ATODLEN 5OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU

Erthygl 4(2)

Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Mapiau Drafft) (Cymru) 2001

1

Mae Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Mapiau Drafft) (Cymru) 2001143 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

1

Mae rheoliad 2(1) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Hepgorer y diffiniad o “y Cyngor”.

3

Yn y man priodol, mewnosoder—

  • ystyr “CANC” (“the NRBW”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;

4

Yn lle “y Cyngor”, ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “CANC”.

3

Yn rheoliadau 3 i 7, yn lle “y Cyngor”, ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “CANC”.

4

Yn Atodlen 1, ar ôl “Y Comisiwn Coedwigaeth” mewnosoder “(os oes gan dir sydd wedi ei gynnwys mewn map drafft ffin â Lloegr)”.

Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) 2001

5

Mae Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) 2001144 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

6

Yn rheoliadau 10(2)(ch) a 15(9), yn lle “Gyngor Cefn Gwlad Cymru” rhodder “Gorff Adnoddau Naturiol Cymru”.

7

1

Mae rheoliad 17 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn is-baragraff (a), yn lle “Cyngor Cefn Gwlad Cymru (y Cyngor)” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru (CANC)”.

3

Yn is-baragraffau (b) ac (c), yn lle “y Cyngor”, ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “CANC”.

Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Apelau) (Cymru) 2002

8

Mae Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Apelau) (Cymru) 2002145 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

9

1

Mae rheoliad 2 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Ym mharagraff (1)—

a

hepgorer y diffiniad o “y Cyngor”;

b

yn y man priodol mewnosoder—

  • ystyr “CANC” (“the NRBW”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;

3

Ym mharagraff (2), yn lle “y Cyngor”, ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “CANC”.

10

Yn rheoliadau 3(e), 6 i 10, 12 i 14, 16 a 19, yn lle “y Cyngor”, ym mhob man lle y mae'n digwydd (gan gynnwys ym mhenawdau rheoliadau 7, 8 a 10), rhodder “CANC”.

Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gweithdrefnau Apelau) (Cymru) 200211

1

Mae rheoliad 2(1) o Reoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gweithdrefnau Apelau) (Cymru) 2002146 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Hepgorer y diffiniad o “y Cyngor”.

3

Yn y man priodol mewnosoder—

  • ystyr “CANC” (“the NRBW”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;

4

Yn lle “y Cyngor”, ym mhob man lle y mae'n digwydd (ac eithrio yn y diffiniad o “y Cyngor”), rhodder “CANC”.

Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Mapiau Dros Dro a Therfynol) (Cymru) 2002

12

Mae Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Mapiau Dros Dro a Therfynol) (Cymru) 2002147 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

13

1

Mae rheoliad 2(1) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Hepgorer y diffiniad o “y Cyngor”.

3

Yn y man priodol, mewnosoder—

  • ystyr “CANC” (“the NRBW”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;

4

Yn lle “y Cyngor”, ym mhob man lle y mae'n digwydd (ac eithrio yn y diffiniad o “y Cyngor”), rhodder “CANC”.

14

Yn rheoliadau 3 i 10, yn lle “y Cyngor” ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “CANC”.

15

Yn Atodlen 1, ar ôl “Asiantaeth yr Amgylchedd” ac “Y Comisiwn Coedwigaeth” mewnosoder “(os oes gan dir sydd wedi ei gynnwys yn y map dros dro neu'r map terfynol ffin â Lloegr)”.

Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 200216

1

Mae rheoliad 13(4) o Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002148 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn is-baragraff (d), yn lle “Cyngor Cefn Gwlad Cymru” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.

3

Hepgorer is-baragraff (dd).

Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Cyflwyno Tir fel Tir Mynediad) (Cymru) 2003

17

Mae Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Cyflwyno Tir fel Tir Mynediad) (Cymru) 2003149 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

18

Yn rheoliad 2(1), hepgorer y diffiniad o “y Cyngor”.

19

1

Mae rheoliad 4(4) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn is-baragraff (b), yn lle “y Cyngor” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.

