Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (Cychwyn, Diwygiadau Canlyniadol, Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) (Cymru) 2013

Darpariaethau Trosiannol

4.—(1Mewn perthynas â’r cyfnod pan fo penodiad archwilydd o dan adran 13 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004(1) yn cael ei barhau gan baragraff 2(2) o Atodlen 3 i’r Ddeddf, mae’r canlynol yn cael effaith fel petaent heb eu diwygio gan y Gorchymyn hwn—

(a)y diffiniad o “the auditor” yn rheoliad 2 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Contractau) 1997(2);

(b)rheoliad 6(5)(b) o Reoliadau Grantiau Safonau Addysg (Cymru) 2002(3);

(c)rheoliad 5(4)(b) o Reoliadau Addysg (Grantiau Cyfalaf) (Cymru) 2002(4);

(d)rheoliad 6(6)(b) o Reoliadau Addysg (Cynllun Grant Dysgu’r Cynulliad) (Cymru) 2002(5); ac

(e)Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005(6).

(2Mae penodiad unrhyw berson fel archwilydd o dan adran 145B(5)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7) yn parhau i gael effaith tan ddiwedd y cyfnod y gwnaed y penodiad ar ei gyfer (yn ddarostyngedig i derfynu’n gynnar).

(3Nid yw’r diwygiadau sydd wedi eu gwneud i erthygl 4(2)(c)(v) o Orchymyn Hepgor Contractau Adeiladu (Cymru a Lloegr) 1998(8) gan y Gorchymyn hwn yn gymwys i gontractau yr ymrwymwyd iddynt ar 31 Mawrth 2014 neu cyn hynny.

(2)

O.S. 1997/2862 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2005/761 (Cy. 65). Mae offerynnau diwygio eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.

(3)

O.S. 2002/438 (Cy. 56) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2005/761 (Cy. 65).

(4)

O.S. 2002/679 (Cy. 76) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2005/761 (Cy. 65).

(5)

O.S. 2002/1857 (Cy. 181) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2005/761 (Cy. 65). Mae offerynnau diwygio eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.

(6)

O.S. 2005/368 (Cy. 34) y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.

(8)

O.S. 1998/648 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2005/757 (Cy. 62). Mae offeryn diwygio arall nad yw’n berthnasol i’r Gorchymyn hwn.