10.—(1) Mae erthygl 10 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Daw'r ddarpariaeth bresennol yn baragraff (1).
(3) Ar ôl paragraff (1) mewnosoder—
“(2) Caiff y Corff gynghori Gweinidogion Cymru ynghylch datblygu a gweithredu polisïau ar gyfer unrhyw fater neu mewn perthynas ag unrhyw fater y mae'r Corff yn arfer swyddogaethau mewn perthynas ag ef, p'un a ofynnwyd iddo wneud hynny neu beidio.”