3

Hepgorer is-baragraff (ch).

Rheoliadau Mynediad i Cefn Gwlad (Gwahardd neu Gyfyngu Mynediad) (Cymru) 2003

20

Mae Rheoliadau Mynediad i Cefn Gwlad (Gwahardd neu Gyfyngu Mynediad) (Cymru) 2003150 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

21

1

Mae rheoliad 2(1) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Hepgorer y diffiniad o “y Cyngor”.

3

Yn y man priodol mewnosoder—

  • ystyr “CANC” (“the NRBW”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;

22

Yn rheoliadau 12(1) a 14(7) a (9), yn lle “y Cyngor”, ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “CANC”.

Rheoliadau Diogelu'r Arfordir (Hysbysiadau) (Cymru) 200323

Yn rheoliad 4(c) o Reoliadau Diogelu'r Arfordir (Hysbysiadau) (Cymru) 2003151, yn lle “Cyngor Cefn Gwlad Cymru” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.

Rheoliadau'r Diwydiant Dŵr (Amodau Rhagnodedig) (Ymgymerwyr yng Nghymru yn Unig neu yn Bennaf) 200424

1

Mae rheoliad 3(3) o Reoliadau'r Diwydiant Dŵr (Amodau Rhagnodedig) (Ymgymerwyr yng Nghymru yn Unig neu yn Bennaf) 2004152 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn lle is-baragraff (b), rhodder—

b

where the determination relates to an area that is the whole or part of an area of a water undertaker whose area is wholly in Wales, the Natural Resources Body for Wales;

3

Yn lle is-baragraff (c), rhodder—

c

where the determination relates to an area that is the whole or part of an area of a water undertaker whose area is partly in Wales and partly in England, the Natural Resources Body for Wales and the Environment Agency;

Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 200425

Yn rheoliad 5 o Reoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004153, yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.

Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 200426

1

Mae rheoliad 4 o Reoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004154 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn lle paragraff (1) rhodder—

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mewn perthynas â phob cynllun neu raglen y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt, mae pob un o'r cyrff canlynol yn gyrff ymgynghori—

a

Corff Adnoddau Naturiol Cymru;

b

Cadw.

3

Ym mharagraff (2), yn lle “corff a grybwyllir ym mharagraff (1)” rhodder “Cadw”.

Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005

27

Mae Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005155 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

28

Yn rheoliad 5(1), yn y man priodol mewnosoder—

  • ystyr “CANC” (“NRBW”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;

29

Yn rheoliad 11, ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

aa

CANC;

30

Yn y darpariaethau a ganlyn, yn lle “Asiantaeth”, ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “CANC”—

a

rheoliad 21(1) a (2);

b

rheoliadau 23 i 28;

c

rheoliad 33(1);

d

rheoliad 42(5)(a) a (6)(b)(ii);

e

rheoliad 47(4)(b);

f

rheoliad 49(5)(a) a (6);

g

rheoliad 51(3) a (4)(b);

h

rheoliad 53;

i

rheoliad 55.

31

Ym mhennawd Rhan 8, yn lle “Swyddogaethau'r Asiantaeth” rhodder “Swyddogaethau CANC”.

32

Yn y darpariaethau a ganlyn, yn lle “yr Asiantaeth”, ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “CANC”—

a

rheoliad 56;

b

rheoliad 58 (gan gynnwys y pennawd);

c

rheoliad 60(1);

d

rheoliadau 62 i 64 (gan gynnwys pennawd rheoliad 63).

33

Yn rheoliad 65A(1), yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “CANC”.

34

Yn rheoliadau 70 a 71(3), yn lle “yr Asiantaeth”, ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “CANC”.

35

1

Mae Atodlen 7 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Ym mharagraff 4—

a

yn is-baragraff (2)(a), yn lle “hysbysu'r Asiantaeth” rhodder “hysbysu CANC”;

b

yn is-baragraff (3)(b), ar ôl “o Ogledd Iwerddon)” mewnosoder “neu'r Asiantaeth (os traddodir y gwastraff o Loegr)”;

c

yn is-baragraff (4)—

i

ar ôl “neu Ogledd Iwerddon” mewnosoder “neu Loegr”;

ii

ar ôl “o Ogledd Iwerddon)” mewnosoder “neu'r Asiantaeth (os traddodir y gwastraff o Loegr)”.

