ATODLEN 2DEDDFAU SENEDDOL

RHAN 1Deddfau Cyffredinol Cyhoeddus

Deddf Adnoddau Dŵr 1991 (p. 57)284

1

Mae adran 165 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Yn is-adrannau (1), (1A), (2) a (3), yn lle “Agency” rhodder “appropriate agency”.

3

Yn is-adran (4)—

a

ar ôl “Agency”, ym mhob man lle y mae'n digwydd, mewnosoder “or the NRBW”;

b

ar ôl “(grants to the new Agencies)” mewnosoder “or article 12 of the Natural Resources Body for Wales (Establishment) Order 2012 (grants to the NRBW) (S.I. 2012/1903)”.

4

Yn is-adran (5), ar ôl “Agency”, ym mhob man lle y mae'n digwydd, mewnosoder “or the NRBW”.