ATODLEN 1SWYDDOGAETHAU CORFF ADNODDAU NATURIOL CYMRU
I11
Mae'r Gorchymyn Sefydlu wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
I22
Yn lle erthygl 2 rhodder—
2
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “cadwraeth natur” (“nature conservation”) yw cadwraeth fflora, ffawna neu nodweddion daearegol neu ffisiograffigol;
mae i “y Corff” (“the Body”) yr ystyr a roddir gan erthygl 3(1);
mae i “parth Cymru” yr ystyr a roddir i “the Welsh zone” gan adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 200610.
mae i “swyddogaethau rheoli llygredd” yr un ystyr ag sydd i “pollution control functions” yn adran 5 o Ddeddf yr Amgylchedd 199511.
I33
Yn erthygl 4(3), hepgorer “(fel y diffinnir “Welsh zone” yn adran 158(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006)”.
I44
Ar ôl erthygl 5 mewnosoder—
Dyletswyddau cadwraeth natur
5A
1
Rhaid i'r Corff arfer ei swyddogaethau mewn modd sy'n hybu cadwraeth natur a chadwraeth a gwelliant harddwch naturiol ac amwynder.
2
Nid yw'r ddyletswydd ym mharagraff (1) yn gymwys i swyddogaethau rheoli llygredd y Corff nac i'w swyddogaethau o dan Ddeddf Coedwigaeth 1967.
3
Wrth arfer ei swyddogaethau rheoli llygredd, rhaid i'r Corff roi sylw i ba mor ddymunol yw cadwraeth natur a chadwraeth a gwelliant harddwch naturiol ac amwynder.
4
Mae adran 1(3A) o Ddeddf Coedwigaeth 196712 yn gwneud darpariaeth ynghylch y cydbwysedd rhwng cadwraeth natur a materion eraill y mae'n rhaid i'r Corff ymdrechu i'w cyflawni wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Ddeddf honno.
5B
Wrth arfer unrhyw swyddogaeth sy'n ymwneud â chadwraeth natur, rhaid i'r Corff roi sylw i newidiadau ecolegol gwirioneddol neu bosibl.
Dyletswyddau mynediad a hamdden5C
1
Rhaid i'r Corff arfer ei swyddogaethau mewn modd sy'n hyrwyddo darpariaeth a gwelliant cyfleoedd—
a
i fynd i gefn gwlad a mannau agored a'u mwynhau;
b
at hamdden awyr agored; ac
c
i astudio, deall a mwynhau'r amgylchedd naturiol.
2
Nid yw'r ddyletswydd ym mharagraff (1) yn gymwys i swyddogaethau rheoli llygredd y Corff.
3
Wrth arfer ei swyddogaethau rheoli llygredd, rhaid i'r Corff roi sylw i ba mor ddymunol yw parhau i sicrhau bod cyfleoedd presennol o'r mathau a grybwyllir ym mharagraff (1) ar gael i'r cyhoedd.
4
Mae adran 2 o Ddeddf Cefn Gwlad 196813 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch dyletswyddau'r Corff sy'n ymwneud â chyfleusterau ar gyfer mwynhau cefn gwlad, cadwraeth a gwelliant harddwch naturiol ac amwynder cefn gwlad, a mynediad y cyhoedd i gefn gwlad at hamdden.
Dyletswyddau o ran safleoedd hanesyddol5D
Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i'r Corff roi sylw i'r canlynol—
a
pa mor ddymunol yw gwarchod a chadw adeiladau, adeileddau, safleoedd a gwrthrychau o ddiddordeb archaeolegol, pensaernïol, peirianegol neu hanesyddol;
b
pa mor ddymunol yw sicrhau bod unrhyw gyfleuster at ymweld ag unrhyw adeilad, adeiledd, safle neu wrthrych o'r fath neu eu harolygu yn parhau ar gael i'r cyhoedd, i'r graddau y mae'n gyson ag is-baragraff (a) ac erthygl 5A.