3

Ym mharagraff 5—

a

yn is-baragraff (1), ar ôl “neu Ogledd Iwerddon” mewnosoder “neu Loegr”;

b

yn is-baragraff (2)(a)(i), ar ôl “yng Ngogledd Iwerddon)” mewnosoder “neu'r Asiantaeth (pan fo'r gwastraff i'w draddodi i draddodai yn Lloegr)”.

36

Yn Atodlen 10, yn Ffurf Hysbysiadau Cosbau Penodedig, yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 200537

1

Mae rheoliad 2(1) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2005156 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn y diffiniad o “cyrff ymgynghori penodol”—

a

yn is-baragraff (a), yn lle “Cyngor Cefn Gwlad Cymru” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”;

b

hepgorer is-baragraff (b).

Rheoliadau Tir a Halogwyd yn Ymbelydrol (Addasu Deddfiadau) (Cymru) 200638

Yn rheoliad 18(2)(a) o Reoliadau Tir a Halogwyd yn Ymbelydrol (Addasu Deddfiadau) (Cymru) 2006157, ar ôl “yr Asiantaeth” mewnosoder “, Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.

Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2006

39

Mae Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2006158 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

40

Yn rheoliadau 5(1), 7(1)(l) a 13(3)(b), ac yn Atodlen 3, ym mharagraffau 10(1) a 13, yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” ac “yr Asiantaeth”, ym mhob man lle y maent yn digwydd, rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.

Gorchymyn Rheolaethau ar Gŵn (Heb Fod yn Gymwys i Dir Dynodedig) (Cymru) 200741

1

Yn yr Atodlen i Orchymyn Rheolaethau ar Gŵn (Heb Fod yn Gymwys i Dir Dynodedig) (Cymru) 2007159, mae'r Tabl wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn y disgrifiad cyntaf o dir, yn y golofn gyntaf, yn lle “y Comisiynwyr Coedwigaeth” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.

Rheoliadau Milheintiau (Monitro) (Cymru) 200742

Yn rheoliad 7 o Reoliadau Milheintiau (Monitro) (Cymru) 2007160, yn lle “Chyngor Cefn Gwlad Cymru” rhodder “Chorff Adnoddau Naturiol Cymru”.

Rheoliadau Asesu'r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2007

43

Mae Rheoliadau Asesu'r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2007161 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

44

1

Yn rheoliad 2(1), mae'r diffiniad o “cyrff ymgynghori” wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn is-baragraff (a), yn lle “Cyngor Cefn Gwlad Cymru” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.

3

Hepgorer is-baragraff (b).

45

Yn rheoliad 5(7)(ch), hepgorer “gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru”.

Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2008

46

Mae Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2008162 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

47

1

Mae rheoliad 6 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Hepgorer y diffiniad o “yr Asiantaeth”.

3

Yn y man priodol mewnosoder—

  • ystyr “CANC” (“NRBW”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;

48

Yn rheoliadau 7(1)(a), 8(3) a 13A i 13CH, yn lle “yr Asiantaeth”, ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “CANC”.

49

Yn rheoliad 49, yn lle “yr Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “CANC”.

50

Yn Atodlen 4, ym mharagraff 19(1) a (2), yn lle “i'r Asiantaeth” rhodder “i CANC”.

Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009

51

Mae Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009163 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

52

1

Mae rheoliad 10 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Ym mharagraff (2)—

a

cyn “Asiantaeth yr Amgylchedd”, yn y man cyntaf lle y mae'n ymddangos, mewnosoder “naill ai Corff Adnoddau Naturiol Cymru neu”;

b

yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd”, yn yr ail fan lle y mae'n digwydd, rhodder “Gorff Adnoddau Naturiol Cymru”.

