xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 1SWYDDOGAETHAU CORFF ADNODDAU NATURIOL CYMRU

12.  Yn erthygl 11, yn lle paragraffau (2) i (4) rhodder—

(2) Caniateir i'r pŵer ym mharagraff (1) gael ei arfer hefyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol er mwyn cyfarwyddo'r Corff o ran arfer ei swyddogaethau trosglwyddedig perthnasol—

(a)os byddai'r cyfarwyddyd yn cael unrhyw effaith yn Lloegr; neu

(b)os yw'r cyfarwyddyd yn ymwneud â rheoli adnoddau dŵr, cyflenwi dŵr, afonydd neu gyrsiau dŵr eraill, rheoli llygredd mewn adnoddau dŵr, carthffosiaeth neu ddraenio tir, ac y byddai iddo unrhyw effaith yn nalgylchoedd afonydd Dyfrdwy, Gwy a Hafren.

(3) Caiff Gweinidogion Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol roi cyfarwyddiadau cyffredinol neu benodol i'r Corff i weithredu unrhyw rwymedigaeth UE neu rwymedigaeth ryngwladol sydd gan y Deyrnas Unedig.

(4) Ac eithrio mewn argyfwng, dim ond ar ôl ymgynghori â'r Corff y caniateir arfer y pŵer i roi cyfarwyddyd o dan yr erthygl hon.

(5) Dim ond ar ôl ymgynghori â'r Ysgrifennydd Gwladol y caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd sy'n dod o fewn paragraff (2).

(6) Dim ond ar ôl ymgynghori â Gweinidogion Cymru y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol roi cyfarwyddyd o dan yr erthygl hon.

(7) Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol i roi cyfarwyddiadau i'r Corff o dan unrhyw ddeddfiad arall heb ragfarn i'w pwerau i roi cyfarwyddiadau o dan yr erthygl hon.

(8) Yn yr erthygl hon, ystyr “swyddogaethau trosglwyddedig perthnasol” (“relevant transferred functions”) yw unrhyw swyddogaethau—

(a)a oedd yn arferadwy gan Asiantaeth yr Amgylchedd cyn 1 Ebrill 2013; a

(b)sy'n swyddogaethau i'r Corff yn rhinwedd Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013,

ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (9).

(9) At ddibenion y diffiniad o “swyddogaethau trosglwyddedig perthnasol” (“relevant transferred functions”)—

(a)yr oedd swyddogaeth i Asiantaeth yr Amgylchedd yn arferadwy cyn 1 Ebrill 2013 p'un a oedd y deddfiad sy'n ei rhoi wedi dod i rym cyn y dyddiad hwnnw neu beidio; ond

(b)dim ond pan fydd y deddfiad sy'n rhoi'r swyddogaeth wedi dod i rym y bydd swyddogaeth yn swyddogaeth drosglwyddedig berthnasol.