Dyletswyddau o ran llesiant5E
Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i'r Corff roi sylw i'r canlynol—
a
iechyd a llesiant cymdeithasol unigolion a chymunedau;
b
llesiant economaidd unigolion, busnesau a chymunedau.
Dyletswyddau Gweinidogion Cymru o ran cynigion sy'n ymwneud â swyddogaethau'r Corff5F
1
Mae'r dyletswyddau yn erthyglau 5A i 5E yn gymwys i Weinidogion Cymru wrth iddynt lunio neu ystyried unrhyw gynigion sy'n ymwneud â swyddogaethau'r Corff, fel y maent yn gymwys i'r Corff wrth iddo arfer y swyddogaethau hynny.
2
Ond nid yw'r ddyletswydd yn erthygl 5A(1) yn gymwys i Weinidogion Cymru wrth iddynt lunio neu ystyried cynigion o'r fath ond i'r graddau y mae'r ddyletswydd yn gyson â'r canlynol—
a
yr amcan o sicrhau datblygu cynaliadwy; a
b
dyletswyddau Gweinidogion Cymru o dan adran 2 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 199114.
Hamdden o ran dŵr a thir cysylltiedig5G
1
Mae'r erthygl hon yn gymwys pan fo gan y Corff hawliau i ddefnyddio dŵr neu dir sy'n gysylltiedig â dŵr.
2
Rhaid i'r Corff gymryd camau priodol i sicrhau bod yr hawliau hynny'n cael eu harfer mewn modd sy'n sicrhau bod y dŵr neu'r tir—
a
ar gael at ddibenion hamdden; a
b
ar gael yn y modd gorau.
3
Ym mharagraff (2), ystyr “camau priodol” (“appropriate steps”) yw camau—
a
sy'n rhesymol ymarferol; a
b
sy'n gyson â darpariaethau unrhyw ddeddfiad sy'n ymwneud â swyddogaethau'r Corff.
4
Rhaid i'r Corff sicrhau cydsyniad unrhyw awdurdod mordwyo, awdurdod harbwr neu awdurdod cadwraeth cyn gwneud dim o dan baragraff (1) sy'n peri rhwystr i'r mordwyo sydd o dan reolaeth yr awdurdod hwnnw, neu ymyrraeth arall â'r mordwyo hwnnw.
5
Mae adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd 199515 yn gwneud darpariaeth gyffredinol bellach ynghylch swyddogaethau'r Corff o ran dŵr.
Darparu cyfleusterau at hamdden a dibenion eraill
5H
1
Caiff y Corff ddarparu, neu wneud trefniadau i ddarparu, cyfleusterau at y dibenion a bennir ym mharagraff (2) ar unrhyw dir sy'n perthyn iddo, y mae'n ei ddefnyddio neu'n ei reoli, neu a drefnir at ei ddefnydd gan Weinidogion Cymru.
2
Dyma'r dibenion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—
a
twristiaeth a mwynhau cefn gwlad a mannau agored;
b
hamdden a chwaraeon;
c
astudio, deall a mwynhau'r amgylchedd naturiol.
3
Ym mharagraff (1), mae “cyfleusterau” (“facilities”) yn cynnwys, heb gyfyngiad—
a
llety i ymwelwyr, safleoedd gwersylla a safleoedd carafannau;
b
safleoedd picnic a mannau ar gyfer prydau a lluniaeth;
c
mannau i fwynhau golygfeydd a mannau parcio;
d
llwybrau ar gyfer cerdded, beicio neu astudio'r amgylchedd naturiol;
e
canolfannau addysg, canolfannau arddangos a gwybodaeth;
f
siopau mewn cysylltiad ag unrhyw rai o'r cyfleusterau a grybwyllwyd ym mharagraffau (a) i (e);
g
cyfleusterau cyhoeddus.
5I
Mae pŵer Gweinidogion Cymru o dan adran 39 o Ddeddf Coedwigaeth 196716 i gaffael tir yn cynnwys pŵer i gaffael tir yn agos at dir sydd wedi ei drefnu ganddynt at ddefnydd y Corff yn unol ag adran 3 o'r Ddeddf honno pan fo'n ymddangos i Weinidogion Cymru fod y tir y bwriedir ei gaffael yn ofynnol yn rhesymol er mwyn darparu'r cyfleusterau a grybwyllwyd yn erthygl 5H.
