ATODLEN 1SWYDDOGAETHAU CORFF ADNODDAU NATURIOL CYMRU
4
Ar ôl erthygl 5 mewnosoder—
Dyletswyddau cadwraeth natur
5A
1
Rhaid i'r Corff arfer ei swyddogaethau mewn modd sy'n hybu cadwraeth natur a chadwraeth a gwelliant harddwch naturiol ac amwynder.
2
Nid yw'r ddyletswydd ym mharagraff (1) yn gymwys i swyddogaethau rheoli llygredd y Corff nac i'w swyddogaethau o dan Ddeddf Coedwigaeth 1967.
3
Wrth arfer ei swyddogaethau rheoli llygredd, rhaid i'r Corff roi sylw i ba mor ddymunol yw cadwraeth natur a chadwraeth a gwelliant harddwch naturiol ac amwynder.
4
Mae adran 1(3A) o Ddeddf Coedwigaeth 196712 yn gwneud darpariaeth ynghylch y cydbwysedd rhwng cadwraeth natur a materion eraill y mae'n rhaid i'r Corff ymdrechu i'w cyflawni wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf honno.
5B
Wrth arfer unrhyw swyddogaeth sy'n ymwneud â chadwraeth natur, rhaid i'r Corff roi sylw i newidiadau ecolegol gwirioneddol neu bosibl.
Dyletswyddau mynediad a hamdden5C
1
Rhaid i'r Corff arfer ei swyddogaethau mewn modd sy'n hyrwyddo darpariaeth a gwelliant cyfleoedd—
a
i fynd i gefn gwlad a mannau agored a'u mwynhau;
b
at hamdden awyr agored; ac
c
i astudio, deall a mwynhau'r amgylchedd naturiol.
2
Nid yw'r ddyletswydd ym mharagraff (1) yn gymwys i swyddogaethau rheoli llygredd y Corff.
3
Wrth arfer ei swyddogaethau rheoli llygredd, rhaid i'r Corff roi sylw i ba mor ddymunol yw parhau i sicrhau bod cyfleoedd presennol o'r mathau a grybwyllir ym mharagraff (1) ar gael i'r cyhoedd.
4
Mae adran 2 o Ddeddf Cefn Gwlad 196813 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch dyletswyddau'r Corff sy'n ymwneud â chyfleusterau ar gyfer mwynhau cefn gwlad, cadwraeth a gwelliant harddwch naturiol ac amwynder cefn gwlad, a mynediad y cyhoedd i gefn gwlad at hamdden.
Dyletswyddau o ran safleoedd hanesyddol5D
Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i'r Corff roi sylw i'r canlynol—
a
pa mor ddymunol yw gwarchod a chadw adeiladau, adeileddau, safleoedd a gwrthrychau o ddiddordeb archaeolegol, pensaernïol, peirianegol neu hanesyddol;
b
pa mor ddymunol yw sicrhau bod unrhyw gyfleuster at ymweld ag unrhyw adeilad, adeiledd, safle neu wrthrych o'r fath neu eu harolygu yn parhau ar gael i'r cyhoedd, i'r graddau y mae'n gyson ag is-baragraff (a) ac erthygl 5A.
Dyletswyddau o ran llesiant5E
Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i'r Corff roi sylw i'r canlynol—
a
iechyd a llesiant cymdeithasol unigolion a chymunedau;
b
llesiant economaidd unigolion, busnesau a chymunedau.
Dyletswyddau Gweinidogion Cymru o ran cynigion sy'n ymwneud â swyddogaethau'r Corff5F
1
Mae'r dyletswyddau yn erthyglau 5A i 5E yn gymwys i Weinidogion Cymru wrth iddynt lunio neu ystyried unrhyw gynigion sy'n ymwneud â swyddogaethau'r Corff, fel y maent yn gymwys i'r Corff wrth iddo arfer y swyddogaethau hynny.
