ATODLEN 4OFFERYNNAU STATUDOL Y DU

Rheoliadau'r Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2003179

1

Mae rheoliad 10 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn lle “Agency”, ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “appropriate agency”.

3

Ym mharagraff (2)(b)—

a

yn lle “it thinks fit” rhodder “the appropriate agency thinks fit”;

b

ym mharagraff (i), yn lle “its proposals” rhodder “the appropriate agency’s proposals”;

c

ym mharagraff (ii), yn lle “its draft proposals” rhodder “the appropriate agency’s draft proposals”.