5J
Mae pŵer Gweinidogion Cymru i wneud is-ddeddfau o dan adran 46 o Ddeddf Coedwigaeth 1967 yn cynnwys pŵer i wneud is-ddeddfau—
a
i reoleiddio defnyddio rhesymol ar gyfleusterau a ddarperir o dan erthygl 5H, a
b
o ran unrhyw fater a ddisgrifir yn adran 41(3) o Ddeddf Cefn Gwlad 196817.
I55
Hepgorer erthyglau 6 a 7.
I66
1
Mae erthygl 8 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Ym mharagraff (3), yn lle “Mae'r dyletswyddau ym mharagraffau (1) a (2) yn gymwys oni bai, neu i'r graddau, ei bod yn afresymol” rhodder “Nid yw'r dyletswyddau ym mharagraffau (1) a (2) yn gymwys os yw'n afresymol, neu i'r graddau y mae'n afresymol”.
3
Ar ôl paragraff (4) mewnosoder—
5
At ddibenion yr erthygl hon, mae costau yn cynnwys costau—
a
i unrhyw berson; a
b
i'r amgylchedd.
I77
Ar ôl erthygl 8 mewnosoder—
Cydweithredu ag Asiantaeth yr Amgylchedd8A
Rhaid i'r Corff gydweithredu ag Asiantaeth yr Amgylchedd, a chydlynu ei weithgareddau yntau â gweithgareddau Asiantaeth yr Amgylchedd, fel y bo'n briodol o dan yr amgylchiadau.
I88
1
Mae erthygl 9(2) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Yn is-baragraff (c), ar ôl “ffurfio” mewnosoder “neu gymryd rhan wrth ffurfio”.
3
Ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—
da
gweithredu, neu benodi person i weithredu, fel swyddog i gorff corfforaethol neu fel ymddiriedolwr i ymddiriedolaeth elusennol;
4
Yn is-baragraff (e), ar ôl “rhoddion” mewnosoder “neu gyfraniadau”.
I99
Ar ôl erthygl 9 mewnosoder—
Pŵer i ymrwymo i gytundebau ag awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus9A
1
Heb ragfarnu cyffredinolrwydd y pwerau a roddir gan erthygl 9, mae'r Corff i'w drin fel awdurdod lleol ac fel corff cyhoeddus at ddibenion darpariaethau Deddf Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) 197018, ac eithrio adran 2(2).
2
Ond ni chaiff y Corff, o dan adran 1 o'r Ddeddf honno, wneud trefniadau a allai gael eu gwneud o dan adran 28(1) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 201119.
I1010
1
Mae erthygl 10 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Daw'r ddarpariaeth bresennol yn baragraff (1).
3
Ar ôl paragraff (1) mewnosoder—
2
Caiff y Corff gynghori Gweinidogion Cymru ynghylch datblygu a gweithredu polisïau ar gyfer unrhyw fater neu mewn perthynas ag unrhyw fater y mae'r Corff yn arfer swyddogaethau mewn perthynas ag ef, p'un a ofynnwyd iddo wneud hynny neu beidio.
I1111
Ar ôl erthygl 10 mewnosoder—
Cyngor a chymorth i eraill10A
1
Caiff y Corff roi cyngor neu gymorth, gan gynnwys cyfleusterau hyfforddi, i unrhyw berson ar unrhyw fater y mae gan y Corff wybodaeth, sgiliau neu brofiad ynddo.
2
Rhaid i'r pŵer a roddir gan baragraff (1) beidio â chael ei arfer pan fo'r person y rhoddir y cyngor neu'r cymorth iddo y tu allan i Gymru, ac eithrio—
a
yn unol â phŵer neu ddyletswydd a roddir neu a osodir gan y deddfiad hwn neu unrhyw ddeddfiad arall;
b
â chydsyniad ysgrifenedig Gweinidogion Cymru; neu
c
yn unol â threfniadau a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru.
