ATODLEN 2DEDDFAU SENEDDOL
RHAN 1Deddfau Cyffredinol Cyhoeddus
Deddf Ystadegau Masnach 1947 (p. 39)I12
1
Mae adran 9A o Ddeddf Ystadegau Masnach 1947 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Yn is-adran (1)—
a
ym mharagraff (a), ar ôl “the Environment Agency” mewnosoder “, the Natural Resources Body for Wales”;
b
ym mharagraff (b), yn lle “either of those Agencies authorised by that Agency” rhodder “any of those bodies authorised by that body”.
3
Yn is-adran (2), yn lle “Agency” rhodder “body”.