ATODLEN 1SWYDDOGAETHAU CORFF ADNODDAU NATURIOL CYMRU
I118
Ar ôl erthygl 15 mewnosoder—
RHAN 4 —GWYBODAETH AM BENDERFYNIADAU YNGHYLCH HAWLENNI
Dehongli16
Yn y Rhan hon—
ystyr “hawlen” (“permit”) yw unrhyw gofrestriad, esemptiad, cymeradwyaeth, caniatâd, trwydded, cydsyniad, cydnabyddiaeth neu awdurdodiad arall, sut bynnag y'i disgrifir;
ystyr “penderfyniad ynghylch hawlenni” (“permitting decision”) yw unrhyw benderfyniad—
- a
i roi neu i wrthod cais am hawlen;
- b
i atal, amrywio neu ddirymu hawlen.
Cynlluniau cyhoeddi gwybodaeth17
1
Rhaid i'r Corff—
a
datblygu, mabwysiadu a chynnal cynllun (y cyfeirir ato yn yr erthygl hon fel “cynllun cyhoeddi”) ynglŷn â chyhoeddi gwybodaeth am y canlynol—
i
ceisiadau am hawlenni a wneir i'r Corff; a
ii
penderfyniadau ynghylch hawlenni a wneir gan y Corff;
b
cyhoeddi gwybodaeth yn unol â'i gynllun cyhoeddi;
c
adolygu ei gynllun cyhoeddi o dro i dro.
2
Rhaid i gynllun cyhoeddi—
a
pennu dosbarthiadau o wybodaeth y mae'r Corff yn eu cyhoeddi neu'n bwriadu eu cyhoeddi, y mae'n rhaid iddynt gynnwys gwybodaeth am bob cais am hawlen a wneir gan y Corff mewn achosion lle mae'r Corff yn gyfrifol am benderfynu ar y cais;
b
pennu ym mha fodd y cyhoeddir, neu y bwriedir cyhoeddi, yr wybodaeth ym mhob dosbarth, ac o fewn pa gyfnod amser;
c
pennu a yw'r deunyddiau ar gael, neu a fwriedir iddynt fod ar gael, i'r cyhoedd yn ddi-dâl.
3
Wrth ddatblygu, mabwysiadu neu adolygu cynllun cyhoeddi, rhaid i'r Corff—
a
ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae'n ystyried eu bod yn briodol;
b
rhoi sylw i'r buddiant cyhoeddus yn y canlynol—
i
caniatáu i'r cyhoedd fynediad at wybodaeth sydd gan y Corff; a
ii
cyhoeddi gwybodaeth am geisiadau am hawlenni a wnaed i'r Corff a phenderfyniadau ynghylch hawlenni a wnaed gan y Corff.
4
Rhaid i gynllun cyhoeddi gael ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.
5
Os bydd Gweinidogion Cymru yn gwrthod cymeradwyo cynllun cyhoeddi arfaethedig rhaid iddynt roi datganiad o'u rhesymau dros wrthod gwneud hynny i'r Corff.
6
Rhaid i'r Corff gyhoeddi ei gynllun cyhoeddi ar ei wefan a threfnu bod copïau o'r cynllun ar gael os gwneir cais amdanynt.
7
Mae'r erthygl hon heb ragfarn i unrhyw bŵer neu ddyletswydd arall sydd gan y Corff i gyhoeddi gwybodaeth neu i'w datgelu.
Hysbysiadau i Weinidogion Cymru ynghylch hunan-ganiatáu hawlenni18
1
Mae'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw gais am hawlen y mae'r cyfan o'r amodau a ganlyn wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef—
a
y Corff yw'r ymgeisydd;
b
y Corff sy'n gyfrifol am benderfynu ar y cais;
c
y caniateir i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd i'r cais gael ei gyfeirio atynt hwy i gael ei benderfynu.
2
Rhaid i'r Corff hysbysu Gweinidogion Cymru am y cais ar yr adeg pan fydd yn gwneud y cais.