3
Caiff Gweinidogion Cymru osod amodau wrth roi cydsyniad neu wrth gymeradwyo trefniadau o dan baragraff (2).
Cymorth ariannol10B
1
Caiff y Corff roi cymorth ariannol i unrhyw berson mewn perthynas ag unrhyw wariant a ysgwyddwyd neu a ysgwyddir gan y person hwnnw wrth wneud unrhyw beth y mae'r Corff o'r farn ei fod yn gydnaws â chyrraedd unrhyw amcan y mae'r Corff yn ceisio ei gyrraedd wrth arfer ei swyddogaethau.
2
Caiff y Corff roi cymorth ariannol o dan yr erthygl hon ar ffurf grant neu fenthyciad (neu yn rhannol yn y naill ffordd ac yn rhannol yn y llall).
3
Caiff y Corff osod amodau ar gymorth ariannol o dan yr erthygl hon, a all gynnwys (heb gyfyngiad) amodau sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r cyfan neu ran o unrhyw grant gael ei ad-dalu neu ei had-dalu o dan amgylchiadau penodedig.
4
Rhaid i'r Corff arfer y pŵer ym mharagraff (3) mewn modd sy'n sicrhau bod unrhyw berson sy'n cael cymorth ariannol mewn perthynas â mangre y mae'r cyhoedd i'w dderbyn iddi (am dâl neu fel arall) yn gwneud darpariaeth briodol at anghenion aelodau o'r cyhoedd sydd ag anableddau.
5
Ym mharagraff (4), ystyr “darpariaeth briodol” (“appropriate provision”) yw unrhyw ddarpariaeth ar gyfer—
a
mynedfeydd i'r fangre neu ynddi; a
b
y cyfleusterau parcio a'r cyfleusterau glanweithiol sydd i fod ar gael (os oes rhai i fod ar gael),
sy'n ymarferol ac yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.
6
Dim ond gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru (sef cydsyniad a all fod yn benodol neu'n gyffredinol) neu yn unol â threfniadau a gymeradwyir ganddynt y caiff y Corff roi cymorth ariannol o dan yr erthygl hon.
Ymchwil10C
1
Rhaid i'r Corff wneud trefniadau i gyflawni gweithgareddau ymchwil mewn perthynas â materion sy'n berthnasol i unrhyw rai o'i swyddogaethau.
2
Caiff y Corff—
a
cyflawni gweithgareddau ymchwil ei hun neu ar y cyd â phersonau eraill;
b
comisiynu neu gefnogi gweithgareddau ymchwil (boed drwy gyfrwng arian neu fel arall).
3
Wrth arfer ei swyddogaethau o dan yr erthygl hon mewn perthynas ag ymchwil ar gadwraeth natur, rhaid i'r Corff roi sylw i unrhyw safonau cyffredin a sefydlwyd o dan adran 34(2)(c) o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 200620.
4
Yn yr erthygl hon—
a
ystyr “gweithgareddau ymchwil” (“research activities”) yw gweithgareddau ymchwil a gweithgareddau perthynol;
b
mae “gweithgareddau cysylltiedig” (“related activities”) yn cynnwys, heb gyfyngiad, gwneud arbrofion ac ymholiadau a chasglu ystadegau a gwybodaeth.
Darpariaeth bellach ynghylch cyngor, cymorth ac ymchwil10D
Mae'r swyddogaethau a roddir gan erthyglau 10 i 10C yn arferadwy o ran Cymru a pharth Cymru.
Achosion troseddol10E
1
Caiff y Corff ddwyn achosion troseddol yng Nghymru a Lloegr.
2
Caiff y Corff awdurdodi personau i erlyn ar ei ran mewn achosion gerbron llysoedd ynadon yng Nghymru a Lloegr.
3
Mae gan berson a awdurdodwyd felly hawl i erlyn mewn achosion o'r fath er nad yw'r person hwnnw'n fargyfreithiwr neu'n gyfreithiwr.
