8.—(1) Mae erthygl 9(2) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn is-baragraff (c), ar ôl “ffurfio” mewnosoder “neu gymryd rhan wrth ffurfio”.
(3) Ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—
“(da)gweithredu, neu benodi person i weithredu, fel swyddog i gorff corfforaethol neu fel ymddiriedolwr i ymddiriedolaeth elusennol;”.
(4) Yn is-baragraff (e), ar ôl “rhoddion” mewnosoder “neu gyfraniadau”.