ATODLEN 1LL+CSWYDDOGAETHAU CORFF ADNODDAU NATURIOL CYMRU

4.  Ar ôl erthygl 5 mewnosoder—LL+C

Dyletswyddau cadwraeth natur

5A.(1) Rhaid i'r Corff arfer ei swyddogaethau mewn modd sy'n hybu cadwraeth natur a chadwraeth a gwelliant harddwch naturiol ac amwynder.

(2) Nid yw'r ddyletswydd ym mharagraff (1) yn gymwys i swyddogaethau rheoli llygredd y Corff nac i'w swyddogaethau o dan Ddeddf Coedwigaeth 1967.

(3) Wrth arfer ei swyddogaethau rheoli llygredd, rhaid i'r Corff roi sylw i ba mor ddymunol yw cadwraeth natur a chadwraeth a gwelliant harddwch naturiol ac amwynder.

(4) Mae adran 1(3A) o Ddeddf Coedwigaeth 1967(1) yn gwneud darpariaeth ynghylch y cydbwysedd rhwng cadwraeth natur a materion eraill y mae'n rhaid i'r Corff ymdrechu i'w cyflawni wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf honno.

5B  Wrth arfer unrhyw swyddogaeth sy'n ymwneud â chadwraeth natur, rhaid i'r Corff roi sylw i newidiadau ecolegol gwirioneddol neu bosibl.

Dyletswyddau mynediad a hamdden

5C.(1) Rhaid i'r Corff arfer ei swyddogaethau mewn modd sy'n hyrwyddo darpariaeth a gwelliant cyfleoedd—

(a)i fynd i gefn gwlad a mannau agored a'u mwynhau;

(b)at hamdden awyr agored; ac

(c)i astudio, deall a mwynhau'r amgylchedd naturiol.

(2) Nid yw'r ddyletswydd ym mharagraff (1) yn gymwys i swyddogaethau rheoli llygredd y Corff.

(3) Wrth arfer ei swyddogaethau rheoli llygredd, rhaid i'r Corff roi sylw i ba mor ddymunol yw parhau i sicrhau bod cyfleoedd presennol o'r mathau a grybwyllir ym mharagraff (1) ar gael i'r cyhoedd.

(4) Mae adran 2 o Ddeddf Cefn Gwlad 1968(2) yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch dyletswyddau'r Corff sy'n ymwneud â chyfleusterau ar gyfer mwynhau cefn gwlad, cadwraeth a gwelliant harddwch naturiol ac amwynder cefn gwlad, a mynediad y cyhoedd i gefn gwlad at hamdden.

Dyletswyddau o ran safleoedd hanesyddol

5D  Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i'r Corff roi sylw i'r canlynol—

(a)pa mor ddymunol yw gwarchod a chadw adeiladau, adeileddau, safleoedd a gwrthrychau o ddiddordeb archaeolegol, pensaernïol, peirianegol neu hanesyddol;

(b)pa mor ddymunol yw sicrhau bod unrhyw gyfleuster at ymweld ag unrhyw adeilad, adeiledd, safle neu wrthrych o'r fath neu eu harolygu yn parhau ar gael i'r cyhoedd, i'r graddau y mae'n gyson ag is-baragraff (a) ac erthygl 5A.

Dyletswyddau o ran llesiant

5E  Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i'r Corff roi sylw i'r canlynol—

(a)iechyd a llesiant cymdeithasol unigolion a chymunedau;

(b)llesiant economaidd unigolion, busnesau a chymunedau.

Dyletswyddau Gweinidogion Cymru o ran cynigion sy'n ymwneud â swyddogaethau'r Corff

5F.(1) Mae'r dyletswyddau yn erthyglau 5A i 5E yn gymwys i Weinidogion Cymru wrth iddynt lunio neu ystyried unrhyw gynigion sy'n ymwneud â swyddogaethau'r Corff, fel y maent yn gymwys i'r Corff wrth iddo arfer y swyddogaethau hynny.

(2) Ond nid yw'r ddyletswydd yn erthygl 5A(1) yn gymwys i Weinidogion Cymru wrth iddynt lunio neu ystyried cynigion o'r fath ond i'r graddau y mae'r ddyletswydd yn gyson â'r canlynol—

(a)yr amcan o sicrhau datblygu cynaliadwy; a

(b)dyletswyddau Gweinidogion Cymru o dan adran 2 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(3).

Hamdden o ran dŵr a thir cysylltiedig

5G.(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys pan fo gan y Corff hawliau i ddefnyddio dŵr neu dir sy'n gysylltiedig â dŵr.

(2) Rhaid i'r Corff gymryd camau priodol i sicrhau bod yr hawliau hynny'n cael eu harfer mewn modd sy'n sicrhau bod y dŵr neu'r tir—

(a)ar gael at ddibenion hamdden; a

(b)ar gael yn y modd gorau.

