ATODLEN 5OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004I126
1
Mae rheoliad 4 o Reoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004154 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Yn lle paragraff (1) rhodder—
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mewn perthynas â phob cynllun neu raglen y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt, mae pob un o'r cyrff canlynol yn gyrff ymgynghori—
a
Corff Adnoddau Naturiol Cymru;
b
Cadw.
3
Ym mharagraff (2), yn lle “corff a grybwyllir ym mharagraff (1)” rhodder “Cadw”.