2
Ond nid yw'r ddyletswydd yn erthygl 5A(1) yn gymwys i Weinidogion Cymru wrth iddynt lunio neu ystyried cynigion o'r fath ond i'r graddau y mae'r ddyletswydd yn gyson â'r canlynol—
a
yr amcan o sicrhau datblygu cynaliadwy; a
b
dyletswyddau Gweinidogion Cymru o dan adran 2 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 199114.
Hamdden o ran dŵr a thir cysylltiedig5G
1
Mae'r erthygl hon yn gymwys pan fo gan y Corff hawliau i ddefnyddio dŵr neu dir sy'n gysylltiedig â dŵr.
2
Rhaid i'r Corff gymryd camau priodol i sicrhau bod yr hawliau hynny'n cael eu harfer mewn modd sy'n sicrhau bod y dŵr neu'r tir—
a
ar gael at ddibenion hamdden; a
b
ar gael yn y modd gorau.
3
Ym mharagraff (2), ystyr “camau priodol” (“appropriate steps”) yw camau—
a
sy'n rhesymol ymarferol; a
b
sy'n gyson â darpariaethau unrhyw ddeddfiad sy'n ymwneud â swyddogaethau'r Corff.
4
Rhaid i'r Corff sicrhau cydsyniad unrhyw awdurdod mordwyo, awdurdod harbwr neu awdurdod cadwraeth cyn gwneud dim o dan baragraff (1) sy'n peri rhwystr i'r mordwyo sydd o dan reolaeth yr awdurdod hwnnw, neu ymyrraeth arall â'r mordwyo hwnnw.
5
Mae adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd 199515 yn gwneud darpariaeth gyffredinol bellach ynghylch swyddogaethau'r Corff o ran dŵr.
Darparu cyfleusterau at hamdden a dibenion eraill
5H
1
Caiff y Corff ddarparu, neu wneud trefniadau i ddarparu, cyfleusterau at y dibenion a bennir ym mharagraff (2) ar unrhyw dir sy'n perthyn iddo, y mae'n ei ddefnyddio neu'n ei reoli, neu a drefnir at ei ddefnydd gan Weinidogion Cymru.
2
Dyma'r dibenion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—
a
twristiaeth a mwynhau cefn gwlad a mannau agored;
b
hamdden a chwaraeon;
c
astudio, deall a mwynhau'r amgylchedd naturiol.
3
Ym mharagraff (1), mae “cyfleusterau” (“facilities”) yn cynnwys, heb gyfyngiad—
a
llety i ymwelwyr, safleoedd gwersylla a safleoedd carafannau;
b
safleoedd picnic a mannau ar gyfer prydau a lluniaeth;
c
mannau i fwynhau golygfeydd a mannau parcio;
d
llwybrau ar gyfer cerdded, beicio neu astudio'r amgylchedd naturiol;
e
canolfannau addysg, canolfannau arddangos a gwybodaeth;
f
siopau mewn cysylltiad ag unrhyw rai o'r cyfleusterau a grybwyllwyd ym mharagraffau (a) i (e);
g
cyfleusterau cyhoeddus.
5I
Mae pŵer Gweinidogion Cymru o dan adran 39 o Ddeddf Coedwigaeth 196716 i gaffael tir yn cynnwys pŵer i gaffael tir yn agos at dir sydd wedi ei drefnu ganddynt at ddefnydd y Corff yn unol ag adran 3 o'r Ddeddf honno pan fo'n ymddangos i Weinidogion Cymru fod y tir y bwriedir ei gaffael yn ofynnol yn rhesymol er mwyn darparu'r cyfleusterau a grybwyllwyd yn erthygl 5H.
5J
Mae pŵer Gweinidogion Cymru i wneud is-ddeddfau o dan adran 46 o Ddeddf Coedwigaeth 1967 yn cynnwys pŵer i wneud is-ddeddfau—
a
i reoleiddio defnyddio rhesymol ar gyfleusterau a ddarperir o dan erthygl 5H, a
b
o ran unrhyw fater a ddisgrifir yn adran 41(3) o Ddeddf Cefn Gwlad 196817.