412.—(1) Yn Atodlen 1 i Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Newid a Dirymu Gorchmynion Caniatâd Datblygu) 2011(1), mae'r Tabl wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y cofnod ar gyfer Asiantaeth yr Amgylchedd, yng ngholofnau 2 a 3, hepgorer “and/or Wales”.
(3) Yng ngholofn 1, yn lle “The Countryside Council for Wales” rhodder “The Natural Resources Body for Wales”.
(4) Yn y cofnod ar gyfer Comisiwn Coedwigaeth, yng ngholofnau 2 a 3, ar ôl “forests and woodlands” mewnosoder “in England or Scotland”.
(5) Ar ôl y cofnod ar gyfer y Comisiwn Coedwigaeth, mewnosoder cofnod newydd—
“The Natural Resources Body for Wales | All proposed applications likely to affect the protection or expansion of forests and woodlands in Wales | All applications likely to affect the protection or expansion of forests and woodlands in Wales”. |
O.S. 2011/2055 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2012/635, O.S. 2012/2654, O.S. 2012/2732; addaswyd gan O.S. 2012/1659.