(3) Ym mharagraff (2), ystyr “camau priodol” (“appropriate steps”) yw camau—

(a)sy'n rhesymol ymarferol; a

(b)sy'n gyson â darpariaethau unrhyw ddeddfiad sy'n ymwneud â swyddogaethau'r Corff.

(4) Rhaid i'r Corff sicrhau cydsyniad unrhyw awdurdod mordwyo, awdurdod harbwr neu awdurdod cadwraeth cyn gwneud dim o dan baragraff (1) sy'n peri rhwystr i'r mordwyo sydd o dan reolaeth yr awdurdod hwnnw, neu ymyrraeth arall â'r mordwyo hwnnw.

(5) Mae adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(4) yn gwneud darpariaeth gyffredinol bellach ynghylch swyddogaethau'r Corff o ran dŵr.

Darparu cyfleusterau at hamdden a dibenion eraill

5H.(1) Caiff y Corff ddarparu, neu wneud trefniadau i ddarparu, cyfleusterau at y dibenion a bennir ym mharagraff (2) ar unrhyw dir sy'n perthyn iddo, y mae'n ei ddefnyddio neu'n ei reoli, neu a drefnir at ei ddefnydd gan Weinidogion Cymru.

(2) Dyma'r dibenion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—

(a)twristiaeth a mwynhau cefn gwlad a mannau agored;

(b)hamdden a chwaraeon;

(c)astudio, deall a mwynhau'r amgylchedd naturiol.

(3) Ym mharagraff (1), mae “cyfleusterau” (“facilities”) yn cynnwys, heb gyfyngiad—

(a)llety i ymwelwyr, safleoedd gwersylla a safleoedd carafannau;

(b)safleoedd picnic a mannau ar gyfer prydau a lluniaeth;

(c)mannau i fwynhau golygfeydd a mannau parcio;

(d)llwybrau ar gyfer cerdded, beicio neu astudio'r amgylchedd naturiol;

(e)canolfannau addysg, canolfannau arddangos a gwybodaeth;

(f)siopau mewn cysylltiad ag unrhyw rai o'r cyfleusterau a grybwyllwyd ym mharagraffau (a) i (e);

(g)cyfleusterau cyhoeddus.

5I  Mae pŵer Gweinidogion Cymru o dan adran 39 o Ddeddf Coedwigaeth 1967(5) i gaffael tir yn cynnwys pŵer i gaffael tir yn agos at dir sydd wedi ei drefnu ganddynt at ddefnydd y Corff yn unol ag adran 3 o'r Ddeddf honno pan fo'n ymddangos i Weinidogion Cymru fod y tir y bwriedir ei gaffael yn ofynnol yn rhesymol er mwyn darparu'r cyfleusterau a grybwyllwyd yn erthygl 5H.

5J  Mae pŵer Gweinidogion Cymru i wneud is-ddeddfau o dan adran 46 o Ddeddf Coedwigaeth 1967 yn cynnwys pŵer i wneud is-ddeddfau—

(a)i reoleiddio defnyddio rhesymol ar gyfleusterau a ddarperir o dan erthygl 5H, a

(b)o ran unrhyw fater a ddisgrifir yn adran 41(3) o Ddeddf Cefn Gwlad 1968(6).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 1.4.2013, gweler ergl. 1(2)

(1)

1967 p. 10. Mewnosodwyd adran 1(3A) gan adran 4 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Diwygio) 1985 (p. 31).

(2)

1968 p. 41. Cafwyd nifer o ddiwygiadau i adran 2, gan gynnwys y rhai a wnaed gan Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (p. 16), Atodlen 11, paragraff 43. Mae Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn gwneud diwygiadau pellach i adran 2.

(3)

1991 p. 56. Cafwyd diwygiadau i adran 2, gan gynnwys yn benodol y rhai a wnaed gan Ddeddf Dŵr 2003 (p. 37), adran 39.

(4)

1995 p. 25. Mae diwygiadau i adran 6 sy'n berthnasol i'r Gorchymyn hwn wedi eu gwneud gan Ddeddf Dŵr 2003 (p. 37), adran 72; Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid Dŵr (Cymru a Lloegr) 2009 (O.S. 2009/463), Atodlen 2, paragraff 9(b); Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (p. 23), adran 230; a Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p. 29), Atodlen 2, paragraffau 51 a 52. Mae Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn gwneud diwygiadau pellach i adran 6.

(5)

1967 p. 10. Gwnaed diwygiadau i adran 39 sy'n berthnasol i'r Gorchymyn hwn gan Orchymyn Deddf yr Alban (Awdurdodau Cyhoeddus Trawsffiniol) (Addasu Swyddogaethau etc.) 1999 (O.S. 1999/1747), Atodlen 12, paragraff 4(1) a (28) i (31).

(6)

1968 p. 41. Cafwyd diwygiadau i ddarpariaethau eraill yn adran 41.