I1212
Yn erthygl 11, yn lle paragraffau (2) i (4) rhodder—
2
Caniateir i'r pŵer ym mharagraff (1) gael ei arfer hefyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol er mwyn cyfarwyddo'r Corff o ran arfer ei swyddogaethau trosglwyddedig perthnasol—
a
os byddai'r cyfarwyddyd yn cael unrhyw effaith yn Lloegr; neu
b
os yw'r cyfarwyddyd yn ymwneud â rheoli adnoddau dŵr, cyflenwi dŵr, afonydd neu gyrsiau dŵr eraill, rheoli llygredd mewn adnoddau dŵr, carthffosiaeth neu ddraenio tir, ac y byddai iddo unrhyw effaith yn nalgylchoedd afonydd Dyfrdwy, Gwy a Hafren.
3
Caiff Gweinidogion Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol roi cyfarwyddiadau cyffredinol neu benodol i'r Corff i weithredu unrhyw rwymedigaeth UE neu rwymedigaeth ryngwladol sydd gan y Deyrnas Unedig.
4
Ac eithrio mewn argyfwng, dim ond ar ôl ymgynghori â'r Corff y caniateir arfer y pŵer i roi cyfarwyddyd o dan yr erthygl hon.
5
Dim ond ar ôl ymgynghori â'r Ysgrifennydd Gwladol y caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd sy'n dod o fewn paragraff (2).
6
Dim ond ar ôl ymgynghori â Gweinidogion Cymru y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol roi cyfarwyddyd o dan yr erthygl hon.
7
Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol i roi cyfarwyddiadau i'r Corff o dan unrhyw ddeddfiad arall heb ragfarn i'w pwerau i roi cyfarwyddiadau o dan yr erthygl hon.
8
Yn yr erthygl hon, ystyr “swyddogaethau trosglwyddedig perthnasol” (“relevant transferred functions”) yw unrhyw swyddogaethau—
a
a oedd yn arferadwy gan Asiantaeth yr Amgylchedd cyn 1 Ebrill 2013; a
b
sy'n swyddogaethau i'r Corff yn rhinwedd Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013,
ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (9).
9
At ddibenion y diffiniad o “swyddogaethau trosglwyddedig perthnasol” (“relevant transferred functions”)—
a
yr oedd swyddogaeth i Asiantaeth yr Amgylchedd yn arferadwy cyn 1 Ebrill 2013 p'un a oedd y deddfiad sy'n ei rhoi wedi dod i rym cyn y dyddiad hwnnw neu beidio; ond
b
dim ond pan fydd y deddfiad sy'n rhoi'r swyddogaeth wedi dod i rym y bydd swyddogaeth yn swyddogaeth drosglwyddedig berthnasol.
I1313
Ar ôl erthygl 11 mewnosoder—
Darpariaethau pellach ynghylch cyfarwyddiadau11A
1
Rhaid i gyfarwyddyd o dan erthygl 11 fod yn ysgrifenedig.
2
Rhaid i Weinidogion Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol (yn ôl y digwydd) gyhoeddi unrhyw gyfarwyddyd a roddir i'r Corff—
a
o dan erthygl 11;
b
o dan unrhyw ddeddfiad arall er mwyn gweithredu unrhyw rwymedigaeth UE neu rwymedigaeth ryngwladol sydd gan y Deyrnas Unedig,
cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl rhoi'r cyfarwyddyd, a rhaid iddynt drefnu bod copïau ar gael os gwneir cais amdanynt.
3
Mae'r pŵer i roi cyfarwyddiadau o dan erthygl 11 yn cynnwys pŵer i amrywio'r cyfarwyddiadau neu eu dirymu.
4
Os bydd Gweinidogion Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol yn amrywio neu'n dirymu unrhyw gyfarwyddyd a roddir i'r Corff er mwyn gweithredu unrhyw rwymedigaeth UE sydd gan y Deyrnas Unedig (boed o dan erthygl 11 ynteu o dan unrhyw ddeddfiad arall), rhaid iddynt—
a
cyhoeddi'r amrywiad neu'r dirymiad cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol;
b
trefnu bod copïau o'r amrywiad neu'r dirymiad ar gael os gwneir cais amdanynt.
