11.—(1) Mae rheoliad 2(1) o Reoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gweithdrefnau Apelau) (Cymru) 2002(1) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer y diffiniad o “y Cyngor”.
(3) Yn y man priodol mewnosoder—
“ystyr “CANC” (“the NRBW”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;”.
(4) Yn lle “y Cyngor”, ym mhob man lle y mae'n digwydd (ac eithrio yn y diffiniad o “y Cyngor”), rhodder “CANC”.
O.S. 2002/1794 (Cy. 169) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/142 (Cy. 14), 2O.S. 005/1154 (Cy. 71), O.S. 2005/1270 (Cy. 90).