Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013

Erthygl 4(1)

ATODLEN 3MESURAU'R CYNULLIAD

Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (mccc 1)

1.  Yn adran 6(1)(f) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, yn lle “Cyngor Cefn Gwlad Cymru” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.

Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 (mccc 8)

2.  Yn adrannau 8(1)(a), 11(1)(a) ac 16(1)(a) o Fesur Gwastraff (Cymru) 2010, yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1)

3.—(1Yn Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, mae'r tabl wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Hepgorer y cofnod sy'n ymwneud â Chyngor Cefn Gwlad Cymru.

(3Yn y man priodol, mewnosoder—

Corff Adnoddau Naturiol Cymru (“The Natural Resources Body for Wales”)Safonau cyflenwi gwasanaethau
Safonau llunio polisi
Safonau gweithredu
Safonau cadw cofnodion.