Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013

17.  Ar ôl erthygl 13 mewnosoder—LL+C

Incwm o goedwigaeth

13A.(1) Rhaid i'r Corff wario pob swm y mae'n ei gael am werthu neu am waredu mewn modd arall goed neu gynhyrchion coedwigaeth eraill ar arfer ei swyddogaethau sy'n ymwneud â choedwigaeth, fforestydd, coedwigoedd a diwydiannau coetir.

(2) Mae'r erthygl hon yn ddarostyngedig i unrhyw benderfyniad neu gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 13.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)