ATODLEN 4OFFERYNNAU STATUDOL Y DU

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005

213.—(1Mae erthygl 7 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraffau (1), (2) a (3), yn lle “Great Britain”, ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “a relevant territory”.

(3Ym mharagraff (6)—

(a)yn is-baragraff (a), yn lle “Great Britain” rhodder “a relevant territory”;

(b)yn is-baragraff (b)—

(i)yn lle “Great Britain”, yn y man cyntaf lle y mae'n digwydd, rhodder “a relevant territory”;

(ii)yn lle “Great Britain”, yn yr ail fan lle y mae'n digwydd, rhodder “that relevant territory”.