xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2013 Rhif 2273 (Cy. 219)

Credydau Treth, Cymru

Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) (Diwygio) 2013

Gwnaed

5 Medi 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Medi 2013

Yn dod i rym

1 Hydref 2013

Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod cenedlaethol priodol(1) o dan adran 12(6) o Ddeddf Credydau Treth 2002(2), drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 12(5) a (7) a 65(3) a (9) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y diwygiadau a ganlyn i’r Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 2007(3).

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Cynllun hwn yw Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) (Diwygio) 2013.

(2Daw’r Cynllun hwn i rym ar 1 Hydref 2013.

(3Mae’r Cynllun hwn yn gymwys o ran Cymru.

(4Yn y Cynllun hwn ystyr “y Prif Gynllun” (“the Principal Scheme”) yw’r Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 2007.

Diwygio erthygl 9 o’r Prif Gynllun

2.—(1Mae erthygl 9 (yr wybodaeth sydd i’w darparu gan y corff cymeradwyo) o’r Prif Gynllun wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle erthygl 9 rhodder—

9.(1) Bydd y corff cymeradwyo yn darparu—

(a)i Gomisiynydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (“CThEM”) unrhyw wybodaeth y mae arno ei hangen i gyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau CThEM sy’n ymwneud â chredyd treth gwaith a honno’n wybodaeth sy’n ymwneud â chymeradwyo neu wrthod cymeradwyo personau o dan y Cynllun hwn neu dynnu cymeradwyaeth y personau hynny yn ôl; a

(b)i’r Ysgrifennydd Gwladol unrhyw wybodaeth y mae ei hangen ar yr Ysgrifennydd Gwladol i gyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol sy’n ymwneud â chredyd cynhwysol a honno’n wybodaeth sy’n ymwneud â chymeradwyo neu wrthod cymeradwyo personau o dan y Cynllun hwn neu dynnu cymeradwyaeth y personau hynny yn ôl.

(2) Yn yr erthygl hon ystyr “credyd cynhwysol” yw credyd cynhwysol o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2012(4).

Jeff Cuthbert

Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru

5 Medi 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Cynllun)

Mae’r Cynllun hwn yn gwneud diwygiadau i’r Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 2007 (“y Cynllun Cymeradwyo”).

Mae’r Cynllun Cymeradwyo yn darparu ar gyfer cymeradwyo darparwyr gofal plant at ddibenion adran 12(5) o Ddeddf Credydau Treth 2002 (“y Ddeddf”). Mae gofal plant cymwys, fel y’i diffinnir yn y Cynllun Cymeradwyo, a ddarperir gan berson yn unol â’r Cynllun Cymeradwyo yn golygu gofal a ddarperir gan berson o ddisgrifiad rhagnodedig at ddibenion adran 12(4) o’r Ddeddf.

Gwneir y diwygiadau o ganlyniad i Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 er mwyn cynnwys cyfeiriad, o fewn y Cynllun Cymeradwyo, at gredyd cynhwysol yn ogystal â’r cyfeiriad presennol at gredyd treth gwaith a fydd, yn y pen draw, yn cael ei ddisodli gan gredyd cynhwysol.

Mae erthygl 2 o’r Cynllun hwn yn diwygio erthygl 9 o’r Cynllun Cymeradwyo er mwyn cynnwys gofyniad bod gwybodaeth yn cael ei darparu i’r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â’i swyddogaethau sy’n ymwneud â chredyd cynhwysol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Cynllun hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Cynllun hwn.

(1)

Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru ac maent wedi eu breinio bellach ynddynt hwy.