2013 Rhif 1466 (Cy. 138) (C. 56)
Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (Cychwyn, Diwygiadau Canlyniadol, Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) (Cymru) 2013
Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 35(2) a (3) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 20131, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (Cychwyn, Diwygiadau Canlyniadol, Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) (Cymru) 2013 a daw i rym yn unol ag erthyglau 2 a 3.
2
Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
3
Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.
Darpariaethau sy’n dod i rym ar 4 Gorffennaf 20132
Daw darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym ar 4 Gorffennaf 2013—
a
adran 1 (trosolwg);
b
adran 8 (sut y mae swyddogaethau i gael eu harfer), i’r graddau y mae’n angenrheidiol er mwyn paratoi’r cod ymarfer, y cod ymarfer archwilio, y cynllun blynyddol ac amcangyfrif o incwm a gwariant ar gyfer y flwyddyn ariannol 2014-15;
c
adran 10 (cod ymarfer archwilio);
d
adran 12 (trosglwyddo etc swyddogaethau goruchwyliol Gweinidogion Cymru: ymgynghori);
e
adran 13 (ymgorffori Swyddfa Archwilio Cymru) ac eithrio mewn cysylltiad â darpariaethau sy’n ymwneud ag aelodau sy’n gyflogeion;
f
adran 14 (pwerau);
g
adran 15 (effeithlonrwydd);
h
adran 16 (y berthynas â’r Archwilydd Cyffredinol);
i
adran 17(2) a (3) (SAC i fonitro a darparu cyngor) i’r graddau y mae’n angenrheidiol er mwyn paratoi’r cod ymarfer, y cynllun blynyddol ac amcangyfrif o incwm a gwariant ar gyfer y flwyddyn ariannol 2014-15;
j
adran 18 (dirprwyo swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol a’u harfer ar y cyd) i’r graddau y mae’n angenrheidiol er mwyn paratoi’r cynllun dirprwyo;
k
adran 20 (gwariant) dim ond i’r graddau y mae’n ymwneud â’r flwyddyn ariannol 2014-2015;
l
adran 24 (cynllun ar gyfer codi ffioedd);
m
adran 25 (cynllun blynyddol);
n
adran 26 (cynllun blynyddol: y Cynulliad Cenedlaethol);
o
adran 27 (cynllun blynyddol: effaith);
p
adran 28 (swyddogaethau’r Cynulliad Cenedlaethol);
q
adran 29(1), (2), (3)(b) ac (c) a (4) (indemnio);
r
adran 31 (cyfarwyddiadau);
s
adran 32 (dehongli);
t
adran 33 (darpariaethau trosiannol, atodol ac arbed etc);
u
yn Atodlen 1 (ymgorffori Swyddfa Archwilio Cymru)—
i
paragraff 1 (aelodaeth) ac eithrio mewn cysylltiad â darpariaethau sy’n ymwneud â’r aelodau sy’n gyflogeion;
ii
paragraff 2 (penodi aelodau anweithredol ac aelodau sy’n gyflogeion) ac eithrio mewn cysylltiad â darpariaethau sy’n ymwneud â’r aelodau sy’n gyflogeion;
iii
paragraff 3 (statws) ac eithrio mewn cysylltiad â darpariaethau sy’n ymwneud â’r aelodau sy’n gyflogeion;
iv
paragraff 4 (penodi aelodau anweithredol);
v
paragraff 5 (penodi cadeirydd ar SAC);
vi
paragraff 6 (cyfnod penodi ac ailbenodi);
vii
paragraff 7 (trefniadau talu cydnabyddiaeth);
viii
paragraff 8 (telerau penodi eraill);
ix
paragraff 9 (ymgynghori);
x
paragraffau 10, 11 a 12 (dod â phenodiadau i ben);
xi
paragraff 13 (talu cydnabyddiaeth ychwanegol i’r Archwilydd Cyffredinol);
xii
paragraff 26 (anghymhwyso fel aelod o SAC neu gyflogai iddi) ac eithrio mewn cysylltiad â darpariaethau sy’n ymwneud â’r aelodau sy’n gyflogeion;
xiii
paragraff 27 (cyffredinol);
xiv
paragraff 28 (cworwm ar gyfer cyfarfodydd SAC);
xv
paragraff 29(1) (pwyllgorau);
xvi
paragraff 30 (cynnal pleidleisiau);
xvii
paragraff 31 (dilysrwydd); a
xviii
paragraff 32 (dirprwyo swyddogaethau) ac eithrio mewn cysylltiad â’r aelodau sy’n gyflogeion a chyflogeion;
v
yn Atodlen 2 (y berthynas rhwng yr Archwilydd Cyffredinol a SAC)—
i
paragraff 1 (paratoi a chymeradwyo etc);
ii
paragraff 2 (cynnwys); a
iii
paragraffau 5 i 14 (person arall, dros dro, yn arfer swyddogaethau’r Archwilydd Cyffredinol);
w
yn Atodlen 3 (darpariaethau trosiannol, atodol ac arbed)—
i
paragraff 4 (rheolau gweithdrefnol SAC cyn i reolau gael eu gwneud o dan baragraff 27 o Atodlen 1); a
ii
paragraff 13 (indemnio); ac
x
paragraff 79(2) o Atodlen 4 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 12 o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 20062.
Darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 20143
1
Daw pob un o ddarpariaethau eraill y Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2014 i’r graddau nad ydynt wedi eu cychwyn yn unol ag erthygl 2.
2
Mae’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer diwygiadau canlyniadol a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2014.
