ATODLEN 1SWYDDOGAETHAU CORFF ADNODDAU NATURIOL CYMRU
I111
Ar ôl erthygl 10 mewnosoder—
Cyngor a chymorth i eraill10A
1
Caiff y Corff roi cyngor neu gymorth, gan gynnwys cyfleusterau hyfforddi, i unrhyw berson ar unrhyw fater y mae gan y Corff wybodaeth, sgiliau neu brofiad ynddo.
2
Rhaid i'r pŵer a roddir gan baragraff (1) beidio â chael ei arfer pan fo'r person y rhoddir y cyngor neu'r cymorth iddo y tu allan i Gymru, ac eithrio—
a
yn unol â phŵer neu ddyletswydd a roddir neu a osodir gan y deddfiad hwn neu unrhyw ddeddfiad arall;
b
â chydsyniad ysgrifenedig Gweinidogion Cymru; neu
c
yn unol â threfniadau a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru.
3
Caiff Gweinidogion Cymru osod amodau wrth roi cydsyniad neu wrth gymeradwyo trefniadau o dan baragraff (2).
Cymorth ariannol10B
1
Caiff y Corff roi cymorth ariannol i unrhyw berson mewn perthynas ag unrhyw wariant a ysgwyddwyd neu a ysgwyddir gan y person hwnnw wrth wneud unrhyw beth y mae'r Corff o'r farn ei fod yn gydnaws â chyrraedd unrhyw amcan y mae'r Corff yn ceisio ei gyrraedd wrth arfer ei swyddogaethau.
2
Caiff y Corff roi cymorth ariannol o dan yr erthygl hon ar ffurf grant neu fenthyciad (neu yn rhannol yn y naill ffordd ac yn rhannol yn y llall).
3
Caiff y Corff osod amodau ar gymorth ariannol o dan yr erthygl hon, a all gynnwys (heb gyfyngiad) amodau sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r cyfan neu ran o unrhyw grant gael ei ad-dalu neu ei had-dalu o dan amgylchiadau penodedig.
4
Rhaid i'r Corff arfer y pŵer ym mharagraff (3) mewn modd sy'n sicrhau bod unrhyw berson sy'n cael cymorth ariannol mewn perthynas â mangre y mae'r cyhoedd i'w dderbyn iddi (am dâl neu fel arall) yn gwneud darpariaeth briodol at anghenion aelodau o'r cyhoedd sydd ag anableddau.
5
Ym mharagraff (4), ystyr “darpariaeth briodol” (“appropriate provision”) yw unrhyw ddarpariaeth ar gyfer—
a
mynedfeydd i'r fangre neu ynddi; a
b
y cyfleusterau parcio a'r cyfleusterau glanweithiol sydd i fod ar gael (os oes rhai i fod ar gael),
sy'n ymarferol ac yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.
6
Dim ond gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru (sef cydsyniad a all fod yn benodol neu'n gyffredinol) neu yn unol â threfniadau a gymeradwyir ganddynt y caiff y Corff roi cymorth ariannol o dan yr erthygl hon.
Ymchwil10C
1
Rhaid i'r Corff wneud trefniadau i gyflawni gweithgareddau ymchwil mewn perthynas â materion sy'n berthnasol i unrhyw rai o'i swyddogaethau.
2
Caiff y Corff—
a
cyflawni gweithgareddau ymchwil ei hun neu ar y cyd â phersonau eraill;
b
comisiynu neu gefnogi gweithgareddau ymchwil (boed drwy gyfrwng arian neu fel arall).
3
Wrth arfer ei swyddogaethau o dan yr erthygl hon mewn perthynas ag ymchwil ar gadwraeth natur, rhaid i'r Corff roi sylw i unrhyw safonau cyffredin a sefydlwyd o dan adran 34(2)(c) o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 200620.
4
Yn yr erthygl hon—
a
ystyr “gweithgareddau ymchwil” (“research activities”) yw gweithgareddau ymchwil a gweithgareddau perthynol;
b
mae “gweithgareddau cysylltiedig” (“related activities”) yn cynnwys, heb gyfyngiad, gwneud arbrofion ac ymholiadau a chasglu ystadegau a gwybodaeth.
Darpariaeth bellach ynghylch cyngor, cymorth ac ymchwil10D
Mae'r swyddogaethau a roddir gan erthyglau 10 i 10C yn arferadwy o ran Cymru a pharth Cymru.
Achosion troseddol10E
1
Caiff y Corff ddwyn achosion troseddol yng Nghymru a Lloegr.
2
Caiff y Corff awdurdodi personau i erlyn ar ei ran mewn achosion gerbron llysoedd ynadon yng Nghymru a Lloegr.
3
Mae gan berson a awdurdodwyd felly hawl i erlyn mewn achosion o'r fath er nad yw'r person hwnnw'n fargyfreithiwr neu'n gyfreithiwr.