Dileu Cyngor Cefn Gwlad Cymru

8.—(1Mae CCGC wedi ei ddileu.

(2Gan hynny, mae'r canlynol wedi eu diddymu—

(a)adrannau 128 i 134 o Ddeddf 1990(1);

(b)Atodlenni 6, 8 a 9 i Ddeddf 1990(2);

(c)Rhan 1 o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949(3).

(1)

1990 p. 43. Diwygiwyd adran 130 gan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p. 37), Atodlen 15, paragraff 11. Amnewidiwyd adrannau 128 a 129, diwygiwyd adrannau 130, 131, 132 a 134, a diddymwyd adran 133 gan Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (p. 16), Atodlen 11, paragraffau 117 i 123. Gwnaed diwygiadau pellach i adrannau 128, 132 a 134 gan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (p. 23), adran 313.

(2)

Cafwyd nifer o ddiwygiadau i Atodlenni 6, 8 a 9. Diwygiwyd yr Atodlenni hynny, a diddymwyd Atodlen 7, gan Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (p. 16), Atodlen 11, paragraffau 126 a 127, ac Atodlen 12. O ran darpariaethau trosiannol a darpariaethau arbed mewn cysylltiad â diddymu Atodlenni 6, 8 a 9 i Ddeddf 1990, gweler Atodlen 7 i'r Gorchymyn hwn.

(3)

1949 p. 97. Amnewidiwyd adran 1 gan Ddeddf 1990, Atodlen 8, paragraff 1(2). Diwygiwyd adrannau 1 a 3 gan Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006, Atodlen 11, paragraffau 7 ac 8. Diddymwyd adrannau 2 a 4 gan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p. 69), Atodlen 17, Rhan 2.