lle “the auditor appointed under section 13 of that Act to audit the accounts of the authority in accordance with Chapter 1 of Part 2 of that Act” rhodder “the Auditor General for Wales”.

Gorchymyn Hepgor Contractau Adeiladu (Cymru a Lloegr) 1998

2.  Yn erthygl 4(2)(c)(v) o Orchymyn Hepgor Contractau Adeiladu (Cymru a Lloegr) 1998 ar ôl “the Audit Commission or” mewnosoder “a local government body in Wales whose accounts are audited by”.

Rheoliadau Atebolrwydd Cyflogwyr (Yswiriant Gorfodol) 1998

3.  Ym mharagraff 16 o Atodlen 2 (Cyflogwyr sy’n esempt o yswiriant) i Reoliadau Atebolrwydd Cyflogwyr (Yswiriant Gorfodol) 1998(1) yn lle “The Auditor General for Wales” rhodder “The Wales Audit Office”.

Rheoliadau Grantiau Safonau Addysg (Cymru) 2002

4.  Yn rheoliad 6(5)(b) o Reoliadau Grantiau Safonau Addysg (Cymru) 2002 hepgorer—

(a)“archwilydd a benodwyd gan”; a

(b)“i archwilio cyfrifon yr awdurdod neu unrhyw archwilydd sydd â chymhwyster i gael ei benodi yn rhinwedd adran 14(4) a (9) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004”.

Rheoliadau Addysg (Grantiau Cyfalaf) (Cymru) 2002

5.  Yn rheoliad 5(4)(b) o Reoliadau Addysg (Grantiau Cyfalaf) (Cymru) 2002 hepgorer—

(a)“archwilydd a benodwyd gan”; a

(b)“i archwilio cyfrifon yr awdurdod neu unrhyw archwilydd sydd â chymhwyster i gael ei benodi yn rhinwedd adran 14(4) a (9) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004”.

Rheoliadau Addysg (Cynllun Grant Dysgu’r Cynulliad) (Cymru) 2002

6.  Yn rheoliad 6(6)(b) o Reoliadau Addysg (Cynllun Grant Dysgu’r Cynulliad) (Cymru) 2002 hepgorer—

(a)“archwilydd a benodir gan”; a

(b)“i archwilio cyfrifon yr awdurdod neu unrhyw archwilydd sydd â chymhwyster i gael ei benodi yn rhinwedd adran 14(4) a (9) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004”.

Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005

7.—(1Mae Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle pob cyfeiriad at “yr archwilydd” rhodder “Archwilydd Cyffredinol Cymru”.

(3Yn lle rheoliad 15(2)(c) rhodder—

(c)yr archwilydd yw Archwilydd Cyffredinol Cymru a chynnwys cyfeiriad Archwilydd Cyffredinol Cymru;.

(4Yn rheoliad 20 yn lle “cyfarwyddo archwilydd i gynnal” rhodder “cynnal”.

Rheoliadau Enwau Cwmnïau, Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig a Busnesau (Awdurdodau Cyhoeddus) 2009

8.—(1Mae Rheoliadau Enwau Cwmnïau, Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig a Busnesau (Awdurdodau Cyhoeddus) 2009(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yng Ngholofn 1 o’r Atodlen (“awdurdodau cyhoeddus” penodedig a rhestr o adrannau eraill o’r Llywodraeth a chyrff eraill y mae rhaid ceisio eu barn) mewnosoder yn y man priodol—

Wales Audit Office (known in Welsh as “Swyddfa Archwilio Cymru”).

(3Yng Ngholofn 2 o’r Atodlen (“awdurdodau cyhoeddus” penodedig a rhestr o adrannau eraill o’r Llywodraeth a chyrff eraill y mae rhaid ceisio eu barn) mewnosoder yn y man priodol—

Wales Audit Office (known in Welsh as “Swyddfa Archwilio Cymru”).

(1)

O.S. 1998/2573 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2011/686. Mae offerynnau diwygio eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.

(2)

O.S. 2009/2982 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn