ATODLEN 1SWYDDOGAETHAU CORFF ADNODDAU NATURIOL CYMRU

I113

Ar ôl erthygl 11 mewnosoder—

Darpariaethau pellach ynghylch cyfarwyddiadau11A

1

Rhaid i gyfarwyddyd o dan erthygl 11 fod yn ysgrifenedig.

2

Rhaid i Weinidogion Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol (yn ôl y digwydd) gyhoeddi unrhyw gyfarwyddyd a roddir i'r Corff—

a

o dan erthygl 11;

b

o dan unrhyw ddeddfiad arall er mwyn gweithredu unrhyw rwymedigaeth UE neu rwymedigaeth ryngwladol sydd gan y Deyrnas Unedig,

cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl rhoi'r cyfarwyddyd, a rhaid iddynt drefnu bod copïau ar gael os gwneir cais amdanynt.

3

Mae'r pŵer i roi cyfarwyddiadau o dan erthygl 11 yn cynnwys pŵer i amrywio'r cyfarwyddiadau neu eu dirymu.

4

Os bydd Gweinidogion Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol yn amrywio neu'n dirymu unrhyw gyfarwyddyd a roddir i'r Corff er mwyn gweithredu unrhyw rwymedigaeth UE sydd gan y Deyrnas Unedig (boed o dan erthygl 11 ynteu o dan unrhyw ddeddfiad arall), rhaid iddynt—

a

cyhoeddi'r amrywiad neu'r dirymiad cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol;

b

trefnu bod copïau o'r amrywiad neu'r dirymiad ar gael os gwneir cais amdanynt.

5

Rhaid i'r Corff ac unrhyw berson sy'n arfer swyddogaethau'r Corff gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir i'r Corff o dan erthygl 11 neu unrhyw ddeddfiad arall.

6

Wrth benderfynu—

a

ar unrhyw apêl yn erbyn penderfyniad gan y Corff, neu atgyfeiriad neu adolygiad ar benderfyniad gan y Corff, neu

b

ar unrhyw gais a drosglwyddir o'r Corff,

mae'r person sy'n gwneud y penderfyniad wedi ei rwymo gan unrhyw gyfarwyddyd a roddwyd i'r Corff o dan erthygl 11 neu unrhyw ddeddfiad arall i'r un graddau â'r Corff.