5
Rhaid i'r Corff ac unrhyw berson sy'n arfer swyddogaethau'r Corff gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir i'r Corff o dan erthygl 11 neu unrhyw ddeddfiad arall.
6
Wrth benderfynu—
a
ar unrhyw apêl yn erbyn penderfyniad gan y Corff, neu atgyfeiriad neu adolygiad ar benderfyniad gan y Corff, neu
b
ar unrhyw gais a drosglwyddir o'r Corff,
mae'r person sy'n gwneud y penderfyniad wedi ei rwymo gan unrhyw gyfarwyddyd a roddwyd i'r Corff o dan erthygl 11 neu unrhyw ddeddfiad arall i'r un graddau â'r Corff.
I1414
Ar ddiwedd erthygl 12 mewnosoder—
3
Mae'r amodau y caniateir eu gosod yn cynnwys, heb gyfyngiad, amodau o ran defnyddio'r arian at ddibenion y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur.
I1515
Ar ôl erthygl 12 mewnosoder—
Pŵer i godi tâl12A
1
Caiff y Corff—
a
codi tâl am y gwaith y mae'n ei wneud ac am nwyddau, gwasanaethau a chyfleusterau y mae'n eu darparu;
b
caniatáu i berson arall godi taliadau, ar unrhyw delerau sy'n addas ym marn y Corff, am gyfleusterau y mae'r person hwnnw yn eu darparu o dan drefniadau a wnaed o dan erthygl 5H.
2
Caiff unrhyw drefniant rhwng y Corff a pherson arall a wneir yn unol â pharagraff (1), â chydsyniad Gweinidogion Cymru, gynnwys darpariaeth ynglŷn â rhannu elw.
3
Mae'r pwerau a roddir gan yr erthygl hon yn ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiad penodol ar godi tâl gan y Corff mewn achosion penodol neu gategorïau o achos a gynhwysir yn y deddfiad hwn neu mewn unrhyw ddeddfiad arall.
I1616
Ar ddiwedd erthygl 13 mewnosoder—
8
Mae'r erthygl hon yn ddarostyngedig i adran 118 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 199121.
I1717
Ar ôl erthygl 13 mewnosoder—
Incwm o goedwigaeth13A
1
Rhaid i'r Corff wario pob swm y mae'n ei gael am werthu neu am waredu mewn modd arall goed neu gynhyrchion coedwigaeth eraill ar arfer ei swyddogaethau sy'n ymwneud â choedwigaeth, fforestydd, coedwigoedd a diwydiannau coetir.
2
Mae'r erthygl hon yn ddarostyngedig i unrhyw benderfyniad neu gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 13.
I1818
Ar ôl erthygl 15 mewnosoder—
RHAN 4 —GWYBODAETH AM BENDERFYNIADAU YNGHYLCH HAWLENNI
Dehongli16
Yn y Rhan hon—
ystyr “hawlen” (“permit”) yw unrhyw gofrestriad, esemptiad, cymeradwyaeth, caniatâd, trwydded, cydsyniad, cydnabyddiaeth neu awdurdodiad arall, sut bynnag y'i disgrifir;
ystyr “penderfyniad ynghylch hawlenni” (“permitting decision”) yw unrhyw benderfyniad—
- a
i roi neu i wrthod cais am hawlen;
- b
i atal, amrywio neu ddirymu hawlen.
Cynlluniau cyhoeddi gwybodaeth17
1
Rhaid i'r Corff—
a
datblygu, mabwysiadu a chynnal cynllun (y cyfeirir ato yn yr erthygl hon fel “cynllun cyhoeddi”) ynglŷn â chyhoeddi gwybodaeth am y canlynol—
i
ceisiadau am hawlenni a wneir i'r Corff; a
ii
penderfyniadau ynghylch hawlenni a wneir gan y Corff;
b
cyhoeddi gwybodaeth yn unol â'i gynllun cyhoeddi;
c
adolygu ei gynllun cyhoeddi o dro i dro.
