xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2DEDDFAU SENEDDOL

RHAN 1Deddfau Cyffredinol Cyhoeddus

Deddf Adnoddau Dŵr 1991 (p. 57)

311.  Yn y darpariaethau a ganlyn, yn lle “Agency” ac “Agency's”, ym mhob man lle y maent yn digwydd, rhodder “appropriate agency” ac “appropriate agency's” yn eu tro—

(a)paragraffau 1 i 3 o Atodlen 11;

(b)paragraffau 1 a 2 o Atodlen 14 (gan gynnwys pennawd yr Atodlen honno);

(c)paragraffau 1 i 6 a 9 i 13 o Atodlen 15;

(d)paragraffau 1 i 3 o Atodlen 16;

(e)paragraffau 1 i 5, 7 ac 8 o Atodlen 19.