Enwi, cychwyn a rhychwant1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013.
2
Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2013.
3
Mae i ddiwygiad, diddymiad neu ddirymiad a wneir gan y Gorchymyn hwn yr un rhychwant â'r ddarpariaeth y mae'n ymwneud â hi.
Dehongli2
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “y Corff” (“the Body”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;
ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Diogelu'r Amgylchedd 19902;
ystyr “Deddf 1995” (“the 1995 Act”) yw Deddf yr Amgylchedd 19953;
ystyr “deddfiad lleol” (“local enactment”) yw unrhyw Ddeddf leol neu unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf leol neu yn rhinwedd Deddf leol;
ystyr “y Gorchymyn Sefydlu” (“the Establishment Order”) yw Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 20124.
Swyddogaethau cyffredinol Corff Adnoddau Naturiol Cymru3
Mae Atodlen 1 yn cynnwys diwygiadau i'r Gorchymyn Sefydlu.
Addasu a throsglwyddo swyddogaethau, darpariaethau canlyniadol a darpariaethau eraill4
1
Mae Atodlenni 2 a 3 yn cynnwys diwygiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol sydd—
a
yn addasu ac yn trosglwyddo i'r Corff swyddogaethau datganoledig Cymreig Asiantaeth yr Amgylchedd;
b
yn addasu ac yn trosglwyddo i'r Corff ac i Weinidogion Cymru swyddogaethau datganoledig Cymreig y Comisiynwyr Coedwigaeth;
c
yn addasu ac yn trosglwyddo i'r Corff swyddogaethau CCGC;
d
yn trosglwyddo i'r Corff swyddogaethau Gweinidogion Cymru o ran yr amgylchedd;
e
yn gwneud darpariaeth ganlyniadol, atodol a chysylltiedig.
2
Mae Atodlenni 4, 5 a 6 yn cynnwys diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sydd—
a
yn addasu ac yn trosglwyddo i'r Corff swyddogaethau datganoledig Cymreig Asiantaeth yr Amgylchedd;
b
yn addasu ac yn trosglwyddo i'r Corff ac i Weinidogion Cymru swyddogaethau datganoledig Cymreig y Comisiynwyr Coedwigaeth;
c
yn addasu ac yn trosglwyddo i'r Corff swyddogaethau CCGC;
d
yn trosglwyddo i'r Corff swyddogaethau Gweinidogion Cymru o ran yr amgylchedd;
e
yn gwneud darpariaeth ganlyniadol, atodol a chysylltiedig.
Addasiadau eraill i ddeddfiadau
5
Mewn unrhyw ddeddfiad lleol sydd heb ei ddiwygio gan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Gorchymyn hwn, mae unrhyw gyfeiriad at CCGC (sut bynnag y'i mynegir), ac unrhyw gyfeiriad sydd i'w ddarllen fel cyfeiriad at CCGC, i'w drin fel cyfeiriad at y Corff.
6
Mewn unrhyw ddeddfiad lleol sydd heb ei ddiwygio gan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Gorchymyn hwn, mae unrhyw gyfeiriad at y Comisiynwyr Coedwigaeth (sut bynnag y'i mynegir) ac unrhyw gyfeiriad sydd i'w ddarllen fel cyfeiriad at y Comisiynwyr Coedwigaeth, i'w drin o ran Cymru fel cyfeiriad at y Corff.
7
Mewn unrhyw ddeddfiad lleol sydd heb ei ddiwygio gan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Gorchymyn hwn, heblaw deddfiad sy'n ymwneud â mordwyo, mae unrhyw gyfeiriad at Asiantaeth yr Amgylchedd (sut bynnag y'i mynegir) ac unrhyw gyfeiriad sydd i'w ddarllen fel cyfeiriad at Asiantaeth yr Amgylchedd, i'w drin o ran Cymru fel cyfeiriad at y Corff.
Dileu Cyngor Cefn Gwlad Cymru8
1
Mae CCGC wedi ei ddileu.
Dileu pwyllgorau ymgynghorol9
1
Mae'r canlynol wedi eu dileu—
a
Pwyllgor Ymgynghorol Gwarchod yr Amgylchedd a sefydlwyd yn unol ag adran 12(6) o Ddeddf 1995;
b
y pwyllgor ymgynghorol pysgodfeydd rhanbarthol a lleol a sefydlwyd yn unol ag adran 13(5) o Ddeddf 1995.
Darpariaethau trosiannol ac arbedion10
Mae Atodlen 7 yn cynnwys darpariaethau trosiannol ac arbedion.