2
Rhaid i gynllun cyhoeddi—
a
pennu dosbarthiadau o wybodaeth y mae'r Corff yn eu cyhoeddi neu'n bwriadu eu cyhoeddi, y mae'n rhaid iddynt gynnwys gwybodaeth am bob cais am hawlen a wneir gan y Corff mewn achosion lle mae'r Corff yn gyfrifol am benderfynu ar y cais;
b
pennu ym mha fodd y cyhoeddir, neu y bwriedir cyhoeddi, yr wybodaeth ym mhob dosbarth, ac o fewn pa gyfnod amser;
c
pennu a yw'r deunyddiau ar gael, neu a fwriedir iddynt fod ar gael, i'r cyhoedd yn ddi-dâl.
3
Wrth ddatblygu, mabwysiadu neu adolygu cynllun cyhoeddi, rhaid i'r Corff—
a
ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae'n ystyried eu bod yn briodol;
b
rhoi sylw i'r buddiant cyhoeddus yn y canlynol—
i
caniatáu i'r cyhoedd fynediad at wybodaeth sydd gan y Corff; a
ii
cyhoeddi gwybodaeth am geisiadau am hawlenni a wnaed i'r Corff a phenderfyniadau ynghylch hawlenni a wnaed gan y Corff.
4
Rhaid i gynllun cyhoeddi gael ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.
5
Os bydd Gweinidogion Cymru yn gwrthod cymeradwyo cynllun cyhoeddi arfaethedig rhaid iddynt roi datganiad o'u rhesymau dros wrthod gwneud hynny i'r Corff.
6
Rhaid i'r Corff gyhoeddi ei gynllun cyhoeddi ar ei wefan a threfnu bod copïau o'r cynllun ar gael os gwneir cais amdanynt.
7
Mae'r erthygl hon heb ragfarn i unrhyw bŵer neu ddyletswydd arall sydd gan y Corff i gyhoeddi gwybodaeth neu i'w datgelu.
Hysbysiadau i Weinidogion Cymru ynghylch hunan-ganiatáu hawlenni18
1
Mae'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw gais am hawlen y mae'r cyfan o'r amodau a ganlyn wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef—
a
y Corff yw'r ymgeisydd;
b
y Corff sy'n gyfrifol am benderfynu ar y cais;
c
y caniateir i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd i'r cais gael ei gyfeirio atynt hwy i gael ei benderfynu.
2
Rhaid i'r Corff hysbysu Gweinidogion Cymru am y cais ar yr adeg pan fydd yn gwneud y cais.
I1919
1
Mae'r Atodlen wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Cyn paragraff 1 mewnosoder—
DehongliA1
Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at gyflogeion i'r Corff yn cynnwys personau a secondiwyd i'r Corff.
3
Ym mharagraff 1(2), yn lle “Nid” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff 1A, nid”.
4
Ar ôl paragraff 1 mewnosoder—
Statws o ran gwarchodfeydd natur1A
1
Mae'r paragraff hwn yn gymwys i dir y mae gan y Corff fuddiant ynddo ac sy'n cael ei reoli fel gwarchodfa natur.
2
At ddibenion cymhwyso unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol at y tir, mae'r Corff i'w drin fel adran o'r llywodraeth.
3
Mae buddiant mewn tir yn cynnwys unrhyw ystâd mewn tir ac unrhyw hawl dros dir, p'un a yw'r hawl yn arferadwy yn rhinwedd y berchnogaeth ar fuddiant yn y tir ynteu yn rhinwedd trwydded neu gytundeb.
5
Ym mharagraff 2(1)(d), hepgorer “llai na 2 na dim”.
6
Hepgorer paragraffau 3 a 4.
7
Ym mharagraff 5, yn lle “baragraff 4(3) (pan fo'n gymwys) a pharagraffau” rhodder “baragraffau”.