Darpariaethau Trosiannol4
1
Mewn perthynas â’r cyfnod pan fo penodiad archwilydd o dan adran 13 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 20043 yn cael ei barhau gan baragraff 2(2) o Atodlen 3 i’r Ddeddf, mae’r canlynol yn cael effaith fel petaent heb eu diwygio gan y Gorchymyn hwn—
a
y diffiniad o “the auditor” yn rheoliad 2 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Contractau) 19974;
b
rheoliad 6(5)(b) o Reoliadau Grantiau Safonau Addysg (Cymru) 20025;
c
rheoliad 5(4)(b) o Reoliadau Addysg (Grantiau Cyfalaf) (Cymru) 20026;
d
rheoliad 6(6)(b) o Reoliadau Addysg (Cynllun Grant Dysgu’r Cynulliad) (Cymru) 20027; ac
e
Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 20058.
2
Mae penodiad unrhyw berson fel archwilydd o dan adran 145B(5)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19989 yn parhau i gael effaith tan ddiwedd y cyfnod y gwnaed y penodiad ar ei gyfer (yn ddarostyngedig i derfynu’n gynnar).
3
Nid yw’r diwygiadau sydd wedi eu gwneud i erthygl 4(2)(c)(v) o Orchymyn Hepgor Contractau Adeiladu (Cymru a Lloegr) 199810 gan y Gorchymyn hwn yn gymwys i gontractau yr ymrwymwyd iddynt ar 31 Mawrth 2014 neu cyn hynny.
Darpariaeth Arbed5
Mae paragraffau 13, 14 a 15 o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 wedi eu harbed at ddibenion cyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2013-2014.
YR ATODLENDiwygiadau Canlyniadol
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Contractau) 19971
Yn rheoliad 2 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Contractau) 1997 yn lle “the auditor appointed under section 13 of that Act to audit the accounts of the authority in accordance with Chapter 1 of Part 2 of that Act” rhodder “the Auditor General for Wales”.
Gorchymyn Hepgor Contractau Adeiladu (Cymru a Lloegr) 19982
Yn erthygl 4(2)(c)(v) o Orchymyn Hepgor Contractau Adeiladu (Cymru a Lloegr) 1998 ar ôl “the Audit Commission or” mewnosoder “a local government body in Wales whose accounts are audited by”.
Rheoliadau Atebolrwydd Cyflogwyr (Yswiriant Gorfodol) 19983
Ym mharagraff 16 o Atodlen 2 (Cyflogwyr sy’n esempt o yswiriant) i Reoliadau Atebolrwydd Cyflogwyr (Yswiriant Gorfodol) 199811 yn lle “The Auditor General for Wales” rhodder “The Wales Audit Office”.
Rheoliadau Grantiau Safonau Addysg (Cymru) 20024
Yn rheoliad 6(5)(b) o Reoliadau Grantiau Safonau Addysg (Cymru) 2002 hepgorer—
a
“archwilydd a benodwyd gan”; a
b
“i archwilio cyfrifon yr awdurdod neu unrhyw archwilydd sydd â chymhwyster i gael ei benodi yn rhinwedd adran 14(4) a (9) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004”.
Rheoliadau Addysg (Grantiau Cyfalaf) (Cymru) 20025
Yn rheoliad 5(4)(b) o Reoliadau Addysg (Grantiau Cyfalaf) (Cymru) 2002 hepgorer—
a
“archwilydd a benodwyd gan”; a
b
“i archwilio cyfrifon yr awdurdod neu unrhyw archwilydd sydd â chymhwyster i gael ei benodi yn rhinwedd adran 14(4) a (9) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004”.
Rheoliadau Addysg (Cynllun Grant Dysgu’r Cynulliad) (Cymru) 20026
Yn rheoliad 6(6)(b) o Reoliadau Addysg (Cynllun Grant Dysgu’r Cynulliad) (Cymru) 2002 hepgorer—
a
“archwilydd a benodir gan”; a
b
“i archwilio cyfrifon yr awdurdod neu unrhyw archwilydd sydd â chymhwyster i gael ei benodi yn rhinwedd adran 14(4) a (9) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004”.
Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 20057
1
Mae Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn lle pob cyfeiriad at “yr archwilydd” rhodder “Archwilydd Cyffredinol Cymru”.
3
Yn lle rheoliad 15(2)(c) rhodder—
c
yr archwilydd yw Archwilydd Cyffredinol Cymru a chynnwys cyfeiriad Archwilydd Cyffredinol Cymru;
4
Yn rheoliad 20 yn lle “cyfarwyddo archwilydd i gynnal” rhodder “cynnal”.
Rheoliadau Enwau Cwmnïau, Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig a Busnesau (Awdurdodau Cyhoeddus) 20098
1
Mae Rheoliadau Enwau Cwmnïau, Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig a Busnesau (Awdurdodau Cyhoeddus) 200912 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yng Ngholofn 1 o’r Atodlen (“awdurdodau cyhoeddus” penodedig a rhestr o adrannau eraill o’r Llywodraeth a chyrff eraill y mae rhaid ceisio eu barn) mewnosoder yn y man priodol—
Wales Audit Office (known in Welsh as “Swyddfa Archwilio Cymru”)
3
Yng Ngholofn 2 o’r Atodlen (“awdurdodau cyhoeddus” penodedig a rhestr o adrannau eraill o’r Llywodraeth a chyrff eraill y mae rhaid ceisio eu barn) mewnosoder yn y man priodol—
Wales Audit Office (known in Welsh as “Swyddfa Archwilio Cymru”)
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)