3

Ym mharagraff (3)(b)—

a

ym mharagraff (ii), yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”;

b

ym mharagraff (iii), yn lle “Cyngor Cefn Gwlad Cymru” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.

53

1

Mae rheoliad 11 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn y tabl, yn y drydedd golofn—

a

yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”;

b

yn lle “Cyngor Cefn Gwlad Cymru” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.

54

Yn rheoliad 31(2), yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “Gorff Adnoddau Naturiol Cymru”.

Gorchymyn Strategaethau Troseddau ac Anhrefn (Disgrifiadau Rhagnodedig) (Cymru) 200955

Yn erthygl 3(2)(a) o Orchymyn Strategaethau Troseddau ac Anhrefn (Disgrifiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2009164, yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 200956

1

Mae rheoliad 2(1) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 2009165 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn y diffiniad o “y cyrff ymgynghori”, yn is-baragraff (b)—

a

ym mharagraff (ii), yn lle “Cyngor Cefn Gwlad Cymru” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”;

b

hepgorer paragraff (iii).

3

Yn y diffiniad o “ardal sensitif”, yn is-baragraff (e), yn lle “Gyngor Cefn Gwlad Cymru” rhodder “Gorff Adnoddau Naturiol Cymru”.

Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) (Cymru) 2010

57

Mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) (Cymru) 2010166 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

58

1

Mae rheoliad 2(1) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Hepgorer y diffiniad o “Asiantaeth yr Amgylchedd”.

3

Yn y man priodol, mewnosoder—

  • ystyr “CANC” (“NRBW”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;

59

Yn rheoliadau 3(1)(c)(i) a 7 i 9, ac yn Atodlen 2, ym mharagraffau 5(1)(b) a 7, yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” ac “Asiantaeth”, ym mhob man lle y maent yn digwydd, rhodder “CANC”.

Gorchymyn Sancsiynau Sifil Amgylcheddol (Cymru) 201060

Yn erthygl 2 o Orchymyn Sancsiynau Sifil Amgylcheddol (Cymru) 2010167, yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”168.

Gorchymyn Rheilffordd Llangollen a Chorwen 2010

61

Mae Gorchymyn Rheilffordd Llangollen a Chorwen 2010169 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

62

Yn erthygl 9(8)(a) a phennawd erthygl 21, yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.

63

Yn Atodlen 4, yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd”, ym mhob man lle y mae'n digwydd (gan gynnwys ym mhennawd yr Atodlen honno), rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.

Gorchymyn Pysgod Môr (Ardal Benodedig) (Gwahardd Offer Gosod) (Cymru) 201064

Yn erthygl 4(1)(a) o Orchymyn Pysgod Môr (Ardal Benodedig) (Gwahardd Offer Gosod) (Cymru) 2010170, yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “Gorff Adnoddau Naturiol Cymru”.

Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011

65

Mae Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru 2011171 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

66

Yn erthyglau 18(1) ac 19(1), ar ôl “gan neu ar ran” mewnosoder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru neu”.

67

Yn erthygl 25(1), yn lle “Gyngor Cefn Gwlad Cymru”, ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “Gorff Adnoddau Naturiol Cymru”.

Rheoliadau Apelio ynghylch Gwybodaeth am Reoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (Cymru) 201168

Yn rheoliad 1(c)(ii) o Reoliadau Apelio ynghylch Gwybodaeth am Reoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (Cymru) 2011172, ar ôl “Asiantaeth yr Amgylchedd” mewnosoder “a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru”.

Rheoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011

69

Mae Rheoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011173 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

70

Yn rheoliad 2, yn y diffiniad o “y system WasteDataFlow”, yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “Gorff Adnoddau Naturiol Cymru”.

71

Yn rheoliad 3(1), yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.

Gorchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 2011

72

Mae Gorchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 2011174 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

73

Yn erthygl 3(3), yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “Gorff Adnoddau Naturiol Cymru”.

74

1

Mae erthygl 3 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Ym mharagraff (2)—

a

yn is-baragraff (b), yn lle “cyfeiriad yn adran 157(6)(a)” rhodder “cyfeiriadau yn adran 157(6)(a) a (7)(a)”;

b

yn is-baragraff (c), ar ôl “i (e)” mewnosoder “a (7)(c)”.

3

Ym mharagraff (3), ar ôl “ei roi i” mewnosoder “Gorff Adnoddau Naturiol Cymru neu”.

75

1

Mae erthygl 4 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Ym mharagraff (1)—

a

yn is-baragraff (a), ar ôl “Agency” mewnosoder “or the NRBW”;

b

yn is-baragraff (c)—

i

yn y geiriau agoriadol, hepgorer “yn lle'r geiriau “the Agency””;

ii

ym mharagraff (i), ar y dechrau mewnosoder “yn lle'r geiriau “the Agency or the NRBW” in”;

iii

ar ôl paragraff (i) mewnosoder—

ia

yn lle'r geiriau “the Agency or, as the case may be, by the NRBW” in section 154(2);

iv

ym mharagraff (ii), yn lle “yn y man lle y maent yn ymddangos” rhodder “yn lle'r geiriau “the Agency or the NRBW””;

v

ym mharagraff (iii), yn lle “yn y man lle y maent yn ymddangos am yr ail a'r trydydd tro” rhodder “yn lle'r geiriau “the Agency or the NRBW” a “the Agency or, as the case may be, the NRBW””;

c

ar ôl is-baragraff (ch) mewnosoder—

d

bod adran 154(7) wedi ei hepgor.

3

Ym mharagraff (2)—

a

yn is-baragraff (a), ar ôl “The Agency” mewnosoder “and the NRBW”;

b

yn is-baragraff (b)—

i

ar ôl “the Agency” mewnosoder “or, as the case may be, the NRBW”;

ii

hepgorer “a (6)”;

c

yn is-baragraff (c), ar ôl “157(2)(b)” mewnosoder “a (6)”;

d

ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—

ca

bod y geiriau “the local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “the NRBW” lle y maent yn ymddangos yn adran 157(7);

e

yn is-baragraff (ch), yn lle “157(6)(a)” rhodder “157(7)(a)”;

f

yn is-baragraff (d), yn lle “157(6)(c) i (e)” rhodder “157(7)(c)”.

76

1

Mae erthygl 6 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Ym mharagraff (1)—

a

yn is-baragraff (a)—

i

yn y geiriau agoriadol, ar ôl “Agency” mewnosoder “or by the NRBW”;

ii

ym mharagraff (ii), hepgorer “am y tro cyntaf”;

b

yn is-baragraff (b)—

i

yn y geiriau agoriadol, ar ôl “Agency” mewnosoder “or the NRBW”;

ii

ym mharagraff (ii), hepgorer “am yr eildro”.

3

Ym mharagraff (2)—

a

yn is-baragraff (a), ar ôl “Agency” mewnosoder “or by the NRBW”;

b

yn is-baragraff (b), ar ôl “Agency” mewnosoder “or the NRBW”;

c

yn is-baragraff (ch), ar ôl “171(2)(b)” mewnosoder “a (6)”.

4

Ym mharagraff (3)—

a

yn is-baragraff (dd)—

i

ar ôl “Agency” mewnosoder “or the NRBW”;

ii

hepgorer “ac 8”;

b

ar ôl is-baragraff (dd) mewnosoder—

fa

bod y geiriau “or a local authority” wedi eu rhoi yn lle “, the Agency or the NRBW” ym mharagraff 8(1);

77

Yn erthygl 8, yn lle “Agency”, ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “appropriate agency”.

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012

78

Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012175 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

79

1

Mae erthygl 27(3) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Yn is-baragraff (b), yn lle “Cyngor Cefn Gwlad Cymru” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.

3

Hepgorer is-baragraff (c).

80

1

Yn Atodlen 4, mae'r Tabl wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd”, ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.

3

Yn lle “Cyngor Cefn Gwlad Cymru”, ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “ Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.